Mae Owen Hatherley yn awdur, blogiwr, cefnogwr Pulp a meddyliwr – am y cysylltiadau rhwng pensaernïaeth, cynllunio tref, adeiladau, gofod, gwleidyddiaeth ac ein cymdeithas a diwylliant fel dinesyddion yn yr oes ôl-Llafur Newydd.
Dyma rhai o feddyliau Hatherley am Gaerdydd:
Here I have to confess assuming that Arcades were something uniquely found in Paris and Piccadilly, so hence my previous idea that their presence in West Yorkshire was proof of the area’s aptness for flanerie. Cardiff, however, has absolutely loads of iron-and-glass Arcades, albeit all in the same place, which carve unexpected and relatively intrigue-filled pathways through what would otherwise have been some Victorian alleyways. The Market has some great vintage signage on the outside, and the general atmosphere would have been perfect for a ’30s Hitchcock film, at just the right level of seedy.
Not all of central Cardiff is as interesting, but there’s a good line in silliness in some of the architecture, which for the most part – excepting the invariably dreadful towers – can be quite entertaining. I’d be especially interested to know what the FAT or AOC neo-postmodernist contingent think of buidings like the Cardiff Cineworld, which without ever quite being good, have at least a bit of fun with our prevailing modernism-on-the-cheap, as does the Millennium Stadium, although it’s a shame the struts are painted white, when black or red would have taken the admirable tastelessness to a more charismatic level. There’s one fine bit of late Brutalism, St David’s Hall, in the middle of this, looking improbably chic and European Grey by comparison.
The St Mary’s Street area is one of two really very good things in Cardiff, the other being the Imperialistic Beaux-Arts pleasures of Cathays Park, lots of Portland stone classical buildings housing sundry museums, assemblies and suchlike, with green space inbetween and boulevards laid through. Interestingly, this was planned decades before Cardiff was designated ‘capital’ of Wales, and yet it is laid out with confident gusto as if it already were…
Rwyt ti’n gallu darllen y cofnod llawn am Gaerdydd ar ei flog neu yn ei lyfr A Guide to the New Ruins of Great Britain, yn ei eiriau “awtopsi’r dadeni trefol”. Byddi di’n edrych at y ddinas gyda llygaid newydd – er enghraifft, wnes i ddim sylwi’r “wal anifeiliaid” gan Gitta Gschwendtner (ar y ffordd i Fae Caerdydd o Grangetown) cyn i mi ddarllen y cofnod yna.
Mae Hatherley yn dod i Gymru i siarad ym Mhrifysgol Caerdydd ar y 6ed mis Gorffenaf eleni. Does dim llawer o fanylion i gael eto ond cadwa’r dyddiad achos dylai’r digwyddiad bod yn ddifyr a diddorol iawn.
lluniau gan oddsteph a waltjabsco (Creative Commons)
Diolch am yr heads-up am ei ddarlith -mae gan yr adran Cynllunio Trefol a Rhanbarthol ddarllithoedd da ymlaen, er mond un (gan awdures Hungry Cities) dw i wedi bod i erioed!
Darllenais i adolygiad ei lyfr yn y Guardian ac adolygiad neu ddau gan yr awdur am lyfrau pobl eraill, a tra ro’n i’n cytuno gyda phopeth roedd yn ddweud, yn teimlo bod o lan tîn ei hun braidd, ond o ddarllen ei gofnod am Gaerdydd, dw i’n licio ei arddull yn fwy (er ddim cweit yn dallt ei broblem gyda lleoli Sain Ffagan ar gyrion y brifddinas chwaith, a chael cynnig y tir fel rhodd wnaethon nhw beth bynnag, ond ta waeth..)
Yn ôl i ganol y ddinas. Ro’n i’n mynd lawr Heol y Santes Fair (HSF) bore yma ac yn meddwl pa mor ofnadwy mae’r street furniture newydd yn edrych. Nawr bod y ffordd wedi ei bedesrianeiddio (syniad doeth?), a bod wyneb newydd y stryd rwan yn cyd-fynd a’r slapbiau trwchus slic fel sy yn yr Aes a Heol y Frenhines, mae mynedfa i HSF o flaen y castell fel bod ffatri bollards a lampiau stryd wedi chwydu dros y lle. Ac i wneud pethau’n waeth, mae nhw wedi mynd am y steil ‘faux Fictoraidd/Edwardaidd’ du yna. Tydy o ddim yn gweddu steil y slabs, sy’n reit cyfoes. Ond mae’r cyngor hefyd wedi bod yn rhoi lampau ac arwyddion newydd deniadol a modern yn rhannau eraill canol y dref. S’dim cysondeb.
O ran adeiladau, mae rhwyun yn tueddu peidio sylwi ar pa mor smart ydy rhai o adeiladau HSF a gyda amerdiad o whanol steils o gyfnodau gwahanol. Pti bod nhw’n gymiant ogymysgfa. Rhaid i mi ddeud, Neuadd Dewi Sant ydy fy hoff adeilad yng nghanol y ddinas. Dw i’n meddwl bod o’n edrych reit diddorol tu allan a dw i’n hoff iawn o sut mae’r lefelau gwahanol o seddi yn y brif neuadd yn edrych mor ddi-drefn – dw i’n credu bod o’n ychwanegu ar yr awyrgylch tu mewn.
Roedd Owen Hatherley yn siarad yma ym Mryste cwpl o fisoedd nol, rhan o raglen galeri Spike Island yn ymwneud ag arddangosfa yr artist Sean Edwards ‘Maelfa’.
“The Maelfa Shopping Centre, Llanedeyrn, situated on the outskirts of Cardiff, is the focus of Sean Edwards’ latest project. Built around a block of high-rise flats in a council estate in the mid 1970s, the Maelfa centre was once a thriving microcosm of the wider city but declined over the subsequent decades. Edwards undertook a residency in the centre ahead of its planned demolition, making a careful study of the still functioning yet near derelict space, creating a series of new works”.
Yn anffodus mae’r arddangosfa’n gorffen fory, ond hwyrach fydd yn cael ei ddangos yng Nghaerdydd rywbryd?
Diddorol… O leiaf dylen nhw dangos yr arddangosfa yn Llanedeyrn!