Gangster Cymraeg: cocên, cash ac Audi TT

Gangster Cymraeg

Gwrandewch ar hanes hynod un bywyd gangster ar y rhaglen radio BBC Radio Cymru Straeon Bob Lliw.

Hyd yn hyn does dim llawer o drafodaeth wedi bod ar-lein am y rhaglen a ddarlledwyd heddiw ond mae hi’n werth eich amser am ei sylwadau, heb sôn am unrhyw beth arall:

“[…] yn y gêm drugs, os ti’n soft, ma’ pobl yn mynd i gymryd y piss – softie ydw i – ond odd raid i fi i fod yn gwerthu drugs a gneud lot o bres o’dd raid i fi ddechra’ mynd i gym, a steroids a cal tattoos just i ‘neud y look – ti’n gwbod, ma hwn chydig bach o nytar ia. Ifanc ac yn stiwpid ia. […]”

“[…] o ni’n dreifio rownd efo ceir posh. Oedd gen i Astra VXR, ges i Audi TT, ges i Mini Cooper, ges i BMW One Series, ges i motobeics… efo cash straight. O ni’n byw fatha king am two and a half years. […]”

Mae Cymru Fyw wedi cyhoeddi erthygl sy’n cynnwys cyfweliad gyda’r boi, Jason o Ddeiniolen, hefyd.

Llun: poster gan Y Twll ar gyfer addasiad ffilm dychmygol o Gangster Cymraeg

Atgofion o John Bwlchllan

Dr John Davies gan Fæ (CC-BY-SA)

Rydym wedi gofyn i bobl gwahanol am eu hatgofion o John Bwlchllan a fu farw yr wythnos hon. Yn ogystal ag atgofion mae detholiad o ddyfyniadau sy’n dod o’r cyfryngau cymdeithasol – gyda chaniatad yr awduron.

Gruffudd Antur:

Yng nghornel fach, fach ei fyd – anwesai
bob hanesyn llychlyd
yn ei gof, a’u ffeilio i gyd
yn hofel ei ben hefyd.

Guto Dafydd:

Y peth trawiadol ynghylch y rhaglen deledu ddiweddar am John Davies oedd y gwahaniaeth rhwng y ddelwedd o hanesydd – yr awdurdod cadarn, gwybodus, cyhyrog ei ryddiaith – a’r dyn ei hun. Roedd y ffilm yn dangos dyn llwyd, disylw, gyda’i ddillad cyffredin a’i arferion smala. Ie, dyn ffraeth, dymunol, llawn arabedd – ond dyn nad oedd ei ymddangosiad yn awgrymu iddo gyfoethogi bywyd ei genedl yn y fath fodd. Heddiw, mae’r gwahaniaeth hwnnw’n fwy amlwg byth: efallai fod y dyn wedi marw, ond bydd ei waith a’i gyfraniad yn parhau’n allweddol am flynyddoedd i ddod.

Bwlch-llan
Gwirionedd y Galon: John Davies, S4C, 29/12/2013

Fe’u gweli di nhw’n aml, heb sylwi:
y dynion sy’n llwyd fel ffenestri arosfannau bysiau,
ac sy’n crwydro’r ddinas – o fainc i dŷ teras
i gornel siop lyfrau – gan afael mewn bagiau plastig.

Mi ddalian nhw’r drws i ti yng nghysgod canolfan siopa,
â chyfarchiad bach llachar; mi safant o’r neilltu
yn siop gornel Ashghani, â fflach yn eu llygaid;
ei dithau heibio ar frys, gan wenu’n swil
ac anadlu pnawniau o gwrw cynnes
yn llwch tafarnau sy’n gweld eisiau oglau’r mwg.

Beth pe bai gan un o’r rhain
hanes gwlad yn gyflawn yn ei ben
a thŷ tu hwnt i’r ddinas lle mae’r awyr yn lanach:
sylwet ti?

Yr Athro Daniel G. Williams:

Atgofion am rannu sawl peint gyda John yn y Cwps, Aberystwyth, sydd gen i yn bennaf, ac mi fyddai’r nosweithiau hynny yn arbennig o hwylus petai Hywel Teifi yn digwydd bod yn ymchwilio yn y Llyfrgell Genedlaethol, neu Phil Williams wedi bod yn ymarfer ei sax fyny’r grisiau gyda’r band cymunedol JazzWorks.

Am Gymro ‘cenedlaethol’ roedd John yn wahannol i Hywel am nad oedd yn gapelwr na ganddo ddiddoreb mewn chwaraeon, ac yn wahannol i Phil am nad oedd cerddoriaeth o fawr bwys iddo ychwaith. Roedd John yn unigryw.

Roedd synnwyr digrifwch iach ganddo, a fy hoff anecdot o Hanes Cymru yw pan mae’n sôn am ‘ymddangosiad phenomen newydd yn y 30au sef Cymry dosbarth canol hyderus eu Cymreictod’ gyda W J Gruffydd a’i coterie yn Rhiwbeina. ‘Fe allai’r dosbarth hwn fod yn hynod bell oddi wrth brofiadau trwch y Cymry’ nododd John gan ddyfynu W J Gruffydd ychydig wedi methiant y Streic Cyffredinol: ‘Blwyddyn ddu fu 1926 i Gymru. Nid oeddem ond yn prin ddysgu cynefino â cholli y Prifatho [Thomas] Rees pan fu farw y Prifathro J H Davies’.

Hanesydd oedd John Davies wrth ei alwad a’i alwedigath. Fel noda fy nhad Gareth Williams sydd â meddwl uchel iawn o John Bwlchllan, roedd John yn anarferol o gyffyrddus wrth ddelio gyda cymlethdodau tir ddaliadaeth, rhenti, prydlesi, morgeisi a’r manylion dyrus cyfreithiol ac economaidd. Dyna hanfod ei lyfr ar Gaerdydd a’r Butes ac hefyd ei waith ar fachlud y meistri tir ganrif yn ôl.

Roedd ei adnabyddiaeth o Gymru a hanes Ewrop yn eang. Dywedodd wrtha’ i unwaith ei fod wedi ymweld â phob plwyf a llan yng Nghymru, ac hawdd credu hynny. Yn wahannol i sawl hanesydd o genedlaetholwr, roedd John yn sicr mai’r ffaith bwysicaf yn hanes Cymru oedd y chwyldro diwydianniol a phrofiad y de-ddwyrain, yn arbennig twf – a dirywiad – y maes glo.

Mae hyd yn oed Gwyn Alf Williams yn When Was Wales yn treulio hanner ei lyfr ar y cyfnod cyn 1536. Ar echel yr 1770au y mae hanes Cymru yn troi i John, ac mae bron hanner ei gampwaith Hanes Cymru yn delio â’r cyfnod wedi hynny.

Gyda Janet ei wraig wrth gwrs yn dod o Flaenau Gwent roedd e wastad yn cyffroi pan fyddai Sioned fy ngwraig yn ei atgoffa bod hithau yn dod o Rhymni. Creodd stori genedlaethol amgen i’r un Llafuraidd. Ond stori genedlaethol oedd hon a osodai profiad mwyafrif y Cymry yn ei chanol. Dyna, i’m tyb i, ei gyfraniad arhosol.

Siôn Jobbins:

Teimlo gwacter wrth feddwl bod Dr John Davies wedi marw. Roedd wastad yn barod iawn i siarad a rhannu ei wybodaeth efo fi pan oeddwn yn ei ffonio i holi am rhyw bwynt ar gyfer un o fy erthyglau. Roeddwn am ei holi am awgrymiadau i fy llyfr nesa ar faner Cymru, ond mae’n rhy hwyr bellach. Roedd yn esiampl o academydd democrataidd yn hael ei wybodaeth.

Roedd hefyd yn hael efo pobl – yn deall ein bod i gyd â beiau, gwendidau, nwydau a rhinweddau. Dyn democrataidd iawn ac esiampl o genedlaetholwr dyngarol.

Dwi’n gwenu wrth feddwl amdano hefyd. Ers 20 mlynedd pob tro byddwn yn cwrdd ag e, byddai’n dweud, “Sut mae’ch tâd, Alan Jobbins, bachan da. Boi da yw’ch tad, Jobbins Senior. Cofiwch fi ato.”

Ni ‘di colli rhywun arbennig. Ac roeddwn i dal yn ‘chuffed’ ei fod yn barod i siarad ‘fa fi, rhyw stiwdant mediocre o Bantycelyn. Pob nerth i’r teulu.

Lowri Haf Cooke:

Gyda thristwch mawr y clywais i’r newyddion p’nawn ddoe am farwolaeth Dr John Davies. Roedd yn ddyn a wnaeth gyfraniad aruthrol i’r iaith Gymraeg, gan gynnwys ym maes darlledu.

Dwi’n cofio cwrdd ag e gyntaf ar gyfer rhaglen gelf i Radio Cymru yn ei fflat ger tafarn y Cŵps yn Aberystwyth. Roedd yn wybodus, yn ddifyr ac yn annwyl tu hwnt – roedd hi wastad yn wefr i’w groesawu i swyddfa Radio Cymru, ar bob achlysur.

Fe, yn naturiol, oedd y go-to-guy ar gyfer unrhyw eitem hanes, ond dwi’n ei gofio’n siarad yr un mor angerddol mewn slot fasiwn rhywdro am hanes ei wasgod bysgota.

Roedd e hefyd yn gyfrifol am drobwynt mawr yn fy hanes i, wrth ddeffro’r diddordeb yn fy ninas. Fe oedd gŵr gwadd cyntaf cangen Cyncoed Merched y Wawr yn ystod tymor Hydref 2011, ac ro’n i yno i recordio pwt ar gyfer seinlun o Gaerdydd – rhaglen radio o’r enw Diwrnod yn y Ddinas.

Roedd e’n ddiawledig o hwyr yn cyrraedd, ond doedd dim ots gan neb, gan iddo fwrw mlaen i draethu’n ddi-dor am dros ddwyawr, heb sgrapyn o bapur o’i flaen. Hoeliwyd ein sylw ni i gyd, o’i agoriad rhagorol, yn adrodd hanes ei ‘fedydd’ yn yr afon Tâf wrth syrthio i gamlas yr Aes yn blentyn bach. Fe daniodd e fflam yndda i, fel siaradwraig Cymraeg o Gaerdydd, i ymhyfrydu yn hanes – a dyfodol – fy ninas.

Arweiniodd y rhaglen at wahoddiad gan wasg Gomer i sgrifennu’r teithlyfr cyfoes Canllaw Bach Caerdydd, a dwi heb edrych yn ôl ers hynny. Ond fel dwi’n dweud yn y gyfrol, ‘Os oes dim ond digon o le i un llyfr yn eich bag llaw, yna wfft i’r Canllaw Bach; gadewch ef wrth erchwyn y gwely, rhowch flaenoriaeth i i lyfr rhagorol Dr John Davies, Cardiff: A Pocket Guide (Gwasg Prifysgol Cymru), a chofiwch ei gadw gyda chi bob amser.’

Mared Ifan

Cefais y fraint o gwrdd â Dr. John ym mis Mehefin y llynedd yn nathliad pen-blwydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn 40 oed. Roedd Neuadd Pantycelyn hefyd yn dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu fel Neuadd Gymraeg y flwyddyn honno a chawsom ginio mawr yng nghwmni cyn-lywyddion UMCA a chyn-wardeniaid Pantycelyn.

Roedd hi’n hynod o bwysig bod ef yno gyda ni’n dathlu, fe wedi’r cwbl oedd wedi sicrhau llwyddiant Pantycelyn fel neuadd Gymraeg. Roedd e’n rhan fawr o’r frwydr i sefydlu’r neuadd fel un i fyfyrwyr Cymraeg ers y cychwyn cyntaf a thrwy ei rôl fel prif warden y neuadd am dros ddeunaw mlynedd, creodd y diwylliant a’r teimlad o gymuned glos hynny sy’n perthyn i’r neuadd hyd heddiw.

Doeddwn ni ddim yn ddigon ffodus i fod yn fyfyrwraig ym Mhanty yng nghyfnod Dr. John ond wrth wrando ar straeon myfyrwyr ar hyd y blynyddoedd, mae’n amlwg mai fe fu’n gyfrifol am greu ysbryd Pantycelyn. Roedd e’n nabod pob myfyrwyr, a’i gof anhygoel yn cofio eu henwau ac enwau eu teuluoedd hyd yn oed, blynyddoedd ar ôl iddynt adael y coleg. Roedd e’n gwmni i’r myfyrwyr, yn ffrind mawr i bob un ohonynt a hefyd yn ddarlithydd penigamp. Mae sawl un wedi dweud wrthyf nad oedden nhw’n gallu ysgrifennu’r un gair yn ei ddarlithoedd, dim ond eistedd a gwrando a gadael i Dr. John ddod â’r hanes yn fyw.

Ar noson y dathlu, dyma wahodd Dr. John i ddweud ychydig o eiriau a dyma ei ddawn o siarad yn dod yn fyw i’r ystafell unwaith eto. Ni wnai fyth anghofio’r teimlad o’i glywed e’n siarad mor dyner ond eto’n mor angerddol am ei gyfnod ym Mhantycelyn. Y gymuned oedd wedi bod yn rhan mor bwysig o’i fywyd, ac yn ôl ef, oedd wedi rhoi’r hyder a’r ysbryd iddo orffen ei gampwaith, Hanes Cymru. Llenwyd yr ystafell ag emosiwn ac roedd lwmp yng ngwddf sawl un ohonom.

Roedd yn ffrind ac yn arwr i gymaint ac roedd ei gyfraniad i Gymru gyfan yn anferth.

Angharad Blythe:

Mi ddudodd John Davies fod o di ystyried rhoi’r gorau i sgwennu Hanes Cymru ar ôl siom refferendwm ’79 am fod o’n ofni nad oedd Cymru’n haeddiannol o’i hanes ei hun. Diolch byth fod o di dyfalbarhau. Amhosib mesur ei gyfraniad. Cydymdeimladau dwysaf i’r teulu ac i’w gydnabod.

Colin Nosworthy:

Atgofion melys o’r cyfleoedd ges i siarad gyda John Davies. Rwy’n cofio fe’n sôn wrtha i mewn cwis cell Caerdydd am yr apêl ariannol a fuodd e’n trefnu er mwyn talu am brotest gyntaf y Gymdeithas yn Aber yn 1963. Cafodd e siec yn ôl i’w gyfeiriad yn Nhrelluest gan Saunders Lewis gyda chyfraniad o £20 at y costau. Yn rhyfedd oll, roedd Saunders wedi gwneud ei daliad i’r “The Welsh Language Society” – gan iddo sgwennu’r siec yn uniaith Saesneg.

Roedd John Davies arfer byw ar Stryd Cornwall, Caerdydd yn y 1960au. (Llun gan Walt Jabsco CC-BY-SA-NC)
Roedd John Davies arfer byw ar Stryd Cornwall, Caerdydd yn y 1960au.

Rhys Mwyn

Yr hyn lwyddodd John Davies i’w gyflawni oedd i wneud Hanes Cymru yn rhywbeth poblogaidd, yn perthyn i’r werin bobl yn ogystal â’r ysgolheigion a myfyrwyr, a peth da yw hynny. Pa werth i’r Hanes onibai fod trwch y boblogaeth yn cael manteisio ar y cyfle i ddeallt mwy am pwy ydyn nhw a lle mae nhw’n byw. Edrychaf ar John Davies fel athrylith o’r un angerdd, ysbryd ac o’r un brethyn a Hywel Teifi – yn gallu cyfathrebu gyda phawb a ddim ofn dweud eu dweud. Amlygir y parodrwydd yma i gyfathrebu yn y ffaith fod John Davies yn barod i wneud ‘gig’ yng Ngŵyl Arall tu allan i furiau saff y sefydliadau ysgolheigaidd. Bydd colled!

Huw Dylan Owen:

Bwlch
Amrwd yw ei Hanes Cymru – heb un
Bennod i ddadlennu
Cenedl a’i gwâr alaru
A’r cof ddeil am athro cu.

Mae teyrngedau eraill ar wefannau: Cymdeithas yr Iaith GymraegBBC Cymru FywPlaid CymruGolwg360.

Llun gan (CC-BY-SA)

…O ddyfnderoedd uffern – Tribulation ’99 gan Craig Baldwin

Ffilm collage arbrofol gan Craig Baldwin yw Tribulation ’99 – Alien Anomalies Under America. Rhagosodiad y ffilm yw bod rhywogaeth estron wedi byw yng nghrombil y ddaear ers canrifoedd, a’u gweithgareddau rhyfedd nhw sydd yn arwain at y Rhyfel Oer. Mae Baldwin wedi dethol ei ddelweddau o adnodd enfawr o ddeunydd archifol, ffilmiau-B ffuglen wyddonol, diagramau a mapiau er mwyn cyflwyno cyfres o ddamcaniaethau cynllwynio. Mae’r delweddau a dilyniannau yn cael eu rhwygo o’u cyd-destunau gwreiddiol a’u gosod mewn fframwaith naratif newydd. Yn gynnar yn y ffilm, yr ydym yn gweld deunydd archifol o bont grog enfawr yn ysgwyd yn wyllt ac yna’n cwympo i’r afon islaw. Mae’n rhesymol i dybio efallai mai daeargryn, corwynt neu drychineb naturiol arall sydd yn gyfrifol am y delweddau trychinebus mewn gwirionedd; fodd bynnag, mae union achos y dymchwel, y ffeithiau cadarn, ar goll.

Mae’r dilyniant yn dechrau (03:35) gyda theitl mewn llythrennau fawr: ‘EARTH’S CREATURES FLEE IN TERROR’ wrth i weithgaredd yr estroniaid dan ddaear sbarduno cyfres o ffenomenau annaturiol, tra bod morgrug a gwenyn mileinig, corynod enfawr yn ymddangos: ‘DEMONS RELEASED FROM THE DEPTHS OF HELL’. Gwelwyd tân, mwg, waliau yn dadfeilio – arwydd bod yr estroniaid wedi dechrau ‘tyrchu i fyny drwy’r pridd gan achosi tirlithriadau a llyncu pentrefi cyfan…yn treiddio cyflenwadau dŵr a systemau charthffosiaeth [yr Unol Daleithiau]'(04:10). Gwelwyd nawr y bont yn siglo, yn ei gyd-destun newydd, ac felly mae’n ganlyniad uniongyrchol o ymddygiad yr estron maleisus. Mae’r dilyniant yn dod i ben gyda delwedd o greigiau yn ffrwydro: ‘THESE ARE THE END TIMES’ (04:52).

Wrth gwrs, mae’r naratif newydd yn rhyfeddol, anghredadwy, dychanol – ond mae’r fframio cyd-destunol yn ail-gymell y delwedd o’r bont yn dymchwel ac yn ailfywiogi’r deunydd gwreiddiol; ond wrth rhwygo delweddau o’r bont o’u cyd-destun gwreiddiol, nid ydynt yn gwbl rhydd o’r ystyr a grëwyd gan y digwyddiad ei hun, ac mae hyn yn fantais i Baldwin. Mae’r cwymp ei hun yn drawiadol. Mae’r màs concrid enfawr yn ysgwyd ac yn chwipio’n wyllt cyn i’r gwifrau dur tynhau a snapio wrth i’r bont syrthio. Mae Baldwin yn cadw pŵer gweledol dramatig y digwyddiad; er bod y cyd-destun naratif wedi newid, mae priodweddau ‘affeithiol’ cynhenid y delweddau yn parhau.

Gerallt: atgofion personol gan gystadleuydd Talwrn y Beirdd

Gerallt. Un o’r beirdd hynny a mae’n debyg y byddai pob Cymro Cymraeg yn gallu ei adnabod wrth ei enw priod yn unig. Mae hynny ynddo’i hun yn dweud y cyfan, felly beth all rhywun ei ychwanegu?

Efallai mai yr unig beth alla’ i ei wneud yw adrodd mymryn o fy mhrofiad personol fel bardd a fu yn ddigon lwcus i fod ar dim Talwrn y Beirdd tra bu Gerallt yn feuryn.

Un profiad nad â fyth o ‘nghof yw fy ymddangosiad cyntaf un ar Raglen Talwrn y Beirdd ar gyfer Radio Cymru. Rhyw noson ddigon gaeafol a gwlyb oedd hi yn Llanbrynmair a ninnau, tim Y Glêr, wedi teithio o Aber. Doeddwn i erioed wedi cyfarfod nac wedi bod yng nghwmni Gerallt cyn hynny. Yn naturiol ddigon, roeddwn i’n eithaf petrus am ddarllen fy ngwaith yn gyhoeddus (am ddim ond yr ail waith), heb sôn am y ffaith y byddai Gerallt, o bawb, yn marcio fy ymdrechion allan o ddeg. Y gobaith oedd dod allan ohoni gyda dim llai nac wyth marc a chyfri fy mendithion.

Cân a thelyneg oedd fy nhasgau i y noson honno. O edrych yn ôl ar y ddwy dasg, ymdrechion digon diniwed a bachgennaidd oedd fy rhai i. Hyd heddiw dwi’n meddwl bod pinsiad o dosturi a diplomyddiaeth yn y naw a hanner marc a gefais yn farciau y ddau dro.

Ond wedi i’r recordio ddod i ben y digwyddodd yr hyn sy’n aros yn y cof. Yn y tŷ bach oeddwn i, yn gwneud yr hyn mae dyn yn ei wneud yn erbyn wal y tŷ bach ar ôl tua’r dwsin o baneidiau te defodol wedi Talwrn. Pwy ddaeth i fewn? Neb llai na Gerallt. Swreal, a dweud y lleiaf, oedd sefyll ochr yn ochr mewn tŷ bach gyda’r bardd y mae cenedlaethau o Gymry Cymraeg wedi’u dysgu i roi ei gerddi ar gof; i gydnabod y paradocs rhwng mawredd y geiriau ac eiddilwch y corff. Be ddiawl oeddwn i fod i ddweud a’i wneud mewn sefyllfa fel hyn? Roedd rhyw barchedig ofn wedi treiddio drwof, a phenderfynais, am ryw reswm, mai dweud dim byd oedd orau yn yr amgylchiadau.

Gerallt dorrodd y garw.

“Ew, roedd gen ti rhywbeth” medda fo wrth i mi gau fy malog yn drafferthus.

Heb wybod yn iawn at beth roedd o’n cyfeirio, mi atebais “Yyym, diolch yn fawr”

“Ia, yn y llinell ola’ ‘na… be oedd hi dŵad…’yn sgrialu’n hirddu ar draws y lôn’…. da iawn.”

Roeddwn i’n gegrwth, nid yn unig oeddwn i wedi cael canmoliaeth gan Gerallt, ond roedd Gerallt, llais Gerallt, wedi adrodd llinell o fy marddoniaeth i! Oedd, mi roedd o wedi gwneud hynny yn y recordiad yn gynharach yn y noson, ond rwan roedd o yn gwneud hynny, o’i gof, i mi. Mae pawb yn adnabod llais Gerallt, boed yn darllen ei gerddi ei hun, neu gerddi cenedlaethau o feirdd Cymru ar y radio. Dyna wefr oedd cael clywed fy ngeiriau i yn ei enau o.

Dwi’n meddwl i mi dreulio gweddill y noson, a rhai dyddiau wedi hynny, mewn stad o led-berlewyg. Ond, er gwaetha’r afrealiti, mi roedd hyn wedi digwydd go iawn.

Mi fu’r Glêr yn fuddugol y noson honno a thros weddill y gyfres a thros sawl blwyddyn o recordio wedi hynny cefais farn, anogaeth a chefnogaeth ganddo. A hynny dros baned a chacen gan amlaf. Roedd ychydig eiriau yn mynd yn bell yng ngenau Gerallt.

Mae rhaid i Feuryn ar gyfres y Talwrn y Beirdd BBC Cymru fod yn sawl peth; beirniad, storïwr ac athro i enwi dim ond tri. Mae cyfrifoldeb mawr ar ysgwyddau’r Meuryn wrth feithrin beirdd. Fe wnaeth Gerallt y pethau hyn gyda thafod arian a braich gefnogol. Mawr yw fy nyled i iddo. Gwn y bydd llawer iawn o feirdd yn teimlo yr un fath.

Nid ydi hyn o eiriau ond cip ar y dyn. Dwi’n siŵr y bydd rhagor o goffáu dros y dyddiau ac wythnosau nesaf. Ond wrth sôn am y dyn, y bardd, byddwn ni i gyd yn gwybod pwy sydd dan sylw wrth i ni sôn am Gerallt.