Gweld fideo byw o fand newydd sy’n cael eu brolio’n eithriadol rownd parthau’r gogledd, oedd yn dangos hwy’n perfformio Wagon Wheel, y diwn Old Crow sy’n cael ei berfformio gan chwarter y grwpiau yng Ngwynedd, sbardunodd y rant gweplyfr uchod. Ro’n i’n flin mai dyna fy mlas cyntaf arnyn nhw. Ond roedd y crochan yn berwi ers blynyddoedd wrth i fwy a mwy o fandiau ac artistiaid ddewis anwybyddu’r hunaniaeth yr oeddent wedi greu eu hunain a rhoi canran amrywiol o’u set i chwarae tiwns pobl eraill ar drael eu catalog caboledig eu hunain.
I roi enghraifft o begwn y ddadl af yn ôl i 2007. Daeth Almaenwr oedd ar ei wyliau i’r bar yn Nhŷ Newydd Sarn a gofyn a fyddai’n cael chwarae yno. Mi gei ddechrau’r noson yfory o flaen Y Gwyddel, y Cowboi a Gwilym Morus meddwn. Mi awgrymodd fod ganddo un neu ddau o gyfyrs Bob Dylan yn ei set a brofodd yn danddweud wrth iddo gamu i’r llwyfan a mynd drwy dri chwarter awr o ganeuon Bob Dylan.
Bu i Oliver wedyn eistedd yn gegrwth yn gwrando ar y tri ar ei ôl yn chwarae caneuon yn eu iaith eu hunain, gan ddatgan ei edmygedd at yr arlwy a rhithyn o gywilydd ei fod yn dod o wlad o 80 miliwn a wedi methu gwneud yr un fath. Wedyn, ar ôl yfed swmp sylweddol o wisgi Penderyn, mi ddisgynodd ar ei gefn yn llythrennol wrth fynnu ailymweld a’r llwyfan i gloi’r noson gyda Blowing in the Wind.
Roedd y gwymp symbolaidd honno’n adlewyrchiad o’r cyferbyniad rhyngtho a Gwilym Morus yr oedd ef ei hun wedi ei amlinellu, a’r holl brofiad a’r elw gaiff rhywun o wrando ar set perfformwyr sydd wedi rhoi eu pen a’u pastwn i’w gwaith yn hytrach na cheisio plesio torf a thiwn rhywun arall.
Mae gig yn cael ei gyhoeddi sy’n cynnwys artist hoff. Mae’r dyddiad wedi ei selio yn dy ben. Ti hyd yn oed yn chwarae’r albym er mwyn rhagflas o’r pleser o dy flaen, yn gwybod nad oes unrhyw beryg i’r caneuon fynd yn rhy gyfarwydd. Maent yn cyrraedd y llwyfan a ddim cweit yn dweud:
‘Diolch am y croeso. Hanner awr ganddon ni, a mae’n debyg fod chi gyd wedi hoffi ein albwm diweddar neu fysech chi ddim yma felly yn hytrach na chwarae un o hwnnw neu gan newydd sydd ganddon dyma’n dehongliad o un o ganeuon lled-enwog Jarvis Cocker fel anrheg arbennig i chi’.
Daw un arall y maent wedi ei ddysgu o albym fer newydd Ryan Adams ar ôl iddynt fynd drwy’r rigmarol o chwarae un o’u catalog eu hunain. Daw’n amlwg i’r dorf fod hanner eu set nhw’n mynd i fod yn ganeuon pobl eraill. Mae’r dorf yn clapio’r un fath gan ei fod yn ddigon dymunol a ddim eisiau ymddangos yn annifyr.
Ond mae’r drwgdybiaeth yn hongian yn yr awyr. Ar bob cyfrif gollyngwch ganeuon newydd i’r set, dyna fel mae band yn datblygu. Ond mae gormod o ganeuon pobl eraill yn dangos ryw ddiffyg sy’n disgyn mewn i un o’r categorïau yma:
- Diffyg hyder, yn ddiarwybod efallai, yn eu caneuon eu hunain.
- Diflasu ar eu set a dim caneuon newydd i ddisodli’r rhai sy’n mynd ar eu nerfau.
- Hoffi’r gân gyn gymaint mae’n rhaid iddyn nhw ei chwarae (weithiau ym mhob gig) gan eu bod yn ei ymarfer. Ac wedyn mae’n haws ei berfformio nac ailymarfer hen gân.
- Direidi bwriadol a’r agwedd ‘mi wnawn ni be da ni isho’. Sy’n iach mewn ffordd, ond nid pan mae’n dod ar draul gwaith y band eu hunain.
- Ryw ymgais i ddangos eu tast gerddorol rhagorol am gydnabyddiaeth y dorf, er eu bod wedi dangos hynny yn barod drwy dalu i fod yna i wrando ar ganeuon y band.
- Neu’r rheswm mwyaf amlwg a dealladwy, i adio at set byr gan fod y band yn newydd.
Mae cyfyrs yn dirywio hygrededd y band yn yr hir dymor. Wrth feddwl am y gorau o’r gorau does yr un yn disgyn yn ôl ar ganeouon pobl eraill. Mae Big Leaves er enghraifft yn aros ar bedastl uwch gan fod pob eiliad fwy neu lai a ddaeth ohonynt yn fyw ac ar record i gyd yn gyfangwbl o’u pen a’u pastwn eu hunain. A does neb yn dweud am Anhrefn y byddai nhw’n fand llawer gwell pe baent ond wedi chwarae mwy o gyfieithiadau The Clash.
Rydym yn eich hoffi fel band oherwydd eich gwaith chi. Does dim angen trio’n plesio a chaneuon pobl eraill. A phan mae’r cyfyrs hynny’n plesio llai na’r rhai rydych wedi eu gollwng o’ch set er eu mwyn, yna rydych yn colli ddwywaith. Ac os oes ganddoch bedwar albwm dan eich belt siawns y medrwch gadw pethau’n ffresh heb ddisgyn fel fwltur ar waith eich hoff American o’r mis waeth pa mor dda eich ymgais.
Mae’n fformiwla syml. Os oes ganddoch gatalog llewyrchus o ganeuon, a set o hanner awr lle mae pobl wedi talu i ddod i’ch gweld, peidiwch a threulio ei hanner o’n chwarae caneuon pobl eraill. Ac ydy, mae’n waeth os mai cyfyr Saesneg ydyw, i fand sydd erioed wedi cyfansoddi’n Saesneg, gan fod y cyferbyniad yn fwy. Nid ydyn wedi dod i glywed The Times They Are a-Changin’ mwy na bydda ni’n talu i weld Bob Dylan yn canu eich caneuon chi.