Mae Dokkebi Q yn dod o Tokyo trwy Dalston, dwyrain Llundain ac yn gynnwys aelodau Kiki Hitomi a Gorgonn. Mae Kiki yn canu yn Saesneg a Japaneg, weithiau yn yr un gân. Efallai rwyt ti wedi clywed ei waith llafur gyda Goth Trad neu King Midas Sound/The Bug eisoes.
Os ti’n cyfarwydd ar dubstep o Japan fel Goth Trad a Quarta 330 byddi di’n adnabod rhai o’r elfennau gan cynhyrchydd Gorgonn. Mae fe’n cymryd y bas a churiadau o dub(step) a dancehall ac yn cymysgu gyda seiniau arcêd a samplau. Mae Kiki yn dod gyda efallai mwy o felyster ac elfennau annisgwyliadwy na’r sain dub clasurol fel dyfyniadau hip-hop ac agwedd pioden gyffredinol.
Dw i’n methu ffeindio crynodeb well na’r enw yr albwm newydd, sef Hardcore Cherry Bon Bon.
craiddcaletach na canol eirin gwlanog
craiddcaletach na trons rhinoseros yn dymor paru
doniol pob doniolwch, tra nid llychyn pob llwch!