Atgofion o John Bwlchllan

Rydym wedi gofyn i bobl gwahanol am eu hatgofion o John Bwlchllan a fu farw yr wythnos hon. Yn ogystal ag atgofion mae detholiad o ddyfyniadau sy’n dod o’r cyfryngau cymdeithasol – gyda chaniatad yr awduron. Gruffudd Antur: Yng nghornel fach, fach ei fyd – anwesai bob hanesyn llychlyd yn ei gof, a’u ffeilio i gyd … Parhau i ddarllen “Atgofion o John Bwlchllan”

Arwyddion Ffyrdd Dwyieithog gan Roderic Bowen et al, 1972

Roedd yr awdur JG Ballard yn hoff iawn o ddogfennau o bob math, hyd yn oed gweithiau sydd ddim yn atyniadol iawn i’r mwyafrif o ddarllenwyr. Bathodd Ballard y term ‘llenyddiaeth anweledig’, sef genre posibl sydd yn cynnwys gweithiau fel adroddiadau, dogfennau swyddogol, trawsgrifiadau o recordiadau o’r bocs du mewn awyren, llyfrau ffôn ac ati. Mae’r … Parhau i ddarllen “Arwyddion Ffyrdd Dwyieithog gan Roderic Bowen et al, 1972”

Andy Votel ac ail-darganfod recordiau o Gymru

Llun o Andy Votel yng Nghaerdydd gan Naomi Lane Pam nawr ydy BBC Radio 4 yn darlledu rhaglen newydd sbon gan Andy Votel am hen gerddoriaeth Cymraeg? Daeth ei gasgliadau o Recordiau Sain cynnar (a Dryw ac ati) o’r enwau Welsh Rare Beat a Welsh Rare Beat 2 – gyda ail-rhyddhad o faterion Galwad y … Parhau i ddarllen “Andy Votel ac ail-darganfod recordiau o Gymru”

Ffilmiau yng Nghymru: Oes yr Addewid?

Mae bod yn film-geek yng Nghymru yn gallu bod yn brofiad hynod fasocistaidd ar adegau, yn enwedig os yw’r film-geek dan sylw wrth ei bodd gyda gallu’r cyfrwng poblogaidd hwn i gyffroi cynulleidfaoedd a chyfathrebu negeseuon di-ri, ac ar dân i weld ei diwylliant ei hun yn cael cynrhychiolaeth ar y sgrîn fawr. Safon amrywiol … Parhau i ddarllen “Ffilmiau yng Nghymru: Oes yr Addewid?”

Y 20 Gorau Electronica 1989 – 2009

Yn y bôn mae’r term ‘electronica’ yn cyfeirio at unrhyw gerddoriaeth sydd wedi cael ei gynhyrchu trwy gyfrwng electroneg. Yn ôl yn y 1950au a’r 1960au roedd cyfansoddwyr fel Karlheinz Stockhausen a Iannis Xenakis yn gwthio’r amlen gyda’u harbrofion mewn musique concrete gan ddefnyddio cyfarpar electroneg gynnar a chwarae o gwmpas efo peiriannau recordio a … Parhau i ddarllen “Y 20 Gorau Electronica 1989 – 2009”