Pigion o archifau Desert Island Discs

DesertIslandDiscs-467Yn ddiweddar, gwnaeth y BBC rhyddhau llwythi o stwff o’r archifau Desert Island Discs – rhestrau caneuon a rhaglennu fel ffrydiau ac MP3.

Cryfder Desert Islands Discs yw’i gwendid. Hunangofiant trwy gyfrwng recordiadau yw’r rhaglen. Felly mae’n llawn pobol sydd wedi llwyddo yn barod, yn llygaid BBC Radio 4. Ac mae’n tueddu tuag at bobol a dewisiadau saff (dim ond un person am Kraftwerk, Frank Skinner, dim ond un person am Aphex Twin, Vic Reeves, dim ond un person am Public Enemy, Kwame Kwei-Armah? Pfft!).

Ambell waith dw i eisiau clywed beth mae pobol dw i’n parchu yn ei gwrando, hen a newydd – fel rhaglen radio. (Syniad i bobol radio neu blogwyr/podlediadwyr?) Yn enwedig dw i eisiau clywed sgyrsiau yn Gymraeg am bob math o gerddoriaeth gan gynnwys cerddoriaeth o du allan i Gymru.

Yn y cyfamser, mae’r archif Desert Island Discs yn werth cipolwg. Os oes gyda ti unrhyw ddiddordeb o gwbl yn Morrissey, Jarvis Cocker, Jan Morris (yn 2002, roedd hi ar y rhaglen yn 1983 hefyd), John Cale, Bill Bailey, Linton Kwesi Johnson, Ken Loach, wel, rwyt ti’n gwybod beth i’w wneud.

Mae dim ond 30 eiliad o’r caneuon yn yr MP3s (cyfyngiadau hawliau) felly mae rhaid gwrando ar y ffrydiau iPlayer i glywed mwy o’r recordiadau.

Mantais arall yw’r dadfwndelu: does dim rhaid i ti wrando ar y rhaglen llawn i fwynhau’r ailgymysgiad asid gan Hardfloor o’r clasur clwb Yé Ké Yé Ké gan Mory Kanté ar BBC Radio 4 (hoff gân… Nigella Lawson) neu ddychmygu Alan Johnston ar y ffordd i gyfarfodydd Blair a Brown gyda Super Furries ar y stereo.

Dyma bigion o’r archif Desert Island Discs:

10 sylw ar “Pigion o archifau Desert Island Discs”

  1. Ydy Odeo wedi marw?

    Wna i lanlwytho fe ‘to pan y galla i; dim trydan ym Mhontgarreg heddi. Wedi gorfod cerdded milltir o’r tŷ i godi ebost.

  2. Dim ond tair merch rwyt ti wedi eu rhestru. Yw bywydau merched a’u blas mewn cerddoriaeth yn ddiflas i ti?

  3. Rhuban, pwynt dilys iawn. Dw i newydd ychwanegu mwy o’r rhaglenni newydd i’r rhestr er mwyn trio cael mwy o gydbwysedd.

Mae'r sylwadau wedi cau.