Geraint Jarman 17/8/1950 – 3/3/2025

Geraint Jarman

Roedd Geraint yn anhygoel. Ers glywed am ei farwolaeth echddoe, mae e di bod ar fy meddwl yn barhaol. Geraint y perfformiwr, Geraint y bardd, Geraint y cynhyrchydd, Geraint y mentor, Geraint y Cymro, Geraint y tad a’r gwr, Geraint y dyn.

Roedd Geraint yn un o’r beirniaid pan gystadlodd Clustiau Cŵn, y band roeddwn i’n canu gyda, yng nghystadleuaeth Yr Awr Fawr, BBC Cymru nol ym 1979. Roeddwn i wedi syfrdannu. Jarman oedd Y seren roc Gymraeg.

Roedd Gwesty Cymru newydd ddod allan yn dilyn y campweithiau Hen Wlad fy Nhadau a Tacsi i’r Tywyllwch. Roedd hyn fel cael David Bowie yn feirniad ar yr X-Factor.

Pan enillon ni, cawsom y cyfle i ryddhau record sengl ac i berfformio ar lwyfannau ledled Cymru. Roedd cael rhannu llwyfan gyda’r Cynganeddwyr yn anhygoel i grwp yn ein harddegau. Tu ôl i’r llwyfan roedd Geraint a’r band yn gyfeillgar ac yn hael ac fe gawsom ni’n ddylanwadu’n enfawr ganddynt.

Roeddwn i’n aml yn bwmpio mewn i Geraint mewn gigs reggae niferus Caerdydd ac roedd e wastad yn dweud helo. Ar ôl i Clustiau Cŵn ddod i ben, gofynodd os oeddwn i am ddechrau grwp newydd. “Mae grwpiau yn werthfawr – fe ddaw yr un i ti” medde Ger.

Roedd y ffordd roedd yn mentora ac yn annog artistiaid yn ystod cyfnod Criw Byw a Fideo9 yn hael ac yn ddiffuant. Heb ei anogaeth fydde Ankst ac artistiaid eu roster ddim hanner mor gynhyrchiol. Y Cyrff, Ffa Coffi, Crumbloeers, Llwybr Llaethog, Erin Peryglus a Datblygu, Wwwz, Diffiniad a’r Gwefrau. Fe helpodd fy ngrwpiau i: Traddodiad Ofnus (gyda Mark Lugg) a Pop Negatif Wastad (gyda Esyllt Anwyl). Fe wnaeth yn siwr mod i’n cael amser stiwdio pan wedes i mod i am wneud ‘house music’ ac fe aned Tŷ Gwydr gyda’r track Rhyw Ddydd.

Heb ei anogaeth, dwi’n amau os fydde Cool Cymru wedi digwydd yn y ffordd mor ysblenudd wnaeth e yn y 90au. Roedd ei gefnogaeth a’i gyfraniad mor bwysig a hynny.
Ddaeth yn ôl at y llwyfan o’r diwedd ac fe sgrifennodd rhagor o ganeuon hynnod. Roedd y perfformiadau yn ystod Eisteddfod Caerdydd yn 2018: un gyda cerddorfa yng Nghanolfan y mileniwm ac un yn nhywyllwch Clwb Ifor Bach yn wirioneddol wych.

Da ni di colli gymaint o gyfeillion annwyl yn ddiweddar. David R Edwards, Dyfrig Wyn Evans, Emyr Glyn Williams a nawr Geraint Jarman.

Y tro dwethaf welais i e oedd yn angladd Martin McCarthy, cyfarwyddwr gymaint o gynnyrch Criw Byw. Roedd Ger yn eistedd rownd bord yn hel atgofion gyda Lugg, John Gedru ac Emyr. Roedd rhaid i mi adael yn gynnar, ond cyn i mi fynd, teimlais yr angen i ddatgan mod i’n caru pob un ohonynt. Dyma’r tro olaf i mi weld Emyr hefyd.

Geraint – roedd dy gyfraniad yn anferth. Fe ddest ti ag ‘edge’ ddinesig i roc Cymraeg ac fe geisieist ‘normaleiddio’r Gymraeg’ ar sîn roc Caerdydd. Roeddet ti’n wych: yn ddylanwad ac yn gyfaill i gymaint ohonom ni. Yn hael ac yn ddoeth. Yn dad bedydd i’n diwylliant modern. Diolch i ti am dy wasanaeth ac am dy fodolaeth. Da ni gyd yn rocyrs â gwalltiau cyrliog erbyn hyn.

5/3/25

Diolch o galon i Gareth Potter am roi caniatâd i wefan Y Twll ail-gyhoeddi’r deyrnged hyfryd yma.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *