Elidir Jones (Plant Duw) + MC Mabon = Elixir

Dw i newydd gael gafael ar gopi o albwm newydd o’r enw Elixir oddi wrth label Tarw Du.

Mae’r hanner cyntaf hyd yn hyn yn ddoniol, cyfoethog, a phrofoclyd.

‘Mewn newyddion bisâr ac annisgwyl, dwi di recordio albym o gomedi cerddorol efo MC Mabon.’ meddai‘r perfformiwr Elidir Jones, sydd hefyd yn ddigrifwr, athronydd, basydd (i fand Plant Duw) a chyfrannwr achlysurol i’r Twll.

Mae Elidir yn esbonio’r cyfan yn y fideo promo uchod (sy’n parhau am bron i ddeg munud!).

Mae’r albwm Elixir ar gael yn ddigidol nawr.

MC Mabon: albwm newydd

Allan heddiw ar y label Tarw Du:

Dyma albym ddiweddaraf MC Mabon ers rhyddhau Jonez Williamz yn 2007/2008 a’r ail albym Saesneg i MC Mabon ei ryddhau. Y perfformwyr yn y band pedwar dyn yw Mr Huw Owen, Andrew Taylor, Gethin Jones a Gruff Meredith. Hefyd yn ymddangos mae’r brodor o Gaerdydd Johnny Burgess (Keltech & Johnny B) sydd yn ymddangos fel gwestai arbennig ar y trac Black Plumes of Smoke. Hwyl diniwed cefn gwlad efo hint o lemons. Wyth can / 16 munud. Prynwch hi am ddim mwy na £5.99 o’r holl brif siopau arlein.

Cer i’r wefan MC Mabon am fwy.

(Unrhyw un eisiau sgwennu erthygl/adolygiad am yr albwm?)