Disgo Dydd i’r Di-waith
The Rocking Chair, Glanyrafon, Caerdydd
20ain mis Ionawr 2011
Mewn bar Caribïaidd yng Nglanyrafon, ar brynhawn yn ystod y lleuad lawn – yr oedd pobol di-waith Caerdydd yn dod at ei gilydd am i ddawnsio a llawenhau! Am bob swydd wag yng Nghaerdydd mae 9 person di-waith yn ôl ystadegau’r llywodraeth. Mae’r syniad gwych yma gan Adam Johannes a’i trefnwyd gan Bronwen ‘Little Eris’ Davies a’i chriw yn un penigamp! Dyma ffordd wych o chwalu’r agwedd afiach fod pobol ddi-waith rhywsut i’w beio am eu sefyllfa druenus. Pwy goblyn fuasai’n dewis byw mewn tlodi?!
Dywed erthygl ar wefan y BBC fod pobol ddi-waith fwy tebygol o ddatblygu salwch meddwl megis pruddglwyf neu bryder. Dydi’r bobol yma ddim yn ‘wan’, adwaith naturiol buasai meddylfryd o iselder mewn sefyllfa anobeithiol lle nad ych yn teimlo bod cyfeiriad i’ch bywyd. Mae’r di-waith yn llythrennol heb reswm i godi yn y bore. Dychmygwch y diflastod a syrffed – pob dydd yn wag, cael eich gwrthod gan gyflogwyr un ar ôl y llall, dim arian i wneud unrhyw beth hwyl yn eich amser sbâr sydd mewn gormodedd…
Mae hyn yn broblem ddifrifol a ni allwn ddisgwyl i’r llywodraeth ein hachub, i’r gwrthwyneb – fe ymddengys fod y llywodraeth yn fwy na pharod i’n CON-DEMio! Maent am waethygu’r sefyllfa’n enbyd, rhagwelaf ddioddef a chynni economaidd yn nheuluoedd ar draws Gymru yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac anobaith i bobol ifanc sydd eisiau dechrau allan yn y byd. Rhaid i bobol trefnu pethau eu hunain ac mae disgo i’r di-waith yn ffordd syml o ddechrau hyn. Os yr hoffech drefnu disgo yn eich ardal mae canllaw gan Bronwen ar Facebook.
Nid yw’n or-gymleth, byddwch yn barod i weithio’n galed i’w hysbysebu a’i drefnu a gall fodd yn wych! Yn enwedig gan fod gymaint o bentrefi bychain tawel yng Nghymru, dyma ffordd i greu cynnwrf! Ar yr 20fed o Ionawr bu’r ail ddisgo dydd i’r di-waith yng Nghaerdydd. Bydd yn ddigwyddiad misol felly os yr ydych yn yr ardal dewch i’r un nesaf mis Chwefror!
Y gobaith yw bydd y disgo yn ysbrydoli pobol di-waith i gymryd rhan, pam ddim iddynt gyfansoddi rap/cerdd a’i berfformio? Efallai eu bod yn giamstar ar Logic neu Reason ac eisiau Djio rhai o’u caneuon? Neu efallai eisiau rhannu eu chwaeth mewn cerddoriaeth a DJio eu hoff draciau! Efallai bod rhai yn dysgu neu yn gallu chwarae offeryn? Mae llwythi o bosibiliadau – dechreuwch un rwan!
Yr oedd disgo mis Ionawr yn wych, i ddechrau yr oedd barddoniaeth. Yr oedd arddull pob bardd yn unigryw, rhai yn rheibus wleidyddol ac yn bregethwrol. Eraill yn ysgafnach, bu perfformiad gwych gan Mab Jones oedd yn gymysgedd o gomedi/farddoniaeth. Yr oedd un rapiwr/fardd ifanc, nid yn unig efo ffordd eifo’i eiriau ynd yn ynganu mewn modd arbenig basa ddim o’i le ar drac hio hop a basa wedi gwneud tiwn go dda dwi’n meddwl. Rapio yn erbyn y codiad ffioedd yn Lloegr ydoedd ar ôl iddo gael ei synnu ar ôl darllen maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol eu bod wedi gaddo fel polisi chwalu ffioedd dysgu yn gyfan gwbl o fewn chwe blynedd! A be sy’n digwydd rwan ond maent yn codi’n uwch na’r nefoedd wrth condemio myfyrwyr tlawd yn y dyfodol i uffern o gynni.
Un o’r uchafbwyntiau i mi oedd set electroneg Skimatix. Uchafbwynt arall oedd gwrth-werin Jasmine Jackdaw. Bu’n canu’n swynol gyda’i gitar acwstig ynglyn â phynciau mwyaf gwyrdroëdig/ddoniol! Yr oedd rhywbeth Gwibdaith Hen Franaidd iawn yn naws ei cherddoriaeth. Oedd ei merch fach druan yn dwyn y meicroffon tra oedd ei mam yn ceisio perfformio! Llwyddodd hi ambell dro ac yr oedd pawb yn ceisio ei swyno ffwrdd o’r meicroffon ond heb lawer o lwc! Yr oedd rhaid i mi adael ar ôl Jasmine Jackdaw ond buaswn wedi bod wrth fy modd petawn i wedi gallu aros yn hirach. Oleiaf gennyf ddisgo’r mis nesaf i edrych ymlaen ato!
Y gobaith yw bod hyn yn ysbrydoli pobol ifanc di-waith i gymryd eu tynged i’w dwylo eu hunain. Fel y dywedais canwaith eisoes yn yr erthygl yma-trefnwch ddisgo yn eich ardal chi. Peidiwch â gadael swildod eich llethu, rhaid i chi fynd amdani, dim ond unwaith foch chi’n fyw! (Wel efallai fydd yr Hindwiaid yn ailymgnawdoli yn ôl eu crefydd ond pwy a wyr! Efallai dod ‘nôl fel sarff a fasa hi dipyn anoddach wneud pethau bryd hynny!)
Dewch draw i’r disgo nesaf ar y 18fed mis Chwefror 2011 yn y Rocking Chair o 2 y.h. ymlaen.
Un awgrym ar “Disgo Dydd i’r Di-waith, Caerdydd”
Mae'r sylwadau wedi cau.