Mae cyfres deledu newydd, Pwy Geith y Gig?, yn cynnig cyfle i bobl ifanc gystadlu i fod yn aelod o fand newydd sbon Cymraeg. Fydd 6 enillydd rhwng 11 ac 16 mlwydd oed yn cael eu dewis i fod yn rhan o’r band, cael eu mentora a chwarae slot ar lwyfan Eisteddfod 2016. Syniad da ar gyfer hybu cerddoriaeth gyfoes Gymraeg a chyfleoedd yn y diwydiant i bobl ifanc Cymru!
Gofynnir i gystadleuwyr uwchlwytho fideo ohonyn nhw eu hunain yn canu neu’n chwarae offeryn i gyfeiliant un o chwe thrac gan ‘6 o fandiau mwyaf adnabyddus Cymru’. Y rheiny yw Candelas, Sŵnami, Y Reu, Yr Angen, Yws Gwynedd a’r Eira. Chwe grŵp poblogaidd a thalentog, wrth gwrs. Ond mae ‘na rywbeth ar goll…
Ble mae’r merched?
Os dw i’n cyfri’n iawn, mae hynny’n gasgliad o 24 cerddor, a dim un ohonyn nhw’n ferch.
Am un peth, mae hyn yn methu’n llwyr â chynrychioli’r amrywiaeth o dalent ar draws sawl genre sydd ar y sin cerddoriaeth Gymraeg, gan gynnwys nifer o artistiaid benywaidd ‘adnabyddus’. Ond yn fwy na hynny, pa neges ydy hyn yn danfon at ferched ifanc? Beth mae’n dweud wrthyn nhw am eu lle ym myd cerddoriaeth? Faint o ferched ifanc 11-16 sy’n mynd i edrych ar y detholiad hwnnw o gerddorion a theimlo’n hyderus am wneud cais i’r gystadleuaeth? Dim llawer, dw i’n amau. Mae’n hollbwysig i hyder ac uchelgais pobl ifanc bod ganddynt fodelau rôl. Ac felly mae’n siomedig gweld y fath gyfle coll pan mae cerddoriaeth Gymraeg yn llawn merched gall gynnig esiampl i ferched ifanc o rywun ‘fel nhw’ yn llwyddo.
Mae’r cwestiwn ‘Pwy geith y gig?’ hefyd yn adlewyrchu problem fwy eang. Dwy flynedd yn olynol nawr (yn 2014 a 2015), mae merched wedi tynnu sylw at ddiffyg artistiaid benywaidd ar lwyfan Maes B, heb gael ymateb boddhaol gan drefnwyr y gigs. Fel perfformwyr neu aelodau o’r gynulleidfa, dydy merched ddim wastad yn cael croeso gan y byd cerddoriaeth yn 2015, rhywbeth mae’r criw o ferched ifanc, Girls Against, wedi tynnu sylw ato’n ddiweddar yn eu hymgyrch gwych yn erbyn yr aflonyddu rhywiol sy’n parhau i fod yn bla yn gigs.
Os ydyn ni gyd am weld cerddoriaeth Gymraeg yn ffynnu, mae’n angenrheidiol ein bod ni’n denu’r nifer uchaf a’r amrywiaeth fwyaf eang posib o bobl ifanc. Mae’n rhaid i sefydliadau neu ddigwyddiadau mawr fel S4C neu’r Eisteddfod gydnabod faint o ddylanwad sydd ganddynt yn hynny o beth, gan ystyried cyn lleied o lwyfannau cyhoeddus sydd ar gael i artistiaid Cymraeg.
Dw i ddim yn mynd i restru’r nifer fawr, fawr o ferched talentog sy’n creu cerddoriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg y gellir cynnwys mewn rhaglenni cerddorol a lein-ups gigs. Mae eraill wedi gwneud hynny eisoes, ac mae’r artistiaid yn ddigon adnabyddus yn barod. Yn yn y bôn, tasg cynhyrchwyr a hyrwyddwyr ydy chwilio am artistiaid benywaidd a chynnig llwyfan iddynt. Dydy hyn ddim yn broblem o ddiffyg merched – maen nhw bobman, yn creu amrywiaeth o gerddoriaeth sy’n mynd tu hwnt i’r fformiwla ‘bechgyn yn chwarae gitars’. Mae llwyddiannau nifer ohonynt yng ngherddoriaeth Gymraeg yn destun i’r ffaith ein bod ni’n gwneud yn eitha da, ond does dim esgus gennym dros beidio gwneud mwy er mwyn sicrhau bod ein diwylliant cerddorol o hyd yn hyrwyddo cyfleoedd i ferched, yn gwerthfawrogi eu cyfraniad ac yn dathlu eu dawn.
Mae merched yn hanfodol i gerddoriaeth Gymraeg. Mae’n hen bryd sicrhau llwyfan iddynt.