Yn ddiweddar, ysgrifennwyd pethau cas am Gymru a’r Cymry gan y gŵr hwb ddychymyg hwnnw, Rod Liddle, yn dudalennau’r Sunday Times. Roedd hyn mewn ymateb i’r stŵr mawr (sy’n parhau) wedi’r newyddion bod bwriad i ail-enwi un o bontydd Hafren yn ‘Bont Tywysog Cymru’. Yn amlwg, roedd ymateb enfawr yn erbyn beth ysgrifennodd Liddle, gan fod hynny a ysgrifennwyd yn annerbyniol, yn bitw ac yn sarhaus.
Ond wrth i o leiaf dwsinau o bobol cymryd at Twitter, Facebook a mannau eraill i ddatgan eu dicter, roedd rhyw elfen anghyfforddus iawn yn amlwg yn nifer o’r sylwadau. Roedd rhyw syniad wedi dod i’r brig taw rhagfarn gwrth-Gymraeg yw’r ‘hiliaeth dderbyniol olaf’. Wrth drydar, mewn sylwadau Facebook a hyd yn oed erthyglau, roedd rhai Cymry yn mynd ati i honni bod y ffasiwn sarhau a senoffobia ddim yn digwydd i genhedloedd, pobloedd, hilioedd neu wledydd eraill. Roedd cynnig bod sylwadau o’r math hynny ddim yn cael eu printio, neu’n annerbyniol yn gymdeithasol, neu hyd yn oed yn anghyfreithlon.
Mae hyn yn hollol anghywir. Mae Liddle, fel un enghraifft, wedi gwneud gyrfa hir, allan o fod yn rhagfarnllyd ac yn hiliol. Mae o’n cyhoeddi’r fath sylwadau, mae pobol yn eu prynu ac yn cytuno gyda nhw, a – syndod – nid yw Liddle erioed wedi’i garcharu. Mae’r syniad yma, bod ni’n cael ein herlyn yn benodol ac yn arbennig, mor bell o’r gwirionedd mae’n ymddangos fel bod pobol sy’n credu hyn felly’n hollol anymwybodol o faterion hiliaeth a senoffobia os nad yw’n ymwneud â nhw’n uniongyrchol.
Gan ystyried pethau eraill sydd wedi digwydd yn ddiweddar yn y wasg Brydeinig – hiliaeth Quentin Letts yn ei adolygiad o gynhyrchiad y RSC o The Fantastic Follies of Mrs Rich, fel un enghraifft, neu ymosodiad afiach Guy Adams ar yr academydd Priyamvada Gopal – mae’n anodd gweld sut yn union gallwn ni synnu wrth weld barn gwrth-Gymraeg yn cael ei gyhoeddi hefyd. Pan mae dynes Sbaeneg yn cael ei ymosod arni ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Llundain ac wrth i Lywodraeth Prydain mynd ati i alltudio aelodau’r genhedlaeth Windrush, na, nid dyn diflas yn gwneud hwyl am ddiffyg llafariaid yw’r hiliaeth dderbyniol olaf.
Os hoffwn ni weld sylwadau gwrth-Gymraeg yn cael eu cymryd o ddifri mae’n rhaid i ni wneud yn well gyda’n dicter. Os yr unig amser rydyn ni’n sylwi ar bobol fel Liddle ydi pan maen nhw’n ymosod ar ddiwylliant neu iaith Cymru, ac nid pan mae nhw’n ymosod ar bobol ddu, neu ar Fwslemiaid, neu ar unrhyw un arall, yna mae’n dicter ni’n ddibwys ac yn fethiant.
Llun Pont Hafren gan Yummifruitbat (CC BY-SA)