Y 9 ffordd orau o gael eich twyllo yn Beijing

hwyaden-beijing

Mae lot o bethau hyfryd am Beijing; pobl cyfeillgar, parciau, tywydd, bwyd wrth gwrs.

Does dim lot o drosedd amlwg er bod hi’n anodd dod i hyd i ffigyrau trosedd dibynadwy. Mae cosbau yn llym mae’n debyg. Weloch chi erioed garchar Tseiniaidd ar TripAdvisor?

Mae hi’n teimlo’n weddol ddiogel yna, saffach na rhannau o Lundain o bosib.

Gellir gadael beic ar y stryd yng nghanol prifddinas Tseina heb ei gloi.

beics-beijing

Ond nid erthygl ‘ewch i Beijing’ yw hon, hoffwn i sôn am elfen weddol anhysbys o’r ddinas.

Heb os ac oni bai mae twyllo yn rhan o’r profiad i ymwelwyr.

Er mwyn eich diddanu a’ch rhybuddio dyma fy rhestr o ‘hoff’ ddulliau twyllo yn Beijing dw i wedi eu gweld neu glywed amdanynt.

1. Seremoni de

Ar y stryd ger Sgwar Tiananmen daeth dwy fenyw ataf i yn y prynhawn.

O le wyt ti’n dod? Wyt ti eisiau mynychu seremoni de draddodiadol? Bydd hi’n hwyl!

Ar y wyneb mae’n swnio’n addawol ond mae eisiau bod yn amheus o Saesneg sydd mor dda yn y ddinas hon.

Mae’r gwahoddiad yn arwain at sgam clasurol, ‘seremoni’ de lle mae’r ‘traddodiadau’ i gyd wedi cael eu dyfeisio yn ddiweddar.

Wedyn maen nhw yn eich bwrw gyda bil am grocbris, efallai deg gwaith mwy na’r gost arferol.

Dwedais dim diolch mewn sawl ffordd, sawl gwaith, a doedden nhw ddim yn edrych mor gyfeillgar wedyn. Roedd rhaid iddyn nhw ffoi i ganfod yfwyr te eraill.

Dyma nhw.

menywod-twyllo-beijing

Weithiau cwrw sy’n cael ei gynnig yn lle te.

Cafodd fy nghefnder ei dwyllo gan yr un yma. Chwerthais pan glywais achos mae fe’n siarad mwy o Mandarin na fi ac mae hwnna yn GLASUR o dwyll. Mae pob canllaw o Lonely Planet lawr i’r drydedd silff yn sôn amdano fe. Cafodd e baned o de a gwers ddrud am ei drafferth.

2. Y farchnad

Mae sôn am brynu co’ bach USB am bris anhygoel o rad mewn marchnad. Doedd dim byd ynddo fe heblaw am dywod.

Mae llawer o stwff electronig o farchnadoedd yn amheus. Maen nhw yn wneud i Del Boy edrych fel Steve Jobs.

Caveat emptor.

hi-pad-kuala-lumpur

3. Bwydlen Saesneg

Ambell waith yn y bwyty mae dwy fwydlen, un arferol ac un yn Saesneg gyda phrisiau uwch.

Mae angen talu’r cyfieithydd rhywsut sbo.

sweet-and-sour-suck-finger-beijing

4. Brandiau (drwg)enwog

Pwy sydd wir yn gwneud y twyllo yma ydy’r cwestiwn, y cwmniau rhyngwladol sy’n penodi darparwyr i gaethiwo pobl am 50c i greu dillad brand hyll i ni yn y gorllewin – neu’r siopau Tseiniaidd sy’n gwerthu fersiynau ffug ohonynt?

lowis-dress-beijing

Mae cwestiwn athronyddol am beth yw ‘go iawn’ yma. Mae llefydd yn y dwyrain yn fwy ôl-fodernaidd na Chymru, os yw’n cynnwys yr enw Burberry mae’n rhaid bod y dilledyn YN Burberry. Does dim ffasiwn peth ag eitem go iawn ac eitem counterfeit.

Wel, mewn rhai o achosion.

berboorry-tocio

5. Phantom power

Gwelais fachgen yn crwydro’r strydoedd ger Nanluoguxiang gyda’r nos. Roedd e’n edrych yn ddall – doedd dim rheswm i beidio credu ei fod e’n dall.

Roedd e’n chwarae’r offeryn erhu ac yn dangos sgiliau o’r radd flaenaf, tra bod dynes hŷn (efallai ei fam) yn casglu arian parod wrth dwristiaid.

Roedd y sain yn anhygoel. Rhy anhygoel.

Wedyn gwnes i sylweddoli ar y seinydd bach ar ei wregys. Doedd dim ymdrech o gwbl i’w guddio.

O’n i wir yn ystyried cyfrannu fel clod am fod yn un o’r artistiaid meim gorau erioed.

Dyma gwpl yn bysgio ar yr erhu, neu rywbeth tebyg, heb seinydd.

erhu-tocio

6. Teithio’r ddinas

Dw i’n fodlon tipio. Ond dydy tipio ddim yn rhan o ddiwylliant Beijing. (Gweler hefyd: Ceredigion.)

Efallai does dim angen.

ricsios-beijing

Mae gyrwyr ricsios weithiau yn esgus bod nhw ddim yn deall materion ariannol neu fod camddealltwriaeth o seros wedi bod. Fel arall dydyn nhw ddim yn rhoi newid yn ôl i berson gwyn.

Felly yn hytrach na chlirio mas yr arian man, mae eisiau cadw amrywiaeth o werthoedd mewn waled rhag ofn.

Mae tacsis – hynny yw, ceir yn hytrach na ricsios – yn hollol iawn cyn belled bod nhw yn swyddogol, sydd yn golygu gyrrwr di-Saesneg fel arfer. Os taw ‘Sir, sir! Taxi sir?’ yw’r cynnig, ‘na’ yw’r ymateb. Mae’r rhai heb drwydded yn lot drytach.

chaoyangmen

7. Pigwyr pocedi

Ydy pigo pocedi yn cyfrif fel twyll? Ta waeth mae’n digwydd o bryd i’w gilydd yn ôl y sôn – tra’ch bod chi’n syllu ar fap dan ddaear.

tiwb-beijing

8. Morladron masnachu

Dw i’n cofio gwylio ffilm mewn tŷ yn Asia tua 10 mlynedd yn ôl. Nid fi a brynodd y CD fideo – hen fformat a oedd yn debyg i DVD.

Roedd y delwedd yn cynnwys nid yn unig y ffilm ond elfennau o olygfa o ystafell sinema dywyll. Nawr ac yn y man roedd silwetau o bobl yn sefyll ac yn cerdded heibio’r llun er mwyn mynd i’r tai bach.

Mae’n debyg roedd modd pori amrywiaeth o ffilmiau newydd ar stondinau stryd yn Beijing ac ar draws dwyrain Asia ar un adeg, gan gynnwys ffilmiau cyfredol o’r sinema. Roedd yr ansawdd yn amrywio lot. Yn yr oes ddigidol mae’r farchnad wedi mynd oherwydd torrentau, Pirate Bay ac ati.

Mae ambell i stondin stryd yn gwerthu copïau anhrwyddedig o gerddoriaeth o hyd. Mae angen mynd i siopau mewn canolfanau siopa anferth am gerddoriaeth drwyddededig a thalu pedair gwaith y pris.

yanjing

9. Yanjing gyda phopeth

Roedd y prydau o fwyd yn Beijing yn hollol wych ar y cyfan. O’n i wedi bod yn bwyta reis, nwdls, hwyaden a’r gorau o stwff Tseiniaidd trwy’r wythnos gyda photel o Nanjing bron bob tro, lager digon dymunol er generig.

Am fy mhryd o fwyd olaf cyn gadael y ddinas, es i i hutong (hen lôn draddodiadol lle mae llawer o dai, caffis a siopau bychain) i fwyta ‘pizza hutong’.

Yn y bwyty pizza roedd detholiad o gwrw o bob cwr o’r byd mewn oergell eang, dewis sy’n anarferol mewn llefydd o’i fath. Gwych, o’n i’n meddwl, byddaf i’n joio cael blasu gwydryn o Erdinger Weissbier am bris mewnforio. Roedd hi’n dal yn rhatach na’r llefydd cwrw crefft newydd yng Nghaerdydd.

Agorwyd y botel gan weinydd ac ar ôl cwpl o lymeidiau sylweddolais taw’r un hen Nanjing oedd hi eto – o’r botel Erdinger Weissbier. Roedden nhw wedi llwyddo i roi’r cap yn ôl ar y botel.

Roedd hi’n ffordd weddol ysgafn o gael fy nhwyllo. Bai fi oedd hi mewn ffordd achos o’n i ddim yn gwybod sut i gwyno trwy gyfrwng y Mandarin ac o’n i’n llac ac yn stiwpid i hyd yn oed ystyried yfed rhywbeth mor Ewropeaidd mewn hutong.

gwyneb-dinas-beijing

Lluniau gan Carl. Diolch i Rhys Wynne am help.

Gwersi a ddysgais wrth deithio Ewrop

Bergen, Norwy

Yr haf yma teithiais i Ewrop. Teithiais filoedd o filltiroedd, gan ymweld â deuddeg gwlad gwahanol; Norwy, Sweden, Y Ffindir, Denmarc, Yr Almaen, Yr Eidal, Groeg, Bwlgaria, Serbia, Croatia, Slovenija a’r Iseldiroedd a dros 25 o ddinasoedd; Oslo, Bergen, Trondheim, Gävle, Stockholm, Turku, Helsinki, Joensuu, Copenhagen, Munich, Rhufain, Y Fatican, Napoli, Sorrento, Pompei, Bari, Patras, Athens, Thessaloniki, Sofia, Beograd, Zagreb, Ljubljana, Amsterdam a Rotterdam… i enwi rhai.

Gallaf ddweud yn hawdd mai dyna oedd amser gorau fy mywyd. Er mai dim ond am fis fues i’n teithio cefais llwyth o brofiadau newydd, gwelais bethau anhygoel ac cwrddais â’r cymeriadau mwyaf lliwgar erioed. Mi ddysgais nifer o bethau newydd tra’n teithio, ond dyma 5 o wersi ddysgais i ar fy nhaith.

Yn gyntaf mae gormod o bwyslais ar drefni rhywle i gysgu. Un o’r rhannau gorau o’r gwyliau oedd y nosweithiau. Wrth deithio mi wnaeth fy nghloc mewnol chwalu a peth da oedd hynny. Yn wir, ar y bore diwrnod cyntaf o deithio dyna le oeddwn i ar ben tŷ opera Oslo am 6.30yb. Yna, cwrddais â dau gymeriad reit “dodgy” ond yn fuan iawn roedd y 3 ohonom ni yna, yn edrych ar draws y ddinas a’r môr â fi’n dysgu Cymraeg i’r ddau arall. Doedd gennym ni ddim papur, ond dechreuodd un o’r dynion chwilota a gwagio’i bocedi, erioed mi welais gasgliad mor ddiddorol mewn poced person. Ar ôl gwagio’i bocedi ffeindiodd nodau 200Kr a beiro wedi torri’n ddarnau bach. Dechreuon nhw ysgrifennu yn Gymraeg ar eu harian, felly yn Norwy nawr mae yno nodau arian gyda tipyn o ysgrifen Cymraeg arnynt.

Mi wersyllais i o dan y sêr, allan yn y gwyllt, yn Scandinavia a’r Ffindir ac er yr holl chwiws a’r mosgitos roedd bod yng nghanol unlle, heb dŷ am filltiroedd ac oriau o deithio o’r pentref agosaf yn brofiad anhygoel. Roedd y rhyddid a brofais yn anhygoel a dwi erioed wedi profi rhywbeth o’r fath.

Erbyn i mi gyrraedd Trondheim (dinas hanner ffordd i fyny Norwy), roeddwn i’n dechrau edrych bach yn sgryffi. Cyrhaeddais i Trondheim am 11yh ac mi gerddais i o amgylch y ddinas am ryw awr yn chwilio am yr hostel lle roeddwn i’n bwriadu aros, dim ond i ddarganfod nad oedd yn agor am gwpl o ddiwrnodau. Mae Norwy yn wlad hynod o ddrud felly nid yw’n syndod bod y gwestau wedi bod yn rhy ddrud i mi, felly cerddais nôl trwy’r ddinas gan anelu at yr orsaf drenau. Yna darganfyddais ei fod wedi cau am y nos. Felly dyna le oeddwn i, gyda fy mag yn drwm ar fy nghefn, fy nghorff yn brifo ar ôl diwrnodau o gerdded, mewn dinas ddiarth heb dô uwch fy mhen na gwely i gysgu. Doedd gen i ddim dewis ond ffeindio mainc concrit a metel tu allan i’r orsaf, a mynd i gysgu am y noson. Ches i ddim trwbl o gwbl, mae’n siwr am fod pobl yn meddwl nad oes gan rywun sy’n cysgu ar y stryd ddim byd o werth arno. Dyna oedd y tro cyntaf wrth deithio i mi gysgu ar fainc, ond dim dyna oedd y tro cyntaf. Mi wnes i rywbeth tebyg yn Bodo yn bell yn y cylch Arctig yng ngogledd Norwy, eto yng ngogledd Sweden ac ar gyrion Napoli yn yr Eidal (lle roedd cryn dipyn yn gynhesach).

Pan gysgais i tu allan i Napoli, ffeindiais fainc ger cledrau trên mewn gorsaf drenau bach heb dô. Tua 1yb, cefais fy neffro gan swn traed yn rhedeg ar draws y concrit ger fy ngwely. Eisteddais i fyny’n syth gan weld heddlu’n rhedeg trwy’r orsaf tuag at drên oedd wedi stopio ar ben y platfform, ar ei hôl nhw roedd 2 paramedig. Yna, llusgwyd menyw oddi ar y trên yn sgrechian a gweiddi. Codais fy mag ar fy nghefn a cherddais draw i weld beth oedd yn digwydd. Roedd torf fach wedi ymgasglu o amgylch y fenyw yma oedd yn ysgwyd ar y llawr ac yn sgrechian. Gofynnais i ddyn oedd yn sefyll drws nesa i mi beth oedd yn digwydd. Dim ond i gael gwybod ei bod hi’n meddwl bod diawl wedi gorchfygu ei chorff. Wedyn daeth heddwas arall gydag offeiriad a dyna le roeddwn i, rhyw Gymro bach ar ei ben ei hun, ganol nos, yn un o ddinasoedd mwyaf peryg Ewrop, yn gwylio alldafliad diawl. Weithiodd hynny ddim ac felly rhoddwyd y fenyw ar stretsier yn sgrechian ac ysgwyd a mynd a hi oddi yno. Es nôl tuag at fy mainc, gorwedd lawr a cheisio mynd yn ôl i gysgu tan y bore.

Yr ail wers yw nid peth gwael yw siarad gyda dieithriaid. Trwy ein plentyndod mae’n rhieni ac athrawon yn dweud wrthym am beidio siarad gyda dieithriaid ac er bod hynny’n wers bwysig i blant, credaf ei bod hi’n beth da i oedolion siarad gyda dieithriaid.

Fel gallwch ddychmygu, roedd teithio’r pellteroedd maith yna’n medru bod yn ddiflas ar adegau. Nid yw’n syndod felly mod i, erbyn diwedd y daith, yn fwy na pharod dechrau sgwrs gyda dieithriaid llwyr. Ond gan amlaf nid fi fyddai’n dechrau’r sgwrs ond yn fuan iawn roeddwn i’n fodlon siarad gydag unrhyw un bron a bod, hyd yn oed os roedden nhw’n hynod o ecsentrig. Roedd hyn yn neud i’r amser deimlo fel roedd yn mynd yn llawer cyflymach. Ond hefyd roedd yna nifer o fanteision eraill i siarad gyda dieithriaid. Dieithriaid argymhellodd lefydd i ymweld â nhw, dieithriaid oedd yn fy mwydo ar adegau, dieithriaid wnaeth yn siwr mod i’n dal y trenau cywir, a help dieithriaid sicrhaodd nad oeddwn i’n mynd ar goll ar ôl cyrraedd dinasoedd newydd.

Rhaid i mi gyffesu mod i’n falch mod i wedi teithio ar fy mhen fy hun, achos pe bawn i wedi teithio gyda chyfaill yna fyddwn i ddim wedi bod mor barod i siarad gyda dieithriaid ac felly ddim wedi cael cyngor a help ganddyn nhw oedd mor hanfodol i lwyddiant fy nhaith.

Y drydedd wers yn syml y dylid gwneud mwy o ymdrech i ailgylchu a thrwsio beth sydd wedi torri. Wrth deithio mi fyddai rhai o fy eiddo yn torri, a doedd gen i ddim arian i brynu rhai newydd i’w amnewid felly doedd gen i ddim dewis ond ceisio’u trwsio. Ges i lawer o drafferth gyda fy sandalau yn benodol, a doedd gen i ddim dewis erbyn y diwedd ond i dorri twll gyda fy nghyllell yng nghanol un ohonyn nhw, wedyn estyn fy nghordyn a cheisio clymu’r sandal mlaen i fy nhroed bob bore. Rhaid cyfaddef nad oedd yn hynod o gyfforddus yn enwedig wrth feddwl bod fy nhraed mewn stad ofnadwy – wedi eu gorchuddio a phothelli ar ôl cerdded gormod a thoriadau bach lle roedd fy nhraed wedi taro cerrig wrth nofio yn y Mediterraenean. Ond roedd gwell dioddef na talu am bâr newydd o sandalau yn enwedig gan mod i wedi prynu’r sandalau ar gyfer y daith ac roeddwn i am iddyn nhw gyrraedd y diwedd.

Wrth deithio roedd hyd yn oed y pethau lleiaf yn gallu bod yn dipyn o antur. Mynd i’r tŷ bach oedd un o anturiaethau’r daith. Mae yna ddau achlysur arbennig dwi’n eu cofio.

Ucheldir Norwy

Yn fuan ar ôl cyrraedd y cylch Arctig wrth syllu allan o ffenestr y trên gwelais olygfeydd anhygoel. Yr unig bethau oedd o fy amgylch oedd coedwigoedd anferthol, cewri o fynyddoedd, llynnoedd rhewllyd eu golwg ac eira ar yr ucheldiroedd. Mor hyfryd oedd yr olygfa mi benderfynais ofyn i reolwr y trên stopio’r trên i mi gael disgyn oddi ar y trên. Dim ond un trên y dydd oedd yn mynd trwy’r baradwys hon yng nghanol unlle yn Norwy. Gofynnodd rheolwr y trên i mi pryd roeddwn i am gael fy nghasglu er mwyn iddo ddweud wrth y trên nesaf i stopio ar fy nghyfer. Felly disgynnais oddi ar y trên a’i wylio’n gadael. Edrychais o gwmpas gan weld dim ond caban bach pren gwag ac un lôn fach pridd. Edrychais tua’r llyn anferthol agos a phenderfynais gerdded i’w glan yn ochr arall. Cerddais am ychydig oriau trwy’r goedwig heb lwybr i’w ddilyn. Ar ôl gosod fy ngwersyll am y noson cerddais ychydig yn fwy tan i mi ffeindio traeth bach cerrig ar lan y llyn a phenderfynais gerdded nôl a symud fy mhabell o’r gwersyll i’r traeth. Wedi gosod yr ail wersyll a rhoi sosban o ddwr i ferwi ar y tân pren roedd rhaid i mi fynd i’r tŷ bach. Felly i ffwrdd a mi i’r goedwig gyda hanner rôl o bapur tŷ bach yn fy llaw. Er mod i’n fodlon cyrcydu pan fod angen, roedd gweld boncyff marw ar lawr y goeden yn ormod o demtasiwn. Felly, gyda’r bwriad o fod yn gyflym i osgoi’r mosgitos, tynnais fy nhrywsus ac eistedd ar y boncyff pwdr i fynd i’r ty bach. Yn fuan ar ôl dechrau, meddyliais fod cnoadau’r mosgitos yn fwy na poenus na’r arfer. Ond na. Nid mosgitos oedd yn cnoi, ond morgrug. Dyna pryd sylwais fod y boncyff wedi ei orchuddio gan nyth morgrug. Wwps.

Nid yn unig byd natur sy’n gallu achosi mynd i’r tŷ bach fod yn antur. Roedd tŷ bach yn Sofia ym Mwlgaria yn dipyn o antur. Doeddwn i ddim mewn tymer da erbyn cyrraedd Sofia, roeddwn i wedi blino, ac roedd rhywun yn yr orsaf drenau wedi dwyn fy mag plastig oedd yn cynnwys cardiau post, beiro a gwefrwr ffôn, dim ond yn gynharach yn y dydd brynais i rheini. Hefyd roeddwn i wedi dechrau blino. Felly, doeddwn i ddim yn hapus gorfod talu i ddefnyddio’r tŷ bach. Ond mi wnes ac mi agorais ddrws y cuddygl. Wel mae ei alw’n ddrws bach yn gor-ddweud, dim ond darn o bren yn ymestyn o fy mhen-glin at fy ngheseiliau. Wel roedd hwnna’n ddigon gwael. Ond beth oedd yn waeth oedd y ffaith nad oeddwn i’n gallu ffeindio fy mhapur tŷ bach. Roedd gen i fy mag mawr yn pwyso yn erbyn cefn y “drws” ac roedd gen i bapur tŷ bach ynddo… rhywle. Felly ar ôl mynd i’r tŷ bach dyna le oeddwn i yn chwilota trwy fy mag anferthol am dipyn o bapur tŷ bach. Yna dechreuodd rhyw hen fenyw, oedd yn amlwg yn gweithio yna, ddod i mewn i’r ystafell lle roedd y cuddyglau dim ond i weld fy mhen i yn hofran tu ôl i’r “drws” gyda fy nhrywsus o amgylch fy ffêr. Gwenais yn chwithig arni tan iddi adael a nôl a fi i chwilota trwy’r bag. Ychydig o funudau wedyn nôl a hi i fy ngweld yn yr union yr un safle. Doedd hi ddim yn edrych yn hapus. Allan a hi. Ychydig o funudau wedyn, nôl a hi a dweud rhywbeth crac i mi gan wgu. Yn ffodus yn y cyfamser mi lwyddais estyn fy ffôn â chyfieithydd arno. Felly pan ddychwelodd y fenyw yma roeddwn i’n barod ar ei chyfer. Efallai mai’r cyfieithiad oedd yn anghywir, neu fi oedd ddim yn ei ehangu’n gywir, neu efallai, nad yw “Cer i grafu” yn neud llawer o synnwyr yn Bwlgareg. Unwaith eto gadawodd hi, llwyddais ffeindio’r papur tŷ bach. Sortio’r bag, a gadael gan gerdded yn syth heibio’r fenyw tu allan gan ddal fy mhen i fyny.

Y wers olaf yw y dylid cadw mewn cysylltiad gyda’r bobl rydych yn cwrdd â nhw wrth deithio. Wrth deithio mi gwrddais â llwythi o bobl newydd ac mi ddes yn ffrindiau gyda rhai ohonynt. Er bod llawer o bobl yn erbyn pethau fel Facebook rhaid i mi ddweud bod yna bethau da iddo. Diolch i Facebook mi fedra i gadw mewn cysylltiad gyda’r rheini gwrddais i wrth deithio ac rydw i wedi gallu trefnu aros gyda nhw yn y dyfodol. Mi fedra i gadw mewn cysylltiad gyda phobl led led y byd na fyddai modd cadw mewn cysylltiad â nhw ond am bethau fel Facebook.