Andy Votel ac ail-darganfod recordiau o Gymru

Andy Votel, Caerdydd

Llun o Andy Votel yng Nghaerdydd gan Naomi Lane

Pam nawr ydy BBC Radio 4 yn darlledu rhaglen newydd sbon gan Andy Votel am hen gerddoriaeth Cymraeg?

Daeth ei gasgliadau o Recordiau Sain cynnar (a Dryw ac ati) o’r enwau Welsh Rare Beat a Welsh Rare Beat 2 – gyda ail-rhyddhad o faterion Galwad y Mynydd – ar ei label Finders Keepers yn wreiddiol tua chwech mlynedd yn ôl.

Ers hynny mae’r proffil y DJ, cloddiwr a chasglwr finyl proffesiynol wedi tyfu mwy trwy gigs DJ o gwmpas y byd, gan gynnwys yn diweddar Cock Diesel yn ei Manceinion brodorol a Gŵyl y Dyn Gwyrdd (un thema, beiciau modur yn unig; dychmyga delweddau, clipiau a chân ar ôl cân – rockabilly a genres gwahanol – tan y bore gynnar).

Beth bynnag ydy’r rheswm tu ôl amseru’r rhaglen wythnos nesaf dw i’n meddwl bydd e’n cyfle i ofyn am yr hen stwff… eto.

Yn ôl yr albymau Welsh Rare Beat, crynhowyd gyda Gruff Rhys a Dom Thomas, mae diddordeb Andy Votel yn eithaf penodol, sef stwff o’r 60au a 70au gyda churiadau caled a seiniau lounge a seicadelig. Mae cynyrchiadau Hefin Elis a’r solos gitâr anhygoel yn ymddangos yn aml. Dim corau wrth gwrs, dim Dafydd Iwan a dim byd ar ôl tua 1975. Does dim gymaint o bwysigrwydd yn yr eiriau – iddo fe. Mae elfen o kitsch ffactor yn yr atyniad – cerddoriaeth rhyfedd i ffans Serge Gainsbourg a David Axelrod.

Roedd y project a’r safbwynt yma yn bwysig i’n diwydiant recordiau. Dylen ni gwerthfawrogi ein cerddoriaeth brodorol lot mwy (gweler sgwrs ar maes-e o 2004) a dylai’r cwmnïau sylweddoli’r cyfleoedd rhyngwladol yn yr ôl-gatalog. Ond, tua chwech mlynedd ar ôl rhyddhad yr albwm cyntaf, dyw’r diwydiant recordiau ddim wedi manteisio arno fe.

Cer i iTunes er enghraifft. Gaf i brynu unrhyw beth gan Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog? Yr unig traciau sydd ar gael yw Cwmwl Gwym (sic) o Welsh Rare Beat a thrac arall o hen gasgliad Sain. Cyfanswm: dau drac o’u yrfa gyfan.

Teulu Yncl Sam gan Sidan

Beth am gopi digidol o Teulu Yncl Sam, albwm cyntaf Caryl Parry Jones a Sioned Mair ac eraill dan yr enw Sidan? Ond does dim sôn am yr albwm ar iTunes, eMusic, Spotify a’r gwasanaethau eraill, dim ond y traciau o’r albymau Welsh Rare Beat a rhai o gasgliadau Sain. Yr unig opsiynau yw eBay/ar-lein a gwerthiannau car boot, yn yr ardal Prestatyn efallai.

Beth am y band Y Nhw, project gyda Hefin Elis ar y cynhyrchiad? Heblaw y trac Siwsi o Welsh Rare Beat ac yr un trac o gasgliad arall, dim byd.

Beth am Chwyldro, project Hefin Elis gan gynnwys canu gan Meinir Ffransis, Eleri Llwyd ac eraill? Doedden nhw ddim ar Welsh Rare Beat ond ymgeisydd bosib i unrhyw casgliad dychmygol yn y dyfodol. Mae dim ond un trac ar iTunes. Mae’r teulu Meinir wedi rhannu’r MP3s ond mae pobol eisiau prynu’r stwff hefyd.

Beth am draciau Huw Jones, cadeirydd newydd yr awdurdod S4C, cyd-sylfaenydd Sain a’r record cyntaf ar Sain?! Wrth gwrs mae Dŵr ar gael. Ond ffansïo blast cyflym o Dw i Isho Bod yn Sais ar dy iPod? Wel bydd rhaid i ti ffeindio’r trac rhywsut arall. Efallai ar finyl mewn siop elusen yn Eglwys Newydd os ti’n lwcus.

Heblaw Meic Stevens, Edward H ac yr enwau ‘mawr’, pob lwc os ti eisiau ffeindio’r traciau eraill.

Dyw pawb ddim yn gallu ffonio Dyl Mei i ofyn os oes gyda fe LP sbar, dw i’n siarad am adlewyrchu diwylliant Cymraeg i’r byd (ac yn wneud arian ychwanegol tu fas o freindaliadau PRS).

Beth am yr hawliau? Roedd y cytundebau gydag artistiaid yn y 60au a 70au yn wahanol. Wel, os mae rhywun yn gallu trefnu’r hawliau ar gyfer Welsh Rare Beat dylai fe bod yn bosib gyda’r hen gatalog. (Os mae trosglwyddiad i ddigidol yn anodd beth am ofyn y BBC am gopi o archif digidol nhw? Dim ond syniad.)

Yn y cyfamser rydyn ni’n dilyn safbwynt Votel achos mae Welsh Rare Beat yn bron canonaidd fel canllaw i’r cerddoriaeth. Prin iawn ydy’r cyfle i glywed y math o beth yma ar Radio 4 ac mae wastad yn ddiddorol i glywed safbwynt rhywun tu allan i’r byd Cymraeg. Gobeithio bydd y triniaeth yn dda ar y rhaglen, er dyw y teitl Free Wales Harmony a rhai o dermau lletchwith yn y disgrifiad isod ddim. Ond o leiaf dydyn ni ddim yn dod o wlad gydag enw fel Hwngari – cerddoriaeth anhygoel ond beth oedd teitl Votel? Well Hung.

Free Wales Harmony: When Pop Went Welsh

Andy Votel is a DJ, producer and record label boss from Manchester who first found fame setting up Twisted Nerve Records, home to the singer Badly Drawn Boy. Obsessed with collecting records, today Andy runs Finders Keepers, a record company which specialises in releasing non-English language pop music from all over the world. About 9 years ago, in a charity shop, he stumbled across a collection of vinyl which he’d never seen or heard before. Not able to place the language, he initially guessed it was Icelandic, Breton or Hungarian. But on closer inspection it turned out the records were made less than a hundred miles from his house. These unidentified spinning objects were from Wales.

From that moment on Andy’s world was opened up to whole discography of idiosyncratic pop music. Girl-groups, close harmony pop, Acid Folk, Prog Rock, concept albums, pop poetry, indie rock and DIY punk. And to his amazement he discovered that – outside of Wales – this very cool music scene had been virtually ignored. Researching further in to his new found obsession, Andy discovered the story behind the songs was just as intriguing as the music: a tale of passion, politics, poetry, oppression, triumph and a bloody good disco!

In this Radio 4 documentary Andy reveals a cultural revolution that happened on our doorsteps and the music that made it sing. A struggle to save a dying language that involves protest, prison, Mabinogion concepts, the Royal family, cottage burning and even the death of Jimi Hendrix. With contributions from Super Furry Animals’ Gruff Rhys, Cerys Matthews, Dafydd Iwan, Heather Jones, Meic Stephens and Geraint Jarman amongst others.

DIWEDDARIAD 18/06/2011: yn ôl sgwrs ar Twitter, mae tyllau yn y darpariaeth o gatalog Meic Stevens hefyd (ffeindiwyd ar ôl 3 Lle):

[blackbirdpie url=”http://twitter.com/francogallois/status/80939149917564928″]

[blackbirdpie url=”http://twitter.com/dylmei/status/80940594632990720″]

[blackbirdpie url=”http://twitter.com/francogallois/status/80941373859168256″]

13 sylw ar “Andy Votel ac ail-darganfod recordiau o Gymru”

  1. Erthygl ardderchog – trueni mawr yw y bydd yn ‘disgyn ar glustiau byddar’.

    Don i ddim wedi clywed am Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog tan y llynedd a tydy hanner yr hanner yr enwau ti’n crybwyll yn yr erthygl yn golygu dim i fi, ond mae nhw’n rhan mor bwysig o fy nhreftadaeth i.

  2. Nes i anghofio dweud, does dim lot ar CD. Dw i ddim yn siŵr os cafodd Sidan, Y Dyniadon Ynfyd unrhyw ryddhad ar y fformat heblaw traciau ar gasgliadau. Ond mae dosbarthu digidol yn rhad… Does dim cywilydd yn rhyddhadau digidol-yn-unig.

  3. Cofnod gwych. Mi wnaeth Sain yn eithriadol dda i roi’r hyn wnaethon nhw ar iTunes rai blynyddoedd yn ôl, ac mi oedd hi’n grêt medru prynu stwff yn ddigidol oedd allan o brint fel arall ar y pryd (Jarman cynnar, Hanner Pei, a.y.b.) Ond mi wyt ti’n iawn Carl – maen nhw mewn peryg o golli mâs ar farchnad y tu hwnt i’r ffin bellach.

    @RhysW: cân enwoca’r Dyniadon yw I Couldn’t Speak a Word of English, ac mae honno o leia ar iTunes. Mae’n nhw’n grêt; bron cystal â’r Tebot Piws 🙂

  4. Anhygoel yn tydi. Mae Sain erioed wedi adweithio i datblygiadau technolegol yn hytrach na fod yn proactive. hwrach nad ydyn nhw’n credu gallen nhw neud arian. Mae angen guru farchnata digidol i sortio nhw allan (neu jyst rywun efo synnwyr cyffredin)

  5. Mae unrhyw un yn gallu gwneud cynnig i ryddhau’r stwff. Efallai maen nhw yn gweld y CD fel y prif fformat ac mae’r digidol yn dilyn. Bydda i wedi anfon ebost i ofyn ond dw i’n licio sgwennu yma er mwyn rhannu’r meddyliau pellach i labeli eraill.

  6. Ydi’r bygythiad o bobl yn gwneud copïau digidol eu hunain, a’u rhannu’n eang am ddim, yn ddigon o hwb i Sain?

  7. Beth sy’n amlgw ydi bod gan Sain ddim syniad am syt i rhedeg busnes llwyddianus yn y flwyddyn 2011. Cofiwch, mae Sain dal yn codi £15 am DVD tair pennod o Cmon Midfild(Syt di S4C heb sefyll mewn yn fama ac mynnu ei bod yn rhyddhau bocs set wedi ei pecynnu mewn arddyll newydd ac fodern ac am bris fwy tebyg i bocs sets fel 24, Friends ect ect dwn im), mae nhw da i pecynnu gweddill ei nwyddau mewn arddyll syn fwy tebyg i be sa pentyn 15 oed hefo copi o MS Paint yn gwneud, ac o be dwi di glywed yn ddiweddar, hefo dim unrhyw fath o diddordeb mewn cerddoriaeth ifanc, dim ond plant 11 yn canu cyfieithiadau o ganeuon Saesneg, Corau yn lladd hen clasuron Gymraeg a grwpiau gwerin wedi ei werthy yn anghywir fel rhywbeth secsi, ifanc a cyfoes, am joc.

  8. Mae dadl yma un un diddorol. Da fi dros mil o hen thracia o cwmni recordiau tanddeaearol R-bennig 1990-2005 bob hyd yn hyn mae rhywun yn gofyn am thrac digidol o’r stabl. (Yn diweddar thrac nath fi a Les Morrison yn 1988 gyda Jaci Williams)S’dim amser na ‘mynedd da fi mynd ‘nol i masters ar sawl fformat yn cynnwys 14″, Dat, Gaset, CD, 4 Trac ayyb. Dychmygu faint o rwtsh gan Sain yn yr archifdy. Mae Sain wastad bod ‘cwmni gwenni’ hen fash, mae nhw’n sicr o’r farchnad nhw hunan yn anffodus heb erioed gafael a technoleg y ganrif yma! Rwi’n cofio fod baffled yn cyfnod EDEN .. lle oedd safwe Eden i’r holl plant? Dim yn fodoli..colled mawr. Ynglyn a Welsh Rare Beats pretty chronic production, mae na lot well yng Nghymru i neud hwnna gyda llaw. Chwarae teg i Votel, ond lets be honest we we sampling Cambrian/Dryw ayb diwedd y 80’au.. totally blanked by Sain ha ha xx Johnny R (Oriel Parhad, Fangor)

  9. Mae Sain wastad bod ‘cwmni gwenni’

    ‘Gwenni’ – heb weld neb yn defnyddio’r gair yma ar-lein erkioed o’r blaen. Dois ar ei thraws yn cael ei defnyddio gan drigolion Bangor ar ddiwedd y 90’au tra’n ‘astudio’ yn y ddinas. Ystyr ‘gwenni’ = naff/lame.

  10. Dw i eisiau penderfynu fel ffan beth sy’n dda a beth sy’n gwenni! Nes i ddewis Sain ond mae’r pwynt yn ddilys i bob math o label ac artist arall… Diwylliant ar goll.

  11. Os unrhywun yn ‘ffan’ o recordiau Sain yn cyffredinol rwi’n awgrymru triniaeth ysbyty meddwl dyn! Heblaw am Y Brodyr, Pax, cwpl o LP’s Jarman, Trwynau Coch red waxing.. mae’r weddill well off y we! Y realiti am Sain yw mae nhw wedi bod yn hapus iawn cuddio’r rwtsh ‘Roc Y Bro’/’Cachu MOR’ o’r byd eang ers ‘day one’. Mae sawl datganiad Dafydd Iwan di dweud hwn. (h.y. ”Sain are not a record label that competes with the UK record industry”..got that right pal) Mae sdwff gwerin safonol fel Sian Jems, Bob Delyn, Meic Dandi ayb sy’n headdu global parch. Fel ‘prif cwmni recordio Cymru’ it’s a total embaras..lle mae Lady Ga Ga cwmni Sain ? (Elin Fflur!) lol..ond da chi pwynt, ella job llyrfgell genedlaethol yw creu bas-data thraciau o bob label/artist ond mae gwaith yna yn afrealistic i cychwyn. Ynglyn a Sain cyf ”thank god that shits not on iTunes I say..it’s an utter disgrace to a proud nation”

Mae'r sylwadau wedi cau.