I’r rhai ohonom ni a oedd yn rhy ifanc neu rywle arall pan oedd Y Cyrff yn eu hanterth dyma hen raglen ddogfen Cofia Fi’n Ddiolchgar am y grŵp roc o fri o Lanrwst.
Mae hi’n cynnwys fideos ac hen glipiau eraill o’r archif gan gynnwys cyfweliadau gyda chyn-aelodau o’r grŵp – a’i cyn-athro daearyddiaeth dylanwadol Toni Schiavone. Hebddo fe byddai’r Cyrff wedi bod yn wahanol iawn – cynigiodd e gig cynnar iddynt ar yr amod eu bod nhw yn canu yn Gymraeg.
Mae teimlad y rhaglen yn syml gyda thestunau ar y sgrîn yn hytrach nag unrhyw droslais.
Darlledwyd y rhaglen gan gwmni cynhyrchu Pop 1 ar S4C yn 2000 yn wreiddiol. Mae testun ar y dechrau yn nodi bod y rhaglen yn deyrnged i’r gitarydd Barry Cawley a fu farw yn yr un flwyddyn mewn damwain ffordd.
Os ydych chi’n chwilio am fwy o fideos mae pobl yn rhannu ffilmiau am gerddoriaeth ar Twitter trwy’r dydd gyda’r hashnod #doccerdd. Diolch i Nwdls am y syniad ac i Siôn Richards am y ddolen i’r rhaglen am Y Cyrff.