Odlgymix vs. y ffagl Olympaidd

Odlgymix

Wyt ti’n chwilio am y gwrthwenwyn i’r holl busnes ffagl Olympaidd?

Dyma tiwn hiphop newydd sbon o’r enw Straffagl gan yr artist newydd Odlgymix.

“Pa mor hawdd yw diffodd fflam / yn arbennig un di warchod gan mygs y Met bob cwr bob cam”

Mae Odlgymix yn rapiwr a chynhyrchydd o Gymru sydd yn byw yn Nghantre’r Gwaelod yn ôl ei thudalen Soundcloud. Ei dylanwadau tebyg yw llyfrau Asterix, y ffilm The Usual Suspects a’r band Public Enemy – dw i’n cymryd.

2 sylw ar “Odlgymix vs. y ffagl Olympaidd”

  1. Mond rwan dw i’n dod rownd i wrando ar hwn – geiriau arbennig ac yn cyfleu union deimladau trwch sylweddol o’n bobl dw i’n sicr ar draws y sbectrwm wleidyddol, saafwbynt sy’n cael ei wfftio o’r ffordd.

    Un peth positif o’r Olympics yma yw bod credigrwydd newydd yn dod i’r amwlg.

Mae'r sylwadau wedi cau.