Tiwns am ddim: Twinfield/Pop Negatif Wastad, Gwyllt, Anelog, Roughion

Yn ôl rhai heddiw mae ‘rhyddhau sengl’ yn golygu cynhyrchu tiwn a’i roi ar Soundcloud neu Bandcamp gydag MP3 am ddim i bawb – sydd yn hollol iawn gyda fi yn enwedig pan mae’r ansawdd mor ardderchog â’r hyn sydd wedi dod mas yn ddiweddar.

Mae’r wobr am Slogan Orau Mewn Tiwn Disgo Electronig ers ‘mae pawb yn wir yn haeddu glaw’* yn mynd i’r artist solo Twinfield a’r grŵp Pop Negatif Wastad. Yn ôl Huw S ar C2 heno mae Pop Negatif ar y tiwn hon yn cynnwys Gareth Potter ac Esyllt Lord eto.

Dyma fyddai’r tro cyntaf i’r rhan fwyaf o bobl glywed Twinfield (gynt o VVolves) ac mae llais Potter dros y trac i gyd(!). Dyma sut mae Twinfield yn swnio ar ei ben ei hun:

https://soundcloud.com/winf-ield/strydoedd-y-nos

Mae sawl ffordd o gyrraedd y byd. Mae rhai yn cael eu geni ac mae rhai jyst yn cael eu lansio, megis Amlyn Parry o’r band Gwyllt. Mae e newydd gyd-weithio gyda’r cynhyrchydd Frank Naughton o stiwdio Tŷ Drwg sydd yn gyfrifol am lwythi o gynhyrchiadau gwych eraill megis Ninjah, Geraint Jarman ac albwm newydd sbon danlli grai Alun Gaffey.

Mae Amlyn wedi rapio gyda Band Pres Llareggub hefyd yn (weddol) ddiweddar.

Mae’r gân Siabod gan Anelog ar-lein ers yr hydref ond dw i’n dal i’w chwarae ac i feddwl am y geiriau ac yn edmygu’r ffyrdd mae’r band yn defnyddio’r haenau o sain a lleisiau. Does dim angen talu o reidrwydd ar Bandcamp ond maen nhw yn haeddu cyfraniad bach – o leiaf. (Wedyn gallen nhw fforddio rhyddhau rhywbeth ar fformat analog fel finyl.)

Yn olaf mae’r grŵp Roughion wedi gwneud mwy nag unrhyw un i rannu eu cyfoeth, gyda darnau sylweddol o’i allbwn recordiedig ar Soundcloud am ddim.

Dyma eu fersiwn jyngl o Fersiwn o Fi gan Bromas sydd yn profi bod Roughion yn gallu ail-gymysgu UNRHYW BETH. Sôn am hynny, dw i newydd glywed premières ecsgliwsif o fersiynau Roughion o glasuron gogcore Meinir Gwilym a bocs set arfaethedig Iwcs a Doyle.

Jôc oedd y frawddeg ddiweddaf ond rydych chi’n deall y pwynt.

Plant a phobl ifanc yn canu caneuon Gruff Rhys

Dyma ambell i blentyn yn canu caneuon Gruff Rhys. Ffeindiais un pan o’n i’n chwilio am sioeau Gruff ar YouTube. Ac wedyn ffeindiais un arall ac un arall. Gadewch i mi wybod os oes mwy o gwmpas!

Gyrru, Gyrru, Gyrru yw’r cytgan hawsaf a mwyaf bachog erioed – mewn unrhyw iaith. Dyma berfformiwr ifanc yn gwneud ei ddehongliad trwy feicroffon Paper Jamz newydd sbon. Dyw e ddim yn hynod wahanol i’r offerynnau mae Gruff ei hun yn defnyddio. Cafodd y fideo ei lanlwytho ar ddydd Nadolig yn 2014. Efallai bod e wedi cael amser i ddysgu Iolo Iolo Iolo erbyn hyn hefyd, pwy a ŵyr.

Yn ôl y disgrifiad YouTube mae’r dyn nesaf yn ffan mawr o Gruff, yn enwedig ei albwm solo gyntaf Yr Atal Genhedlaeth.

Dyma fe’n ffeindio ystyron newydd o fewn Gwn Mi Wn. Arbennig iawn.

Mae hi’n edrych fel bod ei berfformiad o Sensations in the Dark o’r un cyfnod.

Dyma bobl ifanc o Gaernarfon a’i chylch yn wneud addasiad clyweledol o’r enw Cylchoedd Rownd Y Byd. Mae’r tiwn yn dechrau ar ôl tua 1:00. Diolch yn fawr iddyn nhw am berfformio a rhannu’r fideo siriol hwn. Nid cyfansoddiad Gruff yn unig ydy hwn ond yr holl Anifeiliaid Anhygoel o Flewog wrth gwrs.

Dylai geiriau ac alawon Gruff fod ar y cwricwlwm i bawb, nid jyst y rhai sy’n digon ffodus i gael rheini, athrawon a thiwtoriaid sy’n gwrando arno fe. Addysg Gruff i Bawb.

Cofia Fi’n Ddiolchgar: ffilm am Y Cyrff o 2000

I’r rhai ohonom ni a oedd yn rhy ifanc neu rywle arall pan oedd Y Cyrff yn eu hanterth dyma hen raglen ddogfen Cofia Fi’n Ddiolchgar am y grŵp roc o fri o Lanrwst.

Mae hi’n cynnwys fideos ac hen glipiau eraill o’r archif gan gynnwys cyfweliadau gyda chyn-aelodau o’r grŵp – a’i cyn-athro daearyddiaeth dylanwadol Toni Schiavone. Hebddo fe byddai’r Cyrff wedi bod yn wahanol iawn – cynigiodd e gig cynnar iddynt ar yr amod eu bod nhw yn canu yn Gymraeg.

Mae teimlad y rhaglen yn syml gyda thestunau ar y sgrîn yn hytrach nag unrhyw droslais.

Darlledwyd y rhaglen gan gwmni cynhyrchu Pop 1 ar S4C yn 2000 yn wreiddiol. Mae testun ar y dechrau yn nodi bod y rhaglen yn deyrnged i’r gitarydd Barry Cawley a fu farw yn yr un flwyddyn mewn damwain ffordd.

Os ydych chi’n chwilio am fwy o fideos mae pobl yn rhannu ffilmiau am gerddoriaeth ar Twitter trwy’r dydd gyda’r hashnod #doccerdd. Diolch i Nwdls am y syniad ac i Siôn Richards am y ddolen i’r rhaglen am Y Cyrff.

Datganolwch y gofod – yn awr! Effaith #BilCymru ar #Cymruddyfodoliaeth

Mae Stephen Crabb AS yn israddio Cymru mewn sawl ffordd, nid yn unig ar y blaned hon.

Llais Cymru yn San Steffan yw Ein Hysgrifenydd Gwladol – i fod. I’r rhai sydd ddim yn dilyn, mae e a Swyddfa Cymru yn derbyn bod angen model ‘cadw pwerau‘ yn hytrach na ‘rhoi pwerau’. Dyna un peth sy’n wneud popeth yn symlach – o’r diwedd. Hynny yw, maen nhw yn enwi’r pwerau sy’n aros yn San Steffan er mwyn i bawb gymryd yn caniataol bod pob maes arall o dan ystyriaeth y Cynulliad. Yn hynny o beth Cymru 2015 = Yr Alban 1998 ond sgwrs arall ydy hynny.

Mae sawl pŵer yn aros gyda San Steffan o hyd, fel y rhai dros: werthu a chyflenwi alcohol, gwasanaethau Rhyngrwyd, cyffuriau a sylweddau seicoweithredol, ‘eiddo deallusol’, gorsafoedd ynni niwclear sy’n cael ei redeg o Tseina ayyb ayyb…

Dyma’r adran fer o’r ddogfen sy’n sôn am y gofod allanol:

bil-cymru-y-gofod-allanol

Mae sylwebyddion o bob lliw gwleidyddol wedi mynegi siom am y bil am lawer o resymau. Mae unrhyw un sy’n beirniadu’r drafft yn nashi sympathiser yn ôl Tŷ Gwydyr yn Llundain (nid y band), hyd yn oed Toris sy’n mynegi pryder a Carwyn Jones AC sydd ei hun yn rhybuddio bydd sarhau pobl Cymru yn arwain at ‘surge in nationalism’.

Mae ystyriaethau daearol fel hyn yn bwysig ond mae agwedd Crabb yn effeithio ar yr holl fydysawd.

Mae hi wedi dod i’r amlwg nad yw e na Swyddfa Cymru wedi dilyn datblygiadau cyffrous ym maes/mudiad Cymruddyfodoliaeth. Fel arall bydden nhw wedi sylweddoli ein gwir botensial.

Y realiti yw bydd angen pwyllgorau Cynulliad a deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru i sicrhau unrhyw fenter Gymreig o bwys yn y gofod. Ond fydd ddim pwerau i Gymru dros weithredoedd yn y gofod o gwbl.

Pe tasen ni eisiau saethu asteroid sy’n peryglu bywyd gyda Lembit-laser? Gofynnwch i San Steffan.

Neu daflunio delwedd o Superted ar y lleuad? Nope.

Cadeirio prifardd ar blaned arall? Sori, wrong number. Ceisiwch Lundain.

Datganolwch Y Gofod – Yn Awr!

Llawenydd gweithgaredd Datblygu – albwm newydd yn y ffatri

Datblygu - Porwr Trallod

Mae blog John Robb wedi cael y première ar ffeithiau am albwm newydd Datblygu – yn Saesneg!

Ta waeth, mae hyn i gyd yn newyddion mawr. Dw i’n edrych ymlaen at weld y band ar gloriau bob cyhoeddiad yng Nghymru o’r Cymro i’r Selar i Golwg i Planet i, err, Barddas.

Porwr Trallod yw enw’r albwm, mae llun clawr gan Ani Saunders ac mae Ankst Musik wedi rhannu ffrwd (a WAV!) o’r clasur instant o gân Llawenydd Diweithdra.

Hi oedd y gân gyntaf yn gig gofiadwy Datblygu yng Ngŵyl CAM yn ôl ym mis Ebrill a dw i wedi cael amser i fyfyrio ychydig amdani hi.

Fel o’n i’n dweud yn y darn ar ôl y gig mae’r band wedi diweddaru’r ffyrdd o gynhyrchu curiadau a sain er bod ‘na cysondeb o ran themâu.

Yn gyffredinol os ydych chi’n cynhyrchu cerddoriaeth electronig mor minimol mae’n rhaid bod hi’n anodd gwybod pryd i stopio a datgan bod y cyfansoddiad wedi gorffen.

Tro yma mae anghyflawnder y trefniant yn rhan bwysig o’r peth – yn enwedig y diffyg cic sydd yn cyfleu ystyr o ddiffyg momentwm y diweithdra i mi yn berffaith, diolch i Pat mae’n debyg.

Gellid dweud ein bod ni’n ail-fyw’r 1980au yn yr oes bresennol neu o leiaf bod ein hoes yn atsain o’r degawd hwnnw o ran yr economi, anghyfartaledd, polisïau o San Steffan ac ati.

Os yw hynny yn wir efallai taw dyna sy’n wneud i ddychweliad Datblygu a’r gân hon deimlo mor addas.

Mae geiriau Dave bron a bod fel cyngor gyrfa amgen i’r ifanc (rhywbeth mae fe wedi cynnig o’r blaen); rant am swyddi di-bwynt, Hall & Oates ac efallai dirfodaeth.

[…] Mae Llawenydd Diweithdra yn well na unrhyw gaethweithdra (?) sy’n cael ei gynnig gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae Llawenydd Diweithdra yn curo bob gwaith mewn swyddfa neu unrhyw swydd ffatri gallai feddwl amdano […]

Llun o lyfr addas gan Bertrand Russell, achos pam ddim

Mewn newyddion hollol annisgwyl mae Stewart Lee. sydd yn curadu gŵyl ATP ym Mhrestatyn ym mis Ebrill 2016, i weld yn ffan o Datblygu… Mae fe wedi dewis y band am gig yn yr ŵyl yn ogystal â Sleaford Mods, The Raincoats, Boredoms ac eraill.

Nid y Fall Cymreig ydyn nhw, pwy ddyfeisiodd y fath twpdra? Maen nhw yn well na’r Fall.