Mae’r ffilm ddogfen fer hon, Blacklisted, yn honni yr oedd y BBC yn derbyn gwybodaeth wrth yr MI5 fel rhan o’r broses cyflogi.
Canolbwynt y ffilm yw’r cyfarwyddwr Paul Turner a geisiodd yn aflwyddiannus am sawl swydd gyda’r BBC am flynyddoedd maith.
Yn ôl y sôn nid oedd y goeden Nadolig yn arwydd dda i bawb yn yr ugeinfed ganrif ac mae’r ffilm yn ymhelaethu am ei arwyddocâd ar ffeiliau mewnol y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig.
Mae cyfrannwyr i’r ffilm yn cynnwys Mike Fentiman (gynt o’r BBC), Arwel Elis Owen, a Paul Turner ei hun.
Dros y blynyddoedd mae adroddiadau tebyg wedi bod mewn papurau megis Telegraph (erthygl lawn), Observer (erthygl lawn), a’r llyfr Blacklist: The Inside Story of Political Vetting, yn enwedig pennod 5, “MI5 and the BBC: Stamping the ‘Christmas Tree’ Files”.
Mae sawl stori yn cynnwys enw Brigadwr Stonham, asiant MI5 a oedd yn gwirio ceiswyr i swyddi BBC yn yr 80au cynnar o ystafell 105, Broadcasting House, Llundain.
Does gen i ddim yr adnoddau i wirio pob ffaith yn y ffilm ddifyr hon i chi. Byddai hi’n braf cael gwylio rhaglen hirach gyda rhagor o fanylion – cyn belled bod cwmni teledu sy’n fodlon cyffwrdd ar y stori, a sianel sy’n fodlon ei ddarlledu.
Ond beth bynnag rydych chi’n credu am y sefyllfa, gallai hanes teledu a ffilm yng Nghymru wedi bod yn wahanol pe tasai’r BBC wedi cyflogi Paul Turner.
Yn y pen draw fe gyd-sefydlodd gwmni cynhyrchu cydweithredol Teliesyn a oedd yn gyfrifol am sawl rhaglen gyda Gwyn Alf Williams.
Ymhlith nifer o wobrau mewn gyrfa ysblennydd fe gafodd enwebiad am Oscar am ei ffilm Hedd Wyn a ysbrydolwyd yn wreiddiol gan un o’i wersi Cymraeg.
Fe gynhyrchwyd y ffilm fer Blacklisted gan Colin Thomas, cyd-bartner Turner yng nghwmni Teliesyn, a myfyrwyr ffilmiau dogfen Prifysgol Aberystwyth.