Mae BTS ar fin rhyddhau eu halbwm newydd, Map of the Soul: 7 mewn toc llai na fis. Falle, fel fi, eich bod chi’n un o filiynau ffans y band pop o Dde Corea yn barod, neu falle’ch bod chi ‘mond wedi clywed amdanyn nhw mewn straeon newyddion sy’n eu trin nhw fel novelty act.
Ffan ai peidio, does ddim gwadu’r pŵer yn y ddwy gân sydd wedi’u rhyddhau’n barod o’r albwm. R’un ohonynt yn brif sengl, yn hytrach, mae Shadow a Black Swan yn arddangos cyfnod newydd y band ac yn rhoi blas ar beth sydd i ddod.
Beth sy’n wych am y ddwy gân yw pa mor wahanol ydyn nhw. Mae’r ddwy’n cael eu defnyddio mewn ffordd benodol wrth farchnata’r prosiect – ‘comeback trailer’ yw Shadow, sef tiwn gan un o rapwyr y band, SUGA, sy’n fyfyrdod plaen ar natur uchelgais a llwyddiant ar ffurf record ôl-trap. Mae’n sioc i’r synhwyrau, ac yn sicr am herio unrhyw un sydd ‘mond yn gyfarwydd gyda phrif sengl y band llynedd, y gan serch addfwyn Boy With Luv.
Yn hollol wahanol i Shadow, ond yn delio gyda thema dywyll arall mae Black Swan. Mae dau fersiwn o’r gân dro hyn: un sy’n cael ei defnyddio ar fideo gelf gan MN Dance Company, mewn fersiwn gyda llinynnau ychwanegol a threfniant sy’n wahanol i’r fersiwn sengl sydd ar gael i’w phrynu a’i ffrydio. Yn delio gyda’r poeni hynny sy’n wynebu bob artist ryw dro – beth sy’n digwydd pan mae’r angerdd yn mynd? – mae’r fideo’n cynnwys perfformiad gan griw o 7 o ddawnswyr cyfoes, sy’n perfformio trwy ganolfan siopa adfail.
Prin ‘dw i wedi pasio diwrnod heb wrando ar y ddwy gan ‘ma ers iddynt gael eu rhyddhau. Er eu miliynau o ffans ar draws y byd, mae digon o le i fwy o bobl dod i werthfawrogi’r dalent aruthrol a’r gelfyddyd pop sydd gyda’r band. Mae’r gân nesaf o’r albwm, Ego, yn glanio ar Chwefror 3ydd, a’r albwm ar y 21ain.
Yn ddiweddar, ysgrifennwyd pethau cas am Gymru a’r Cymry gan y gŵr hwb ddychymyg hwnnw, Rod Liddle, yn dudalennau’r Sunday Times. Roedd hyn mewn ymateb i’r stŵr mawr (sy’n parhau) wedi’r newyddion bod bwriad i ail-enwi un o bontydd Hafren yn ‘Bont Tywysog Cymru’. Yn amlwg, roedd ymateb enfawr yn erbyn beth ysgrifennodd Liddle, gan fod hynny a ysgrifennwyd yn annerbyniol, yn bitw ac yn sarhaus.
Ond wrth i o leiaf dwsinau o bobol cymryd at Twitter, Facebook a mannau eraill i ddatgan eu dicter, roedd rhyw elfen anghyfforddus iawn yn amlwg yn nifer o’r sylwadau. Roedd rhyw syniad wedi dod i’r brig taw rhagfarn gwrth-Gymraeg yw’r ‘hiliaeth dderbyniol olaf’. Wrth drydar, mewn sylwadau Facebook a hyd yn oed erthyglau, roedd rhai Cymry yn mynd ati i honni bod y ffasiwn sarhau a senoffobia ddim yn digwydd i genhedloedd, pobloedd, hilioedd neu wledydd eraill. Roedd cynnig bod sylwadau o’r math hynny ddim yn cael eu printio, neu’n annerbyniol yn gymdeithasol, neu hyd yn oed yn anghyfreithlon.
Mae hyn yn hollol anghywir. Mae Liddle, fel un enghraifft, wedi gwneud gyrfa hir, allan o fod yn rhagfarnllyd ac yn hiliol. Mae o’n cyhoeddi’r fath sylwadau, mae pobol yn eu prynu ac yn cytuno gyda nhw, a – syndod – nid yw Liddle erioed wedi’i garcharu. Mae’r syniad yma, bod ni’n cael ein herlyn yn benodol ac yn arbennig, mor bell o’r gwirionedd mae’n ymddangos fel bod pobol sy’n credu hyn felly’n hollol anymwybodol o faterion hiliaeth a senoffobia os nad yw’n ymwneud â nhw’n uniongyrchol.
Gan ystyried pethau eraill sydd wedi digwydd yn ddiweddar yn y wasg Brydeinig – hiliaeth Quentin Letts yn ei adolygiad o gynhyrchiad y RSC o The Fantastic Follies of Mrs Rich, fel un enghraifft, neu ymosodiad afiach Guy Adams ar yr academydd Priyamvada Gopal – mae’n anodd gweld sut yn union gallwn ni synnu wrth weld barn gwrth-Gymraeg yn cael ei gyhoeddi hefyd. Pan mae dynes Sbaeneg yn cael ei ymosod arni ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Llundain ac wrth i Lywodraeth Prydain mynd ati i alltudio aelodau’r genhedlaeth Windrush, na, nid dyn diflas yn gwneud hwyl am ddiffyg llafariaid yw’r hiliaeth dderbyniol olaf.
Os hoffwn ni weld sylwadau gwrth-Gymraeg yn cael eu cymryd o ddifri mae’n rhaid i ni wneud yn well gyda’n dicter. Os yr unig amser rydyn ni’n sylwi ar bobol fel Liddle ydi pan maen nhw’n ymosod ar ddiwylliant neu iaith Cymru, ac nid pan mae nhw’n ymosod ar bobol ddu, neu ar Fwslemiaid, neu ar unrhyw un arall, yna mae’n dicter ni’n ddibwys ac yn fethiant.
Mae’n debyg bod pawb wedi clywed am y stori erbyn rwan. Roedd fflôt hiliol wedi’i gynnwys fel rhan o garnifal Aberaeron ac fe wnaeth cannoedd o bobol ei amddiffyn. Dyna yw craidd y stori’n wir. Oes, mae manylion bellach am bwy sydd wedi dweud a datgan be, pwy sydd wedi newid eu meddyliau, pwy sydd wedi ymddiheuro a maddeuo. Ond yn syml iawn, fe ddigwyddodd rhywbeth hiliol a chafodd y weithred hynny ei amddiffyn.
Yw lliwio’ch wyneb gwyn yn frown neu’n ddu’n hiliol? Ydi. Yw chwarae cân sy’n trafod pobol Jamaica yn nhermau gwawdlun hiliol yn hiliol? Syrpreis! Ydi. Yw amddiffyn y pethau hyn fel hwyl ddiniwed yn hiliol? Ydi. A yw’n bosib nad oedd gan y bobol oedd yn gyfrifol am y fflôt na’u ffrindiau na threfnwyr y carnifal unrhyw amcan o ba mor hiliol oedd eu gweithredodd? Ydi, ond nid bwriadol yw bob math o hiliaeth. Mae’n holl bwysig ein bod ni’n cymryd cyfleoedd fel rhain i ymddiheuro ac i ddysgu, nid i weiddi amddiffyniad o’n hunain neu’n ffrindiau.
Fy siom mwyaf i yn y llanast hwn i gyd yw’r gymharol distawrwydd oedd i’w gael gan Gymry Cymraeg. Wrth edrych ar Twitter pan mae sarhad diweddaraf yn erbyn yr iaith wedi’i brintio, mae bron pob yn ail trydariad ar fy ffrwd i’n ymateb cryf. Roedd cryn ddistawrwydd i’w weld ar Twitter pan ddaeth y stori am y carnifal i’r golau dydd. Rhai ail-drydariadau o ddolenni straeon newyddion, falle, ond prin oedd yr ymatebion ffyrnig o’n i wedi arfer â nhw. Rydw i’n falch iawn o weld erbyn rwan bod pobol fel @Madeley wedi gwneud cryn ymdrech i ymateb yn gryf i’r digwyddiadau ond mae rhai o’r ymatebion iddyn nhw wedi bod yn ffiaidd i’w darllen.
Mae’n rhaid i ni wynebu’r anwybodaeth sydd yn amlwg i’w gael o hyd yn ein cymdeithasau ni. Mae angen cael sgyrsiau anghyfforddus. Mae angen herio pobol a herio’n hunain. Mae angen gwneud hyn mewn ffordd sy’n barchus, yn sicr, ond mwy na dim byd mae angen ei gwneud. Nid trwy ddistawrwydd mae newid agweddau na dysgu.
Mae’r wythnos diwethaf wedi’n siomi fi’n llwyr fel Cymraes. Mae’n rhaid i ni wneud yn well.
Dros fisoedd y gwanwyn cafodd ffilm Gareth Bryn a Ed Talfan, Yr Ymadawiad, ei ryddhau ar hyd Cymru ac ymhellach, yn dilyn ac yn cynnwys dangosiadau yn yr UDA, Llundain a Caeredin.
Cafodd y ffilm adolygiadau gwych, ar blogiau personol, gwefannau adloniant, a chylchgronau a phapurau newydd megis The Guardian a Sight and Sound. Dipyn o gamp ar gyfer ffilm gymharol fach o Gymru. Tra ein bod ni’n disgwyl i weld beth sydd nesaf ar gyfer Yr Ymadawiad (rhyddhad Blu-ray, plîs!), mae dipyn mwy o ffilmiau Cymraeg ar y gweill dros yr haf.
Mae tair ffilm o Gymru wedi’i dewis fel rhan o raglen cyffrous yr Ŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin.
Cafodd Mom and Me, ffilm ddogfen am y perthynas rhwng dynion a’i mamau yn Oklahoma, sydd wedi derbyn adolygiadau gwych hyd yn hyn, ei ariannu gan Ffilm Cymru Wales a Bord Scannán na hÉireann, a’i gynhyrchu gan gwmnïau o Iwerddon a Chymru. Mae sôn bod cynlluniau i ryddhau’r ffilm dros yr haf rywbryd.
Ffilm arall sy’n dangos yn yr ŵyl, ac sy’n dangos cydweithredu Celtaidd iawn, yw’r ffilm Moon Dogs, cynhyrchiad rhwng Ffilm Cymru Wales, Creative Scotland a Bord Scannán na hÉireann. Mae’n ddrama am ramant ifanc, ac mae’r ffilm wedi’i chyfarwyddo gan Philip John, sy’n adnabyddus am ei waith deledu ar gyfresi fel Being Human, New Tricks a Downton Abbey. Nid does dyddiad ar gyfer ryddhad cyffredinol ar gyfer y ffilm ar hyn o bryd, felly cadwch lygaid allan amdani.
Wrth gwrs, y dewisiad mwyaf cyffrous yn yr ŵyl yw Y Llyfrgell (neu The Library Suicides, fel mae’n cael ei adnabod), sydd wedi’i chyfarwyddo gan Euros Lyn a’i ysgrifennu gan Fflur Dafydd yn addasu’i nofel ei hun. Yn serennu yn y ffilm yw Catrin Stewart, sy’n chwarae’r efeilliaid Ana a Nan, sy’n ceisio dial ar y dyn mae nhw’n credu gwnaeth achosi marwolaeth eu mam.
Bydd y ffilm yn dangos yn gyffredinol o Awst 5ed ymlaen, ac mae’n braf cael gweld lleoliad mor eiconig â’r Llyfrgell Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd mor ddiddorol yn y ffilm. Dyma thriller go-iawn, ac mae’r themâu o adrodd stori bywyd rhywun yn wir yn wych ar gyfer ei ymchwilio mewn ffilm fel hyn.
Cyn hynny ym mis Gorffennaf, bydd ffilm ddiweddaraf Chris Crow – wnaeth cyfarwyddo Devil’s Bridge, Panic Button a The Darkest Day – yn cael ei ryddhau. Ynghyd â Y Llyfrgell a Just Jim (cafodd ei ryddhau blwyddyn ddiwethaf), cynhyrchwyd The Lighthouse fel rhan o brosiect Sinematig Ffilm Cymru Wales, sef partneriaeth rhyngddyn nhw a’r BFI Film Fund, BBC Films, Creative Skillset, Edicis, Soda Pictures a S4C i gefnogi a hybu prosiectau ffilm cyffrous a newydd.
Mae The Lighthouse yn dod ag un o straeon mwyaf enwog hanes morwrol Cymru i’r sgrin fawr, sef hanes digwyddiad goleudy Ynys Smalls yn 1801, lle daliwyd y ceidwaid Thomas Howell a Thomas Gruffudd yno gan storom enfawr, nes i’r ddau droi’n wallgof. Mae’r ffilm yn gampwaith, gyda pherfformiadau gwych gan Mark Lewis Jones a Michael Jibson, ond hefyd drwy ail-greu’r goleudy, tu fewn a thu allan, mewn ffordd mor effeithiol.
Braf iawn yw cael cyfle i ddisgwyl am gymaint o ffilmiau o Gymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn adrodd hanesion mor eang. Braf hefyd yw gweld prosiectau fel Sinematig yn cefnogi cynyrchiadau yng Nghymru, ac yn ei gweld nhw yn cael sylw fel mae Y Llyfrgell yng Nghaeredin.
Y gobaith felly, yw bod ffilmiau fel hyn yn cael cefnogaeth gan sinemâu ond hefyd gan gynulleidfaoedd – dim ond trwy gefnogi a gwylio ffilmiau o Gymru (rhywbeth sy’n wir am unrhyw ffilmiau ‘bach’ neu annibynnol neu amgen) gallwn ni sicrhau bod ein sinemâu’n parhau i’w dangos nhw, ac wedyn bod nhw’n parhau i gael ei gynhyrchu.
Yn bersonol, mae hyn yn bwysig iawn yn achos ffilmiau nad ydyn ni’n gweld yn aml iawn yn Gymraeg neu wedi’i leoli yng Nghymru, sef ffilmiau ‘genre’, fel The Lighthouse neu Y Llyfrgell. Falle ni fydd y ffilmiau’n bodloni chwant pawb, ond mae’n ddatblygiad gwych bod y math o ffilmiau’n cael ei gynhyrchu yma. Mi fydda i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at wylio’r ffilmiau ‘ma ar y sgrin fawr, lle maen nhw i fod i gael eu gweld, ac rwy’n gobeithio bydd llawer o bobol eraill yn gwneud yr un fath.