Diwedd Recordiau Peski: dyddiau olaf, dyddiau cynnar

Roedd allbwn Recordiau Peski wedi tawelu ers sbel ac yn awr maen nhw wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dod i ben fel label yn swyddogol.

O’n i’n caru Peski ond dw i ddim yn teimlo yn hynod negyddol heno. Hynny yw, daeth y cadarnhad ar raglen radio C2 ar yr union funud yr oedd Gwenno yn gigio yn NANTES

… heb sôn am ei pherfformiadau diweddar yn AUSTIN, TEXAS.

Hefyd mae bron pob artist sydd erioed wedi bod ar y label yn dal i wneud pethau diddorol dros ben – yn ogystal â thiwns mae rhai ohonyn nhw yn frysur wrth gynhyrchu a rhyddhau Cymry newydd.

Dyma ddathliad bach o fywyd a dylanwad y label er mwyn gwneud yr achos dros Peski fel un o’r Labeli Mwyaf Cŵl Erioed.

Cyd-sylfaenydd a chyd-reolwr y label Rhys Peski oedd yn cynhyrchu a chanu caneuon Jakokoyak.

Cafodd e dipyn o sylw yn Japan. Ar un adeg roedd pobl yng Nghymru yn meddwl ei fod e’n hanner Japaneiaidd oherwydd rhyw si mewn erthygl yn nudalennau cylchgrawn Tacsi.

Dw i’n cysylltu’r cyfnod cynnar yma gyda darganfyddiad o artistiaid chwaraeus ac arbrofol fel David Mysterious ac Evils.

Dyma i chi ddau artist Peski – fersiwn Plyci o’r gân Birds in Berlin gan y grŵp VVolves ydy hon.

Mae Twinfield, gynt o’r band, yn un i’w ddilyn yn sicr.

Daeth EP Cate le Bon Edrych Yn Llygaid Ceffyl Benthyg mas ar Peski fel CD a record finyl 10″ wyn, y casgliad cyntaf go iawn o diwns gan Cate le Bon i gael ei ryddhau dw i’n credu – heblaw am un sengl.

Fe arosodd y recordiadau ar yr EP am dipyn cyn iddyn nhw weld golau dydd (os dw i’n cofio’n iawn?). I Lust U gan Neon Neon oedd yn yr un flwyddyn, 2008.

Mini sydd yn canu tu ôl i Cate le Bon yn y fideo ddiwethaf. Dyma fideo ei gân solo Braf Dy Fywyd a gynhyrchwyd gan Siôn Mali yn 2015.

Dw i’n hoff iawn o gyfuniad Mini o guriadau ac alawon pop ar ei EP Câr Dy Henaint gyda geiriau yn Gymraeg – a’r Fasgeg.

Mini oedd prif ganwr Texas Radio Band wrth gwrs. O’n i’n falch bod Peski wedi achub eu hail albwm Gavin yn 2008 ar ôl dros flwyddyn o ansicrwydd a dyluniadau drafft arfaethedig gwahanol. Stori arall ydy hyn i gyd. Mae’r fideo hon gan Roughcollie i’r gân Swynol.

Gallen nhw wedi bod yn fwy ond ‘dŷn ni ddim yn disgwyl rhagor o waith wrth TRB fel grŵp. Tanio mosh-pit gigs ei dad y mae drymiwr Gruff Ifan. Mae Alex Dingley a Squids yn dal i wneud cerddoriaeth o Gymru fel artistiaid solo. Ond mae Mini wedi symud i fyw yng Ngwlad y Basg. Rhodri Tony, sydd wedi ei adleoli i Sydney, Awstralia, wedi dechrau band o’r enw Juju Wings, wedi gwynnu ei wallt ac ar fin newid ei enw i SHANE am wn i.

Gwnaeth Peski ‘ddarganfod’ yr artist cerddorol amldalentog R. Seiliog hefyd. Mwy na chwaethus.

Mae indie-pop di-gywilydd Radio Luxembourg yn sefyll mas ar gatalog Peski, label a oedd yn adnabyddus am stwff electronig, pop arbrofol, ayyb, fel arfer.

(Wedi dweud hynny, gwnaethon nhw ryddhau stwff solo Rhydian Dafydd cyn iddo fe ddechrau The Joy Formidable gyda’i ffrindiau – ond dw i ddim wedi clywed y record yna.)

Ta waeth, EP wnaeth Radio Luxembourg i Peski – ac wedyn sengl tua’r un pryd a ymaelododd Gwion Llewelyn, bellach o grŵp Yr Ods.

Newidiodd yr enw i Race Horses wedyn wrth gwrs. Sôn ydw i rhag ofn bod plant yn darllen.

Daethon nhw i ben yn y flwyddyn arwyddocaol 2013. Mae cyn-aelodau Alun Gaffey a Meilyr Jones newydd ryddhau albymau solo gwych eleni wrth gwrs. Mae pawb yn gwybod hynny.

Mae gwefan Peski wedi marw ac mae’r catalog ar Discogs yn anghyflawn ar hyn o bryd ond allwn i ddim anghofio’r Pencadlys.

(Mae hi’n digon posib fy mod i wedi anghofio eraill ddo. Sori.)

Roedd Peski yn llawer mwy na label.

Bydd y casgliad CAM 1 wastad yn fy atgoffa o’r sioe radio hudolus Cam o’r Tywyllwch, yn ogystal â gweld Datblygu yn FYW, dawnsio i electro yn y Ganolfan a llawer mwy yn yr ŵyl hollol unigryw CAM y llynedd – ac hefyd y ffaith gwnes i fethu pob un digwyddiad arbennig o dan yr enw Peskinacht. Does neb yn berffaith.

Pwy sy’n cofio’r siop recordiau ar-lein Sebon a werthodd cerddoriaeth o Gymru o bob genre i gwsmeriaid ar draws y byd? Sadwrn oedd enw y siop wedyn, o dan reolaeth gwahanol. Roedd Peski yn gyfrifol am ddechrau’r fenter yna yn wreiddiol hefyd. Tipyn o gamp.

Dyma Gwenno i orffen yr hanes cryno – a dechrau hanes newydd.

Roedd 2002-2003 yn flynyddoedd heriol i ddechrau label annibynnol ar brinder o adnoddau. Ac roedd hi’n gwbl amlwg ar y pryd.

Ond fe wnaeth Rhys Peski a Garmon Peski ddechrau label ta waeth achos roedden nhw’n ysu i rannu pethau arbennig gyda ni.

Diolch o galon a phob bendith i Rhys Peski a Garmon Peski, siŵr o fod y ddau fentergarwr record neisaf yn y byd.

@peskirecords

Gŵyl CAM: Datblygu, Ela Orleans, Ann Matthews, Agata Pyzik…

gwyl-cam-2015

Digwyddiad newydd sbon o drafodaethau, ffilm a gigs fydd Gŵyl CAM ac mae’r cyfan yn digwydd yng Nganolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn 25ain o Ebrill 2015 o 12 hanner dydd ymlaen.

Mae CAM yn gyrchfan aml-gyfrwng sy’n cael ei churadu a’i ddatblygu gan Peski. Mae’n cynnig platfform i gerddoriaeth arbrofol a ffilmiau anturus o Gymru, yn ogystal â rhoi sylw i artistiaid o amgylch y byd sydd o’r un brethyn creadigol. Mae CAM yn gweithredu fel rhaglen radio wythnosol, yn guraduron ffilmiau a rhaglenni dogfen blaengar, yn gylchgrawn digidol ac yn gyfres o ddigwyddiadau byw – yn hafan i feddwl amgen.

Mae dim ond 300 o docynnau ac yn ôl y sôn maen nhw yn gwerthu yn dda. Bydd nifer cyfyngedig ar gael wrth y drws. Fel arall mae modd mynychu rhai o’r pethau am ddim heb docyn.

Ond bydd rhaid i chi brynu tocyn i fynychu’r gigs. Mae’n synnu fi nad oedd unrhyw straeon o gwbl yn y cyfryngau prif ffrwd, hyd y gwn i, am ddychweliad Datblygu i’r llwyfan. Dw i’n cyffroi ac hefyd yn teimlo bach yn nerfus am y peth.

Trefnwyr Gŵyl CAM yw’r pobl ysbrydoledig tu ôl i’r sioe radio hudolus Cam o’r Tywyllwch; Gwenno Saunders, Rhys “Jakokoyak” Edwards a Garmon Gruffydd. Mae Rhys a Garmon yn rhyddhau cerddoriaeth o’r radd flaenaf trwy Recordiau Peski ers rhywbeth fel 12 mlynedd hefyd. Diolch o galon iddynt hwy!

Cam o’r Tywyllwch: sioe Peski / Gwenno Saunders ar Radio Cardiff

Disco, dyb, electronica, pop… Dw i’n bwriadu tiwnio mewn i’r sioe radio Cam o’r Tywyllwch pob nos Iau am 8yh hyd yn oed os yw’r cyd-denant yn mynnu gwylio Pawb a’i Farn ar S4C ar yr un pryd.

Mae modd gwrando ar y sioe gyntaf penigamp gan Gwenno Saunders a chriw Peski yma. Darllediwyd y sioe yn wreiddiol ar Radio Cardiff ar nos Iau 14eg mis Chwefror 2013.

Dyma’r rhestr o draciau:

Ymestyn Dy Hun – Y PENCADLYS

Do or Die – THE LEAGUE UNLIMITED ORCHESTRA

Princess With Orange Feet – SUZANNE CIANI

Sturdy Seams / Wingsuit Dreams – R SEILIOG

Skerries – SEINDORFF

Prydferthwch – LLWYBR LLAETHOG

Program – SILVER APPLES

Opie, Davy, Foote, Trevithick & Bone – BRENDA WOOTON

The Star – MARIA MINERVA

Dim Deddf, Dim Eiddo – DATBLYGU

(First Attempt) – TONFEDD OREN

Helo Rhywbeth Newydd – POP NEGATIF WASTAD

What Would You See If You Sat On a Beam of Light – GERAINT FFRANCON

Secret Friend – PAUL MCCARTNEY

Goodbye – MARY HOPKIN

Rotolock – DAPHNE ORAM

Tears in the Typing Pool – BROADCAST

White Socks, Shiny Shoes (feat. Renee Brady) – ADAMSTOWN SOUND

Paid a Synnu – TYNAL TYWYLL

Mutterlin – NICO

Tour De France – KRAFTWERK

Bi Bop Roberts – Y CELFI CAM

Tref Londinium – GERAINT JARMAN

Dw i’n falch bod rhywun arall yn sylweddoli talent yr artist Paul McCartney.

Dilynwch Cam o’r Tywyllwch ar Twitter.

Recordiau Peski – blas o’r ôl-gatalog

Dyma gasgliad o tiwns sydd wedi dod mas ar Recordiau Peski dros y blynyddoedd. Traciau:

1. Land of Bingo – Bottle It In
2. VVOLVES – People
3. Plyci – Flump
4. Jakokoyak – Prypiat
5. Cate Le Bon – Byw Heb Farw
6. Texas Radio Band – Swynol
7. Radio Luxembourg – Cartoon Cariad
8. Stitches – We All Fall Down
9. David Mysterious – Dr. Manhattan
10. Evils – Idiophone

Rwyt ti’n gallu eu lawrlwytho nhw o’r chwaraewr uchod. Cer i broffil Soundcloud Recordiau Peski am fwy.

Plyci a ffrindiau yng Ngwyl Sŵn

Ardderchog!

Cân o’r enw Flump o’r Flump EP ar Recordiau Peski.

A phwy yw Plyci? Dim ond y peth gorau o’r Rhyl ers Kwik Save.

Llawer mwy trwy’r tudalen Plyci ar Soundcloud.

Paid anghofio, mae Plyci yn chwarae yn fyw nos Wener yma fel rhan o’r noson Electroneg yng Ngwyl Sŵn, Caerdydd gyda:
Dam Mantle (Recordiau Wichita)
Quinoline Yellow (SKAM)
Cian Ciarán (Super Furry Animals / Acid Casuals / Aros Mae / WWZZ / Pen Talar)
ac Electroneg DJs.

IDDI.