Er nad yw cynnydd yr asgell dde eithafol yn unigryw i Gymru, mae’r ffaith bod yna bresenoldeb sylweddol o aelodau UKIP yn y Cynulliad yn ei gwneud hi’n eithriad yn y DU. Wedi digwyddiadau dydd Mawrth yn y Senedd, daw’n fwyfwy amlwg bod y tirwedd gwleidyddol newydd yma yn dir anodd i lawer ohonom.
Ar sail trafodaeth fewnol ddyrys penderfynodd Cymdeithas yr Iaith, fel mater o egwyddor, na allent gymeradwyo UKIP gydag atebion uniongyrchol mewn achos o gynnig tystiolaeth ym mhwyllgorau’r Cynulliad. Mae eu rhesymu yn glir ac yn rhesymegol: “Mae UKIP wedi hybu a goddef agweddau rhagfarnllyd yn erbyn nifer o grwpiau yn ein cymdeithas – pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a thraws, lleiafrifoedd ethnig, mewnfudwyr, pobl sydd â HIV – a’r Gymraeg. Allwn ni ddim eu trin fel unrhyw blaid arall.” Gyda’r penderfyniad wedi’i gymryd cyn y Pwyllgor Diwylliant (lle’r oedd posibiliad o gael eu holi gan arweinydd UKIP, Neil Hamilton) cysylltodd y Gymdeithas â’r cadeirydd, AC Plaid Cymru Bethan Jenkins, i roi gwybod iddi fel mater o gwrteisi am eu bwriad, ond pwysleisiwyd ‘Dydy ni ddim am iti newid unrhyw beth o ran trefn y cyfarfod fory.’
Pe byddai’r Gymdeithas wedi gwneud cais i beidio caniatau Neil Hamilton i ofyn cwestiwn, byddai hynny wedi bod yn broblematig iawn. I bob pwrpas, mi fyddai hynny nid yn unig yn datgan cyfarwyddyd i’r Pwyllgor ynghylch sut i gynnal eu busnes; byddai goblygiadau o ran cwestiynu hawl Hamilton i ofyn cwestiynau, gan danseilio hefyd ei ddilysrwydd fel cynrychiolydd etholedig. Ond ni ofynnwyd y fath beth, ond yn hytrach nododd y Gymdeithas y byddent yn dewis i ymateb i unrhyw gwestiwn ohono yn unol â’u hegwyddorion. Yn hytrach nag ateb y cwestiwn yn uniongyrchol, byddent yn amlinellu’n fras eu safiad yn erbyn UKIP.
Mae’r ymatebion gan lefarydd y Cynulliad a’r Cadeirydd yn dangos yn amlwg eu bod o’r farn bod y Gymdeithas wedi gwneud cais uniongyrchol i dawelu Hamilton. “Nid lle tystion yw dweud wrth un o bwyllgorau’r Cynulliad pwy sy’n cael gofyn cwestiynau” dywedodd y llefarydd. Mae’n amlwg felly eu bod yn camgymryd yr hyn roedd Cymdeithas yn gofyn. Ni chwestiynwyd hawliau Hamilton, fel AC ac aelod o’r Pwyllgor; ond nododd Cymdeithas eu bwriad i arfer eu hawl i ymateb yn ôl eu daliadau (a heb, dylid ychwanegu, droi at rethreg afresymol neu atgas).
Cawn obeithio y bydd y Cynulliad yn cydnabod ei gamgymeriad, a bydd y Gymdeithas yn cael ei gwahodd yn ôl, a bod modd cynnal y drafodaeth mae’n amlwg roedd ei chyfraniad yn haeddu yn y lle cyntaf. Ond am y tro, fodd bynnag, mae’n ymddangos yn bosibl y gall y Cynulliad ddewis newid telerau y pwyllgorau, gan hawlio nad yw’n dderbyniol i unrhyw grŵp neu unigolyn i gymryd ymagwedd debyg (naill ai o flaen llaw, neu yn y pwyllgor), a’u bod nhw yn eu tro yn cael eu gwahardd rhag rhoi tystiolaeth lafar.
Byddai hyn yn creu cryn ansicrwydd am natur ddemocrataidd y Cynulliad. Mewn gwirionedd byddai pwyllgorau’r Cynulliad yn fforymau lle byddai’n cyfreithiau a normau moesol ynglŷn â rhyddid mynegiant yn cael eu neilltuo (ar yr un pegwn, gall tyst yn y llys peidio ag ateb, tra ar y pegwn arall mae’n annhebyg iawn y byddai rhywun yn cwestiynu hawl unigolyn i beidio ag ateb cwestiwn mewn sefyllfa gymdeithasol, pe byddent yn anghyfforddus gyda’r cwestiwn, neu’r holwr). Byddai’r sawl sy’n rhoi tystiolaeth lafar, mae’n ymddangos, yn cael ei orfodi i ateb y cwestiwn a ofynnir yn uniongyrchol, yn erbyn eu hewyllys, neu’n cael ei wahardd.
Ar wahân i’r problemau moesol amlwg gyda’r fath ‘ynysoedd o anoddefgarwch’ yn ein Senedd, byddai’r goblygiadau yn sylweddol o ran cymdeithas sifil yng Nghymru, a grwpiau ac unigolion a allai cael eu gwahodd i roi tystiolaeth ym mhwyllgorau’r Cynulliad. Nid oes unrhyw amheuaeth bod grwpiau o’r fath ac unigolion sydd ag amheuon dwfn am UKIP yn yr un modd â’r Gymdeithas, a hoffai gymryd safiad tebyg. Yn ôl pob tebyg byddai pob un yn cael eu gwahardd rhag trafod mewn unrhyw un o’r gwahanol bwyllgorau. A phe byddent yn penderfynu ildio i’r rheolau yma, yr un fyddai’r canlyniad: sef bod y Cynulliad i bob pwrpas yn cau lawr gallu’r Gymdeithas Sifil yng Nghymru i ymateb i her yr asgell dde eithafol.
Honnodd Bethan Jenkins yn ei datganiad bod ymateb Cymdeithas wedi tanseilio dilysrwydd tystiolaeth ysgrifenedig; ond wrth gwrs, oni bai bod dadl a thrafodaeth wyneb-yn-wyneb yn cynnig gwerth ychwanegol, ni fyddai’r pwyllgorau yn gwahodd partïon i roi tystiolaeth lafar, gan ofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig yn unig. Mae’n amlwg mai creu system dwy lefel byddai sgil effaith gwahardd y sawl byddai’n dewis ymwrthod â gwleidyddiaeth UKIP rhag ymddangos yn y pwyllgorau.
Mae ymateb y Cadeirydd yn ddadlenol, ac yn codi cwestiynau am y modd mae wedi ymdrin â’r mater. Mae hi’n dweud ei bod wedi ymgynghori â’r Aelodau Pwyllgor a’u barn unfrydol oedd mai’r “pwyllgor ac nid tystion ddylai benderfynu pwy ddylai ofyn cwestiynau”. Mae hyn yn dangos ei bod hithau hefyd wedi camgymryd natur gais Cymdeithas, gan awgrymu eu bod wedi mynnu na ddylai Hamilton cael y cyfle i ofyn gwestiynau.
Aeth ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal i ddatgan ‘fedrai ddim derbyn sefyllfa lle mae un mudiad yn gwrthod ateb cwestiwn gan aelod etholedig ar pwyllgor’, ac ymateb yn ddisymwth i neges arall gyda ‘felly Cymdeithas sy’n cael penderfynu pa gwestiynau i ateb a sut’: dau ymateb sy’n ymddangos fel petaent yn cwestiynu y normau cyfreithiol a moesol o ran rhyddid mynegiant a gyfeiriwyd atynt gynt. Holodd hefyd pam fod Cymdeithas am ddymuno gwneud gelyn ohoni a chyfeiriodd dro ar ôl tro at ei record wrth frwydro yn erbyn UKIP.
A dyma ni’n cyrraedd asgwrn y gynnen o ran materion gwleidyddol. Mae yna farc cwestiwn enfawr ynghylch nid yn unig yn ei hymddygiad hi (mae’n bwysig peidio â chanolbwyntio arni hi yn unig, gan fod hyn yn ymwneud a phob AC nad ydynt yn aelodau o UKIP). Mae’r duedd gyffredinol i ymddwyn yn oddefgar a goddefol yn achos UKIP – a gynrychiolir yn fwyaf amlwg gan y lluniau cyhoeddusrwydd o aelodau’r pleidiau oll yn gwenu bant gydag ACau UKIP– yn danfon y neges amlwg i’r cyhoedd y dylid eu trin ‘fel unrhyw barti arall’, er gwaethaf eu gwleidyddiaeth.
Mae’n rhaid bod Jenkins a’i chyd-aelodau yn sylweddoli bod ymddygiad o’r fath yn dilysu UKIP mewn modd sy’n golygu mai dim ond gweithio’n galetach y bydd gofyn gwneud wrth guro ar ddrysau yn y dyfodol, wrth i’w gelynion gwleidyddol ffeindio eu traed a safle derbyniol o fewn y tirlun gwleidyddol. Yn y pen draw, bydd Plaid a Llafur yn cyfri’r gost etholiadol, fel sydd wedi digwydd yn barod.
Nid honni ydw i bod yr atebion yn hawdd, ac yn wir mae angen i’r pleidiau gwleidyddol hyn meddwl am ffyrdd cynnil ac effeithlon o danseilio UKIP heb cael eu gweld yn bardduo nhw i’r graddau eu bod yn bwydo’r anghenfil (cam yn y cyfeiriad cywir byddai ymosodiadau parhaus ar eu record yn y Cynulliad ar draws yr holl gyfryngau, gyda llawer mwy o gyhoeddusrwydd am eu hagweddau chwerthinllyd a gwenwynig, ac ymgais gyffredinol i danseilio nhw trwy ddatgelu eu gwendidau a dihidrwydd). Nhw sy’n gweld UKIP yn gweithredu o ddydd i ddydd ac felly arnyn nhw mae’r dyletswydd i sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o’r modd maent yn tanseilio democratiaeth Gymreig.
Mae yna angen yn ogystal am ymatebion radical a gobeithiol i’r problemau sydd wedi achosi twf UKIP a negeseuon cadarnhaol am amrywiaeth yn ein bywyd cyfunol. Yn ddios, nid yw gwenu ochr yn ochr â hwy mewn lluniau yn helpu dim; yn fwy sylfaenol, mae gweithredu mewn modd sy’n tawelu lleisiau o brotest yn y gymdeithas sifil nid yn unig yn anfoesol, mae’n cynorthwyo achos yr asgell dde eithafol.
Mae hyn yn rhan o frwydr byd-eang. Mae gan wleidyddion a chymdeithas sifil yng Nghymru y cyfle i fod ar flaen y gad ac i osod esiampl. A ydym yn barod i wynebu’r her?
Unochrog braidd yw’r erthygl.
Y geiriad yn awgrymu barn tueddol a gogwyddol o’r dechrau. Trueni.
Rwyf yn aelod cefnogol o’r Gymdeithas.
Mae ochr arall i’r safbwynt hwn.
Etholwyd UKIPs mewn modd democrataidd ac maent yn cynrychioli barn canran nid ansylweddol o boblogaeth Cymru. Lleiafrif efallai, ond ni ddylid tewi lleiafrif.
Y ffordd i guro barn a chynrychiolaeth eithafol asgell dde yw drwy ddadlau yn gyhoeddus a dangos pa mor wrthun yw eu neges. Gellid fod wedi ymateb i ymholiadau Hamilton a UKIPs drwy esbonio bob tro sut mae cenedlaetholdeb Seisnig yn chwalu’r Gymraeg a Chymru a sut mae gwahaniaethu hiliol UKIPs yn warthus ac yn annerbyniol. Byddai hyn wedi galluogi i’r pwyllgor gael clywed barn y Gymdeithas ac wedi galluogi chwalu’r UKIPs.
Ond ni fyddai wedi sicrhau stynt wleidyddol gyhoeddus a’r spin cysylltiedig. Llongyfarchiadau i’r gymdeithas ar y cythrwfl gyhoeddus.
I mi fe ymddengys fod y Gymdeithas wedi gwrthod derbyn fod gan holl bobl Cymru hawl i farn a llais i’r farn honno drwy eu cynrychiolwyr yn y Cynulliad.
Mae’r erthygl hefyd, yn fy marn i yn ymosod yn bersonol ar Bethan Jenkins a hynny’n annheg. Nid mater personol yw hyn. Ein cwymp fydd gwrthod uno. Beth am atal y cecru o fewn y mudiad cenedlaethol nawr.
Felly, ydw i’n anghytuno gyda barn yr erthygl? Dwi ddim yn siŵr. Ond ydw i’n credu fod yr erthygl hon yn unochrog ac yn annheg heb roi dwy ochr y ddadl? Ydw.
Siom. A Twll.
Diolch am y sylwadau Caradog. Byswn i ddim fel rheol yn ymateb i erthygl fi fy hun (gan fy mod wedi dweud fy nweud) ond yn sgil dy eiriau rwy’n meddwl bod e’n bwysig nodi cwpl o bethau. Er gwybodaeth nid wyf yn aelod o Gymdeithas na chwaith Plaid Cymru. Nid mater o ymosod yn bersonol ar Bethan Jenkins yw hyn – dwi’n nodi’n glir bod hyn yn ymwneud ag ACau yn gyffredinol a bod rhaid edrych tu hwnt iddi – ond does dim modd osgoi craffu ar ei gweithredoedd yn yr achos yma. Ac i bwysleisio, pwrpas yr erthygl yw cymryd ochr CYI oherwydd goblygiadau peidio gwneud – nid peidio dangos tuedd at y naill safbwynt neu’r llall. Hwyl, Huw
Petai Hamilton yn gofyn cwestiwn, ai ymateb y Gymdeithas oedd y byddent yn gwneud datganiad yn mynegi barn ar safiad haerllug UKIP fel Plaid?
Caradog, nid ymosod yn bersonol ar Bethan Jenkins yw cwestiynu ei phenderfyniad. I bobl Cymru mae hi’n gweithio, mae hi’n atebol i’r cyhoedd fel Aelod Cynulliad. Mae hi’n ennill £13,000 am fod yn Gadeirydd Pwyllgor, yn ychwanegol ar ei £64,000 o gyflog Aelod Cynulliad – felly mae disgwyl iddi wneud penderfyniadau teg yn ei swydd, ac os yw pobl yn anghytuno gyda rhywbeth mae hi wedi’i wneud, mae’n deg dweud hynny. Dyna beth yw rhyddid barn.