Elidir Jones (Plant Duw) + MC Mabon = Elixir

Dw i newydd gael gafael ar gopi o albwm newydd o’r enw Elixir oddi wrth label Tarw Du.

Mae’r hanner cyntaf hyd yn hyn yn ddoniol, cyfoethog, a phrofoclyd.

‘Mewn newyddion bisâr ac annisgwyl, dwi di recordio albym o gomedi cerddorol efo MC Mabon.’ meddai‘r perfformiwr Elidir Jones, sydd hefyd yn ddigrifwr, athronydd, basydd (i fand Plant Duw) a chyfrannwr achlysurol i’r Twll.

Mae Elidir yn esbonio’r cyfan yn y fideo promo uchod (sy’n parhau am bron i ddeg munud!).

Mae’r albwm Elixir ar gael yn ddigidol nawr.

Fideo hunllefus Casey + Ewan i “Head and Shoulders” gan Leftfield & Sleaford Mods

Dw i wedi sôn am fideos Casey Raymond ac Ewan Jones Morris sawl gwaith o’r blaen.

Dyma hunllef o flaen eich llygaid, eu fideo i’r gân Head and Shoulders gan Leftfield/Sleaford Mods.

Mae’r cyfuniad rhwng y delweddau a’r geiriau yn berffaith.

‘Dyn ni’n gweld rhyw fath o Pac-Man erchyll yn bwyta pob darn o jync ar hyd ei daith mewn dinas o salwch, bwyd crap, dyled ddrud, gwleidyddion twyllodrus a Bargain Booze.

Gallen ni wedi bod ar unrhyw stryd yng Nghaerdydd fel Heol y Porth neu Heol y Bontfaen efallai neu unrhyw le yn Llundain. Wedyn mae’r olygfa yn chwyddo mas i’r byd i gyd.

22:24 o radicaliaeth gosmig. Detholiad C2 Carl Morris

Mwynhais i’r cyfle i droelli tiwns yn fyw ar raglen C2 ar ddiwedd mis Gorffennaf.

Gallech chi wrando ar neu lawrlwytho fy set yma.

Mae traciau gan Gwenno, Patrick Cowley, E-GZR, Nami Shimada & Soichi Terada, DJ Mujava a mwy.

Carcharorion a’r Pencadlys oedd y troellwyr eraill. Doedd dim briff i’r troellwyr o gwbl heblaw am amser, sydd yn beth positif – neu beryglus!

Hoffwn i recordio set arall yn y tŷ pan fydd cyfle.

 

Mae unrhyw fyfyriwr yn gallu ceisio am le yn Neuadd Pantycelyn

bethan-jeff-pantycelyn

Heno mae’r cyn-fyfyriwr Jeff Smith yn dal i aros yn Neuadd Pantycelyn fel rhan o brotest yn erbyn cynllun Prifysgol Aberystwyth i gau’r neuadd. Dyma lun ohono fe gyda’i gyd-brotestiwr Bethan Ruth ar ben y to.

Meddai Jeff yn yr erthygl Pantycelyn: Addysg ar ei orau:

[…]
Pan gyrhaeddais Neuadd Pantycelyn yn 2007, ro’n i’n di-Gymraeg a swil iawn. Dwi’n dod o dde-ddwyrain Lloegr yn wreiddiol, lle na siaredir Cymraeg, ac mae gen i syndrom Asperger, sy’n tarfu ar fy nealltwriaeth o sut i gymdeithasu ac ati.

Bu hyn yn newid yn gyflym! Cymraeg yw’r iaith bob dydd ym Mhantycelyn, ac ro’n i’n clywed e bobman – yn y coridorau, yn y Lolfa Fawr, yn y Ffreutur a mewn digwyddiadau cymdeithasol. […]

Fel atodiad i’r darn gwreiddiol, dyma bwt o drafodaeth yr ydym wedi cael. Mae fe wedi caniatáu i mi ei gyhoeddi yma.

sgwrs-carl-jeff-pantycelyn

Trawsgrifiad:

Hei Jeff

Mae ‘na rhywbeth dw i eisiau gofyn i ti.

Mae Daily Post yn dweud ‘They refuse to leave the Pantycelyn Hall which is dedicated to Welsh language speakers […]’.

http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/aberystwyth-university-students-sit-in-demonstration-9451460

Fyddai hi’n fwy cywir i ddweud bod y neuadd yn ‘gyfrwng Cymraeg’ yn hytrach nag ‘ar gyfer siaradwyr Cymraeg?’

e.e. rwyt ti wedi dysgu Cymraeg trwy Bantycelyn a’r Brifysgol ayyb. Dyna un agwedd o’r neuadd sydd ddim yn amlwg i bobl.

Pa mor hawdd yw e i berson ‘di-Gymraeg’ geisio am le yn Neuadd Pantycelyn?

Hefyd oes unrhyw glem pa ganran sydd ddim yn siarad (neu ddim yn rhugl) yn Gymraeg ar y ffordd i mewn?

Dw i’n chwilfrydig, ‘na gyd.

Mae’n flin gyda fi am fethu’r protest. Pob lwc i chi a’r ymgyrch.

Dyma drawsgrifiad o’i ymateb:

Diolch Carl. Ie, Neuadd Cyfrwng Cymraeg ydyw. Mae’n reit hawdd ddod mewn fel dysgwr: nes i jyst dweud bo fi eisiau byw yno ac eisiau dysgu Cymraeg! Mae sawl un bob blwyddyn sy’n dod mewn yn ddi-Gymraeg ac yno ddysgu, ond dw i ddim yn hollol siwr o’r canran sori. Mae nifer hyd yn oed fyw [fwy] sy’n dod mewn yn ail-iaith ac yno gwella’u Cymraeg

neuadd-pantycelyn-dogfael-cc

Roedd y Daily Post yn gywir yn yr ystyr bod pobl yn gadael Pantycelyn fel siaradwyr Cymraeg.

Ond dw i ddim wedi canfod unrhyw dystiolaeth o ‘brawf ieithyddol’ ar y ffordd i mewn.

Wrth gwrs dyna sut mae cymunedau cyfrwng Cymraeg fod gweithio, ‘na i gyd sydd angen ydy cefnogaeth go iawn ac adnoddau digonol.

Llun Pantycelyn gan Dogfael (Comin Creu)

Y 9 ffordd orau o gael eich twyllo yn Beijing

hwyaden-beijing

Mae lot o bethau hyfryd am Beijing; pobl cyfeillgar, parciau, tywydd, bwyd wrth gwrs.

Does dim lot o drosedd amlwg er bod hi’n anodd dod i hyd i ffigyrau trosedd dibynadwy. Mae cosbau yn llym mae’n debyg. Weloch chi erioed garchar Tseiniaidd ar TripAdvisor?

Mae hi’n teimlo’n weddol ddiogel yna, saffach na rhannau o Lundain o bosib.

Gellir gadael beic ar y stryd yng nghanol prifddinas Tseina heb ei gloi.

beics-beijing

Ond nid erthygl ‘ewch i Beijing’ yw hon, hoffwn i sôn am elfen weddol anhysbys o’r ddinas.

Heb os ac oni bai mae twyllo yn rhan o’r profiad i ymwelwyr.

Er mwyn eich diddanu a’ch rhybuddio dyma fy rhestr o ‘hoff’ ddulliau twyllo yn Beijing dw i wedi eu gweld neu glywed amdanynt.

1. Seremoni de

Ar y stryd ger Sgwar Tiananmen daeth dwy fenyw ataf i yn y prynhawn.

O le wyt ti’n dod? Wyt ti eisiau mynychu seremoni de draddodiadol? Bydd hi’n hwyl!

Ar y wyneb mae’n swnio’n addawol ond mae eisiau bod yn amheus o Saesneg sydd mor dda yn y ddinas hon.

Mae’r gwahoddiad yn arwain at sgam clasurol, ‘seremoni’ de lle mae’r ‘traddodiadau’ i gyd wedi cael eu dyfeisio yn ddiweddar.

Wedyn maen nhw yn eich bwrw gyda bil am grocbris, efallai deg gwaith mwy na’r gost arferol.

Dwedais dim diolch mewn sawl ffordd, sawl gwaith, a doedden nhw ddim yn edrych mor gyfeillgar wedyn. Roedd rhaid iddyn nhw ffoi i ganfod yfwyr te eraill.

Dyma nhw.

menywod-twyllo-beijing

Weithiau cwrw sy’n cael ei gynnig yn lle te.

Cafodd fy nghefnder ei dwyllo gan yr un yma. Chwerthais pan glywais achos mae fe’n siarad mwy o Mandarin na fi ac mae hwnna yn GLASUR o dwyll. Mae pob canllaw o Lonely Planet lawr i’r drydedd silff yn sôn amdano fe. Cafodd e baned o de a gwers ddrud am ei drafferth.

2. Y farchnad

Mae sôn am brynu co’ bach USB am bris anhygoel o rad mewn marchnad. Doedd dim byd ynddo fe heblaw am dywod.

Mae llawer o stwff electronig o farchnadoedd yn amheus. Maen nhw yn wneud i Del Boy edrych fel Steve Jobs.

Caveat emptor.

hi-pad-kuala-lumpur

3. Bwydlen Saesneg

Ambell waith yn y bwyty mae dwy fwydlen, un arferol ac un yn Saesneg gyda phrisiau uwch.

Mae angen talu’r cyfieithydd rhywsut sbo.

sweet-and-sour-suck-finger-beijing

4. Brandiau (drwg)enwog

Pwy sydd wir yn gwneud y twyllo yma ydy’r cwestiwn, y cwmniau rhyngwladol sy’n penodi darparwyr i gaethiwo pobl am 50c i greu dillad brand hyll i ni yn y gorllewin – neu’r siopau Tseiniaidd sy’n gwerthu fersiynau ffug ohonynt?

lowis-dress-beijing

Mae cwestiwn athronyddol am beth yw ‘go iawn’ yma. Mae llefydd yn y dwyrain yn fwy ôl-fodernaidd na Chymru, os yw’n cynnwys yr enw Burberry mae’n rhaid bod y dilledyn YN Burberry. Does dim ffasiwn peth ag eitem go iawn ac eitem counterfeit.

Wel, mewn rhai o achosion.

berboorry-tocio

5. Phantom power

Gwelais fachgen yn crwydro’r strydoedd ger Nanluoguxiang gyda’r nos. Roedd e’n edrych yn ddall – doedd dim rheswm i beidio credu ei fod e’n dall.

Roedd e’n chwarae’r offeryn erhu ac yn dangos sgiliau o’r radd flaenaf, tra bod dynes hŷn (efallai ei fam) yn casglu arian parod wrth dwristiaid.

Roedd y sain yn anhygoel. Rhy anhygoel.

Wedyn gwnes i sylweddoli ar y seinydd bach ar ei wregys. Doedd dim ymdrech o gwbl i’w guddio.

O’n i wir yn ystyried cyfrannu fel clod am fod yn un o’r artistiaid meim gorau erioed.

Dyma gwpl yn bysgio ar yr erhu, neu rywbeth tebyg, heb seinydd.

erhu-tocio

6. Teithio’r ddinas

Dw i’n fodlon tipio. Ond dydy tipio ddim yn rhan o ddiwylliant Beijing. (Gweler hefyd: Ceredigion.)

Efallai does dim angen.

ricsios-beijing

Mae gyrwyr ricsios weithiau yn esgus bod nhw ddim yn deall materion ariannol neu fod camddealltwriaeth o seros wedi bod. Fel arall dydyn nhw ddim yn rhoi newid yn ôl i berson gwyn.

Felly yn hytrach na chlirio mas yr arian man, mae eisiau cadw amrywiaeth o werthoedd mewn waled rhag ofn.

Mae tacsis – hynny yw, ceir yn hytrach na ricsios – yn hollol iawn cyn belled bod nhw yn swyddogol, sydd yn golygu gyrrwr di-Saesneg fel arfer. Os taw ‘Sir, sir! Taxi sir?’ yw’r cynnig, ‘na’ yw’r ymateb. Mae’r rhai heb drwydded yn lot drytach.

chaoyangmen

7. Pigwyr pocedi

Ydy pigo pocedi yn cyfrif fel twyll? Ta waeth mae’n digwydd o bryd i’w gilydd yn ôl y sôn – tra’ch bod chi’n syllu ar fap dan ddaear.

tiwb-beijing

8. Morladron masnachu

Dw i’n cofio gwylio ffilm mewn tŷ yn Asia tua 10 mlynedd yn ôl. Nid fi a brynodd y CD fideo – hen fformat a oedd yn debyg i DVD.

Roedd y delwedd yn cynnwys nid yn unig y ffilm ond elfennau o olygfa o ystafell sinema dywyll. Nawr ac yn y man roedd silwetau o bobl yn sefyll ac yn cerdded heibio’r llun er mwyn mynd i’r tai bach.

Mae’n debyg roedd modd pori amrywiaeth o ffilmiau newydd ar stondinau stryd yn Beijing ac ar draws dwyrain Asia ar un adeg, gan gynnwys ffilmiau cyfredol o’r sinema. Roedd yr ansawdd yn amrywio lot. Yn yr oes ddigidol mae’r farchnad wedi mynd oherwydd torrentau, Pirate Bay ac ati.

Mae ambell i stondin stryd yn gwerthu copïau anhrwyddedig o gerddoriaeth o hyd. Mae angen mynd i siopau mewn canolfanau siopa anferth am gerddoriaeth drwyddededig a thalu pedair gwaith y pris.

yanjing

9. Yanjing gyda phopeth

Roedd y prydau o fwyd yn Beijing yn hollol wych ar y cyfan. O’n i wedi bod yn bwyta reis, nwdls, hwyaden a’r gorau o stwff Tseiniaidd trwy’r wythnos gyda photel o Nanjing bron bob tro, lager digon dymunol er generig.

Am fy mhryd o fwyd olaf cyn gadael y ddinas, es i i hutong (hen lôn draddodiadol lle mae llawer o dai, caffis a siopau bychain) i fwyta ‘pizza hutong’.

Yn y bwyty pizza roedd detholiad o gwrw o bob cwr o’r byd mewn oergell eang, dewis sy’n anarferol mewn llefydd o’i fath. Gwych, o’n i’n meddwl, byddaf i’n joio cael blasu gwydryn o Erdinger Weissbier am bris mewnforio. Roedd hi’n dal yn rhatach na’r llefydd cwrw crefft newydd yng Nghaerdydd.

Agorwyd y botel gan weinydd ac ar ôl cwpl o lymeidiau sylweddolais taw’r un hen Nanjing oedd hi eto – o’r botel Erdinger Weissbier. Roedden nhw wedi llwyddo i roi’r cap yn ôl ar y botel.

Roedd hi’n ffordd weddol ysgafn o gael fy nhwyllo. Bai fi oedd hi mewn ffordd achos o’n i ddim yn gwybod sut i gwyno trwy gyfrwng y Mandarin ac o’n i’n llac ac yn stiwpid i hyd yn oed ystyried yfed rhywbeth mor Ewropeaidd mewn hutong.

gwyneb-dinas-beijing

Lluniau gan Carl. Diolch i Rhys Wynne am help.