Can wych. Dw i’n caru’r swn o drymiau, y magl drwm yn enwedig. Beth wyt ti’n galw fe, low pass filter? Mae’n swnio fel King Tubby neu Scientist ond yn y glaw.
3 sylw ar “Seconds Too Late gan Cabaret Voltaire, cerddoriaeth ddiwydiannol”
Mae'r sylwadau wedi cau.
Hei, gwir y gair, gwyyyych. Dw i’n darllen Fear of Music gan David Stubbs ar hyn o bryd, sy’n sôn am “gerddoriaeth anodd” (Schoenburg, Stockhausen, Free Improv ayb) a pham mae honna wedi aros tu hwnt i’r prif ffrwd tra bod “celfyddydau anodd” (ciwbiaeth, afrealiaeth, ôl-forderniaeth ayb) yn rhan annatod o’r brif-ffrwd yn y celfyddydau gweledol. Mae’n sôn am yr adeg ôl-bync fel yr amser pan oedd ysbryd arbofiadol go iawn (yn hytrach na muso noodlings y progwyr) wedi llwyddo haentu cerddoriaeth boblogaidd – Caberet Voltaire, Throbbing Gristle a PiL yw’r bandiau pwysig, i Stubbs.
Nic, diddorol – wyt ti eisiau cyfrannu adolygiad Fear of Music i’r Twll? Dw i wedi darllen David Stubbs yn y cylchgrawn The Wire o blaen. Bydd e’n plesir i ddarllen dy feddyliau.
Wnes i sgwennu rhywbeth bach am Metal Box gan PiL llynedd.
Diolch, byddai’n bleser sgwennu rhywbeth i’r Twll.