Dinas y digwyddiadau – dinas di enaid

Ychydig dros flwyddyn yn ôl er mwyn ennill ychydig o arian fe fues i yn gweithio i Gyngor Dinas Caerdydd – roedd o yn teimlo fel tawn i’n gwerthu fy enaid – ond dyna fo mae pawb isho byw! Rhwng y paneidiau di bendraw a’r dydd-fyfyrio fe glywais sôn am “unofficial tag-line” roedd y ddinas yn ceisio ei mabwysiadu. “Dinas y digwyddiadau”. Chware teg ‘ro’n i’n credu bod y teitl yma yn un fyddai’n ffitio i’r dim.

Wedi’r cyfan mae’r brifddinas wedi dangos i’r byd ar sawl achlysur ei fod yn lle delfrydol i gynnal digwyddiadau o bob math: Gem derfynol y Cynghrair y Pencampwyr, gemau cwpan Rygbi’r byd, Ras Fôr Volvo, gornestau bocsio, cyngherddau enfawr fel Beyonce heb son am Steddfod i’w chofio. Mae’r ddinas fel llechen gyfleus y mae modd darlunio arni a gosod pa bynnag ddigwyddiad neu firi sydd ei angen – mae’n llwyddo i dicio y bocsus cywir – ddim yn Llundain, cysylltiadau trafnidiaeth gweddol (peidiwch dechra fi ar hwn), dogn o hanes “By the way we have a castle but we’ve built over the rest; if you could just throw in a few Welsh phrases that would be wonderful. The locals love that.” A mae nhw’n gywir, da ni ddinasyddion yn dwli ar gael y digwyddiadau bondigrybwyll ‘ma, achos ei fod yn “rhoi Caerdydd ar y map” ac mae hynny i rai yn hanfodol i’w hunan werth.

Does gen i ddim llawer o wrthwynebiad i roi Caerdydd ar y map a cheisio meddiannu’r teitl “ail ddinas y Deyrnas Unedig” – mae’n braf gweld uchelgais am unwaith, ond, yn anffodus y mae’r uchelgais yma yn dod ar draul dieithrio diwylliant cynhenid. Yn ôl yr hyn dwi’n ei weld mae Caerdydd yn troi yn araf bach yn gragen i granc meudwyol gael cartref dros dro ynddi ac yn lle i ambell gwmni mawr sydd ond yn rhy barod i symud i rywle arall pan fo’r heip yn pylu. Mae’n ddinas sy’n cynnig y stop olaf i fandiau sy’n heneiddio, yn ddinas y meysydd parcio a fflatiau moethus i fyfyrwyr ac yn ddinas sydd a’i bryd ar dyfu heb gyfri’r wir gôst. Tybed a ydi Cyngor Caerdydd yn ceisio rhoi’r drol o flaen y ceffyl ac yn ceisio codi tyrrau ar sylfaeni simsan?

Mae’r cyhoeddiad cyffrous llynedd o droi’r ddinas yn grochan cerdd bellach yn ganiad ansoniarus. Ymddengys yn awr bod ceidwaid tân y crochan hwn wedi penderfynu ei adael i ddiffodd. Nid yn unig gwarchod yw gwaith Cyngor ond cynllunio a rhagweld. Mae Caerdydd fel pob dinas fyrlymus dan warchae y datblygwyr a’r buddsoddwyr. Mae gan y tirfeddiannwr ei hawliau ond mae gan y ddinas ei chymeriad a Chyngor ei chyfrifoldebau ac y mae’n atebol i’w dinasyddion. Dangoswyd bod ewyllys y bobl yn drech nag arglwyddi’r wlad pan achubwyd Stryd Womanby. A fedrir gwireddu’r gwirionedd ‘Trech gwlad nac Arglwydd’ eto. Heb os dylid gweiddi’r cwetiynnau:

A yw dileu llwyfan sy’n feithrinfa i fandiau yn ergyd i ddiwylliant y ddinas? A yw dileu cyrchfan sy’n hwb i’r gymuned Gymraeg ei hiaith yn llesol i enaid Caerdydd? A yw hygrededd y bobl a gyhoeddodd ac a fuddsoddodd arian i geisio meithrin ‘Dinas Cerdd’ yn cael ei chwalu? A’i dyma esiampl arall o’r cyngor yn hau hedyn a peidio ei ddyfrhau? Lles pwy fydd dymchwel Guildford Crescent yn y pen draw? A oes gwir angen fflatiau moethus i fyfyrwyr? A ddylai’r tirfeddiannwr sydd ai fryd ar ymgyfoethogi fwyfwy gael difetha bwrlwm cymdeithasol a cherddorol cymdeithas?

Ymddengys bod yr union bobl a ddangosodd bositifrwydd a dyhead clodwiw dro yn ôl yn awr yn ildio i’r hyn a elwir yn ddatblygiad. Eto ar yr un gwynt mae yna son am nodi’r lle fel ardal Gadwraeth. Yn aml y mae gweld gwerth yn ein hanes diweddar yn anos na gweld pwysigrwydd a gwerth adfeilion yr hen gastell gwag. Onid yw gweld ardal sy’n ein cysylltu â’r hen Gaerdydd ond sydd eto’n cael ei defnyddio’n ddyddiol ac felly’n creu hanes y presennol yn gynhyrfus a chyffrous? Ni fydd creu, na cherdd, cymuned na chymdeithas wrth godi rhagor o dyrrau fflatiau’r preswylwyr dros dro.

Heb os bydd dymchwel y stryd hynafol yn ergyd i’r diwylliant oedd yn ffrwtian. Mae’r tirfeddiannwr unwaith eto yn dymchwel yr aelwyd a’r Gwdihw yn ymddangos fel Ty Unnos! Wrth gwrs, nid awgrymu ydw i mai dyletswydd Cyngor a swyddogion, nac unrhyw gorfforaeth yw cynnal lleoliad oedd wedi ennill ei blwyf ac yn cyfrannu i gymeriad sŵn Caerdydd. Perygl hynny yw bod rheoli yn digwydd. Bod y cyfan yn cael ei ffurfioli a’i saniteiddio. Os yw’r clybiau lle gellir clywed cerddoriaeth fyw yn cau ar y raddfa bresennol, pa hawl fydd gan Caerdydd i’w galw ei hun yn Ddinas Cerdd? Pa mor haeddiannol yw’r teitl os yw un o’r lleoliadau gigio hynaf yn cael ei droi yn far chwaraeon di-enaid? Mae’r sefyllfa’n gymaint mwy na chau clybiau: symptom yw hyn o’r trywydd o homogeneiddio y mae sawl cyngor trefol yn ei dilyn. Ond fe all y symptom yma uno gwrthwynebiad ar draws sbectrwm o ddaliadau gyda’r gobaith o ddeffro mwy i weld y darlun cyflawn. Ar hyn o bryd mae’r ecosystem gerddorol – i ddefnyddio terminoleg y cwmni sydd wedi ei dalu i’w gwarchod – yn ymdebygu i baradwys ar gyfer parasites. Dinas glôn arall ac y mae’r buddsoddiad ariannol sydd wedi ei wario i warchod amrywiaeth hanfodol yr ecosystem yn ymddangos fel gwastraff llwyr.

Rhaid i’r cynor feithrin gweledigaeth a honno wedi ei gwreiddio mewn penderfyniad. Hunan-dwyll ar ran y cyngor yw’r awydd am benawdau bras heb weledigaeth bellgyrhaeddol. Gydag unrhyw ddatblygiad mae angen ystyried yr oblygiadau ar yr iaith, ac yn yr un modd dylai pob cais cynllunio rhoi ystyriaeth fanwl i’r effaith a gaiff ar ddiwylliant yn enwedig os ydi hwnnw yn ddiwylliant sydd wedi ei feithrin yn naturiol ac yn ffynnu. Codwn lais, a byddwn ochelgar o’r mewnforwyr miri, a boed i ni warchod y lleoliadau unigryw sy’n rhoi bwrlwm ac yn cynnal gwir gymeriad ein crochan cerdd.

Mae ymgyrch i achub Gwdihw a Guildford Crescent, a gorymdaith a gig codi arian ar 19 Ionawr 2019.

Cynlluniau gwenwynig canol Caerdydd: mae dinas well yn bosibl

Pan welais yr erthygl yma, bu raid i mi ofyn pam bod y cynlluniau’n cynnwys maes parcio preifat efo 249 o lefydd, yn bennaf ar gyfer pencadlys newydd BBC Cymru sy’n cael ei adeiladu drws nesaf?

Mae’r ardal yma’n fan llygredd aer gwenwynig. Yn sicr, nid oes raid i’r rhan fwyaf o bobl yrru pan fo’r adeilad hwn wedi’i amgylchynu gan derfynellau llogi beiciau Nextbike UK ac mae’n dafliad carreg llythrennol o brif orsaf fysiau’r ddinas a gorsaf reilffordd Ganolog Caerdydd.

Os oes gwir angen am gerbydau modur preifat, beth am ddefnyddio’r lle yma ar gyfer clwb ceir trydanol sy’n defnyddio ynni o ynni adnewyddadwy, ac sy’n eiddo i’r gymuned?

Bydd Cymru’n ei chael hi’n anodd cwrdd â’r uchelgais a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol os yw llefydd fel Caerdydd yn parhau i gloi eu hunain i mewn i isadeiledd llygredig a fydd yn gwneud hi’n anos i ddelio efo sialens newid hinsawdd.

Os ydych chi am gymryd rhan mewn adeiladu dinas wirioneddol gynaliadwy sy’n seiliedig ar degwch, ymunwch â Chyfeillion y Ddaear Caerdydd a Chynulliad Pobl Caerdydd. Hefyd, mae yna nifer o gyfleuoedd i wella llygredd aer yn lleol ar y foment.

Ymunwch â fi i wrthwynebu cynlluniau ar gyfer prosiect newydd yng Nghaerdydd drwy ofyn iddo fod yn ddatblygiad heb lefydd parcio cyn 13 Rhagfyr 2018. Hefyd, dilynwch cyfrif trigolion yr ardal ar Twitter ar gyfer y diweddara.

A galwch am #DimM4Newydd cyn 4 Rhagfyr 2018.

Felindre a’r cwestiwn cenedlaethol

Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre

Ar gyrion rhanbarth Sir Abertawe mae pentref Felindre. Fe’i henwyd ar ôl melin ddŵr sydd yn sefyll o hyd ar sgwâr canolog y pentref. Yno hefyd mae’r pethau y disgwylir eu gweld mewn pentref gwledig yng Nghymru – tafarn, capel a’i aelodaeth yn gwywo, ac ysgol. Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Ysgol gymunedol, fach yw hi. Roedd rhyw 30 o blant yn mynychu pan oeddwn i’n blentyn, ac mae’r niferoedd wedi amrywio dros y blynyddoedd, gan godi a gostwng.

Rwy’n meddwl bod mynychu’r ysgol honno wedi cael effaith fawr ar sut rwy’n gweld Cymru. Roedd yn feicrocosm o’r amlddiwylliannedd cynnil sydd yn bodoli oddi fewn i boblogaeth ein gwlad. Dydw i ddim yn sôn am hil na chrefydd – roedden ni i gyd yn blant bach gwyn â thraddodiad Cristnogol yn ein teuluoedd – ond yn hytrach sôn am ein cefndiroedd ydw i. Roedd plant ffermwyr, plant breintiedig doctoriaid Saesneg, plant o gefndiroedd difreintiedig, a phlant dosbarth canol Cymraeg fel minnau i gyd yn cydfodoli o fewn y paradocs o ysgol yma oedd yn wledig a Chymraeg a chymunedol, er mai dim ond 6 milltir o ganolfan ddinesig a gweddol Seisnig Abertawe ydoedd.

Yr hyn sy’n fy mhoeni i, a’r rheswm pam y mae’n bwysig sôn am Felindre ar hyn o bryd, yw nad oes cartref i’r paradocs hwn o fewn naratifau presennol y Mudiad Cenedlaethol. Nid yw’n gorwedd yn gysurus o fewn unrhyw esboniad o ‘Arfor’ rydw i wedi dod ar ei draws, nac ychwaith yn medru cael ei gynnwys yn rhan o’r dadeni diweddar o genedlaetholdeb ymhlith cymoedd ôl-ddiwydiannol Cymru. Rwy’n tybio mai’r rheswm am hyn yw parhad, gan y ddwy garfan, o duedd i weld ei gilydd fel rhywbeth ‘arall’. Mae’r naill a’r llall yn arddel ei gilydd fel ‘dosbarth gweithiol di-Gymraeg y de’ a ‘North Wales Welsh Speakers’. Ond nid ydynt yn cydnabod hunaniaeth dosbarth ac iaith pobl nad ydynt yn cwympo i’r categorïau hyn, fel rhai o fy hen ffrindiau ysgol – dosbarth gweithiol naturiol Gymraeg De Cymru.

Mae Felindre’n cael ei cholli ymysg y diffiniadau deuol hyn o ddiwylliannau Cymru. Nid dim ond Felindre ychwaith, ond cymunedau eraill Cymraeg tebyg, fel Brynaman, Alltwen, Y Tymbl, Y Bynie, Pontsenni, Yr Hendy i enwi ond rhai. Mae’r rhain yn gymunedau sy’n bodoli rhwng hegemoni clir ‘Arfor’ a ‘The Valleys’. Nid yw profiadau’r cymunedau hyn yn medru cael eu categoreiddio’n dwt ac yn deidi. A chyhyd â bod pobl yn parhau â’r ffurfiau gor-syml hyn o ddisgrifio Cymru, bydd cymunedau tebyg yn cael eu gadael ar ôl.

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre nawr o dan fygythiad o gael ei chau. Byddai hyn yn fwy na diwedd ar ysgol, mi fyddai’n ddiwedd ar gymuned Gymraeg, gynhenid na ddylid, yn ôl y ffordd y mae rhai pobl yn meddwl am Gymru, fodoli. A chan mai dyma’r disgwrs sy’n amgylchynu cenedlaetholdeb Gymraeg ar hyn o bryd, nid yw’n bodoli, i bob pwrpas. O fy rhan i, rwyf am sicrhau nad yw sylfaen fy addysg yn Ysgol Felindre yn cael ei anwybyddu na’i anghofio.

Gadewch sylw isod os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r ymgyrch.

Mae cylchgrawn Monocle yn wael iawn

Monocle 105

Mae cylchgrawn Monocle newydd ddathlu 10 mlynedd o fodolaeth, ac mae’n wael iawn.

Gadewch i mi ymhelaethu rhag ofn eich bod am ystyried tiwnio mewn i’w brand ar unrhyw gyfrwng neu wario arian ar gopi printiedig dros yr haf.

Yn rhifyn 105 o’r cylchgrawn (Gorffennaf/Awst 2017) mae cyfweliad â’r triawd Saint Etienne sy’n cyfeirio at eu hallbwn fel ‘electro pop’ heb unrhyw fanylion eraillo gwbl am y gerddoriaeth, datblygiad y grŵp dros ddegawdau na arwyddocad eu gwaith. Yn hytrach mae’r cyfweliad yn rhestru llwythi o enwau trefi yn Lloegr ac yn holi am eu magwriaeth yn yr Home Counties yna. Mae potensial i wneud rhywbeth hynod ddiddorol am y pwnc yna, peidiwch â chamddeall, ac mae’r band yn gallu siarad os oes rhywun sy’n gallu gofyn cwestiynau o safon. Ond mae hyn yn wan iawn ac yn ddiflas iawn.

Mae eitem am ddawnsio yn Tel Aviv sydd ond yn cyfeirio at sut gymaint o hwyl y mae’r awdur wedi ei chael mewn clybiau yna. Mae croeso i bawb yn Tel Aviv! Mae hyn at fy atgoffa o raglennu teithio ar y teledu pan mae hi’n amlwg bod y criw a’r cyflwynwyr yn cael gormod o hwyl i ganolbwyntio ar greu rhaglen o safon. Yn waeth byth does dim sôn am unrhyw gymhlethdodau yn yr ardal o unrhyw safbwynt. Ond mae cyfeiriad at ‘Hen Jaffa’. Mae’n rhyfedd iawn ac yn wleidyddol iawn.

Sut mae’r fath rwtsh yn cael goroesi? Mae rhyddiaith Monocle yn swnio’n union fel y math o destun uchelgeisiol rydych chi’n cael am ddim ar awyren. Mae’n gwerthu lifestyle i ddynion, y rhai sy’n deithio’n barhaus a’r rhai sy’n breuddwydio am ei wneud. Ie, dynion. Gweler bennawd ‘Snack In Your Trunks’, y llun ar y clawr o ddyn generig, a’r hysbysebion sy’n cynnwys dynion, Rolex ac ati. Fyddwn i ddim yn synnu os mae’r un llawryddion sy’n cynhyrchu ‘copi’ i’r brochures awyrennau yn cyfrannu at gylchgrawn Monocle hefyd.

Y gwahaniaeth yw bod Monocle yn costio £7 yn fwy na’r cylchgrawn ar yr awyren.

Yn y ‘dinasoedd gorau i drigo ynddyn nhw’ doedd dim sôn am Lanelwy chwaith.

Becso dime goch am y geiniog Gymraeg? Dyma Bunt i Gaerdydd

arced-y-castell-colin-smith

Felly, pa mor bwysig yw’r economi lleol i chi? Yn ôl y wireb etholiadol o’r Unol Daleithiau mae Ed Miliband yn enwog am ei anghofio, “Yr economi yw’r cyfan, twpsyn!” Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae’r cynnyrch a gynhyrchwyd yn lleol a gwerthwyd yn lleol wedi cynyddu’n gyson o dros 10% fel cyfran o’r farchnad, sy’n tynnu sylw sylweddol i gryfderau gwerthoedd lleol a hyperlleol, yn hytrach na gwerth Hyper Value er enghraifft i siopwyr y brifddinas.

Yng Nghymru, mae’r cysyniad o hyrwyddo busnesau lleol drwy ddefnyddio arian lleol wedi bod yn syniad sydd wedi ei gylchredeg am gyfnod; yn wir, mae yna dipyn o ymgais eisoes i hyrwyddo cynnyrch o gwmnïau sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg drwy ddefnyddio’r hashnod #YGeiniogGymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. Yng Nghaerdydd mae gan y ffenomen hon enw: Punt Caerdydd.

Esboniodd sylfaenydd Punt Caerdydd Michelle Davis sut tarddiad y syniad gwreiddiol:

“Yr enghraifft gyntaf yn y DU yn y cyfnod modern [o arian hyperlleol] yw’r Totnes Pound, a oedd yn rhan o’r ymgyrch ‘Transition Towns’. Mae cwpl arall o gynlluniau bach lleol yn Lewes a Stroud wedi digwydd, ond mewn gwirionedd lansiad y Brixton Pound yn 2009 sydd wedi llwyddo i wthio’r syniad o arian lleol weithredol i fyny’r agenda. Pan lansiodd y Bunt Bryste yn 2012, achosodd hynny imi wir gwestiynu pam nad ydym yn gwneud hyn yng Nghaerdydd.”

Felly pam nad ydy hyn eisoes wedi digwydd yng Nghaerdydd? Mae Caerdydd yn brifddinas, a chyn hir yn rhanbarth hefyd, felly gan fod Bryste wedi llwyddo i lansio ei arian ei hun, beth am Gaerdydd?

Yn ôl Michelle, nid yw hyn wedi bod yn syndod iddi, gan taw’r diffyg cyllid Sterling yw’r prif rwystr:

“Mae arnom angen mecanwaith fel y gall busnesau dalu eu trethi i’r cyngor mewn Punnoedd Nghaerdydd. Roedd hyn yn rhan o gynllun cywir o’r ffwrdd ym Mryste ac fe gymerodd ymaith y prif bryder wrth arwyddo manwerthwyr i fyny ‘beth allaf ei wneud â fy Bristol Pounds’? Cyngor Bryste wedi bod yn anhygoel o gefnogol i’r cynllun; gall pobl bellach yn talu eu treth cyngor gyda’r arian lleol hefyd. Mae Cyngor Caerdydd hefyd wedi bod yn gefnogol i’r arian, drwy ddyfarnu rhywfaint o gyllid i greu cynllun busnes ac yn y blaen, er hyn nid ydynt wedi gallu ymrwymo i dderbyn Trethi Busnes Caerdydd yn punnoedd Caerdydd felly rydym yn estyn allan atynt i nhw drafod eto yn y dyfodol agos. Yn amlwg, rydym yn gobeithio y gallwn barhau i wneud i hyn ddigwydd er lles yr economi leol.”

Y prif wahaniaeth rhwng arian lleol, a gadewch i ni ei alw y Bunt Caerdydd er mwyn y ddadl, a Sterling (a wnaed yn eironig yn lleol i Gaerdydd yn Llantrisant wrth gwrs) yw y bydd y Bunt Caerdydd cyfyngu lleoliad gwariant yr arian ac yn ddigon naturiol, gan ystyried yr adnoddau sydd enfawr sydd ar gael i gwmnïau rhyngwladol – ni fydd hyn yn chwalu llawer o’r enwau adnabyddus, a gall, gobeithio arwain at gyfnod llewyrchus i fusnesau Caerdydd.

Unwaith bydd staff yn cael eu defnyddio i gael eu talu mewn Punnoedd Caerdydd, byddant yn gallu dewis o amrywiaeth o siopau sy’n derbyn yr arian … er wrth feddwl am y peth, ni fydd yn rhaid i’r siopau i gytuno i’w dderbyn yn gyntaf?  Ai dyma yw prif rwystr y senario tybed?  Rhaid cael felly ‘galwad i gardod’ i gymuned Caerdydd i sicrhau bod siopau groser ddigon, cigyddion a phobyddion yn derbyn yr arian fel y gall pob da Caerdydd byw yn y modd maent yn gyfarwydd … heb sôn am y gormodedd o ddewisiadau o lefydd i fwyta sydd heb ymddangos, hyd yn hyn, wedi eu heffeithio gan galedi wrth i Bobl Caerdydd ac ymwelwyr o bob cwr parhau i heidio i’r brifddinas Cymru ar gyfer ei hatyniadau. OK, rydym yn golygu lleoedd ar gyfer nosweithiau stag a nosweithiau iâr hefyd.

Am lwyddiant parhaus economi Caerdydd, byddai’n gwneud synnwyr i lleol, Arian Cymru i ddechrau ar ei bywyd yn ei, prifddinas gosmopolitaidd ffyniannus … iachi da!

Beth yw’r weledigaeth tymor hir ar gyfer y Bunt Caerdydd? Gadewch i ni adael gair olaf i Michelle Davis:

“Ni fydd ond yn gysyniad dros nos, na chwaith ychydig yn un llugoer ac od, ond yn hytrach yn agwedd reolaidd a beunyddiol o fusnes yn ein dinas. Ac oherwydd hyn, bydd yn wedi cyfrannu at economi lleol Caerdydd fel bydd ein prifddinas hyd yn oed yn fwy bywiog, hyfyw a chynhwysol.”

Maent yn dweud os ydych am wneud rhywbeth, yna gofynnwch i berson prysur. Felly yn hytrach na Chaerdydd yn cael ei gofio am ei Gwerthoedd Hyper, beth am rai werthoedd hyperleol orfywiog eleni hefyd?

Am ragor o wybodaeth am brosiect Punt Caerdydd, ac i gofrestru eich busnes, cysylltwch â @cardiffpound ar gyfryngau cymdeithasol neu ewch i’r wefan Punt Caerdydd – neu fel arall fod yn rhan o’r stori newyddion da drwy ebostio hello@cardiffpound.co.uk.

Llun gan Colin Smith (CC-BY-SA)