Ffeiliau Ffansin: llosgi lawr yr hen ysgol gyda Seren Tan Gwmwl

Seren Tan Gwmwl

O’r chwith i’r dde: Lewis Valentine, Saunders Lewis yn ifanc, DJ Williams (llosgwyr Penyberth 1936)

Dywedodd Saunders…

‘I am the firestarter
– twisted firestarter…’

Delwedd wych o’r ffansin Seren Tan Gwmwl (1990 – 1999?) gan Siôn Jobbins a chydweithwyr, pennod un o ein gyfres (achlysurol) newydd, Ffeiliau Ffansin.

Dw i dal yn darllen trwy hen rifynnau o Seren Tan Gwmwl sydd ar gael arlein fel PDF. Mae’r ffansin, “ffansin cymdeithas Iolo Morganwg – cymdeithas annibynnol”, yn cymysgu hanes, gwleidyddiaeth, hiwmor a llawer o luniau penigamp.

Roedd Gruff Rhys yn ffan er gwaethaf beirniadaeth yn y ffansin yn bron bob rhifyn. Gweler isod am enghraifft ar y llong “SS Gymraeg” o rhifyn 7 (1998).

Seren Tan Gwmwl

Mae gyda fi’r bwriad sganio hen ffansins ac ailgyhoeddi gyda chaniatâd. (Nesaf: Siarc Marw.) Dw i ddim wedi gwneud e tro yma achos mae’r Seren Tan Gwmwl ar gael yn barod.

Felly dw i’n gofyn am dy help gyda’r cyfres Ffeiliau Ffansin. Gweler cofrestr o ffansins (a chylchgronau) – os oes gyda thi teitlau eraill, copïau, atgofion, straeon neu os wyt ti eisiau sgwennu cofnod am unrhyw ffansin, gadawa sylw!

Ffansins yw enghraifft o gyfryngau amgen, roedden nhw yn bwysig iawn i fandiau newydd a gweithgareddau creadigol. Nawr mae’r oes aur o ffansins wedi mynd, ydyn ni’n gallu dweud ffansins newydd yw blogiau dyddiau yma? Dyma’r un o’r cwestiynau gallen ni archwilio.

Wrth gwrs bydda i’n hapus iawn i sgwennu rhywbeth am ffansin cyfoes – neu “ffansin” arlein. Nid yw popeth sy’n gweithio arlein yn edrych fel blog o destun yn unig. Dw i’n chwilio am enghreifftiau o bobol sy’n ailgylchu syniadau ffansins yn fformatau digidol. Bydda i (a phobol eraill siŵr o fod) wrth fy modd i weld rhywbeth o Gymru fel The Oatmeal neu XKCD.

7 sylw ar “Ffeiliau Ffansin: llosgi lawr yr hen ysgol gyda Seren Tan Gwmwl”

  1. http://www.radioamgen.com/adre.html

    ma na restr bach o ffansins fana i ddechra ar y cofrestr ffansins, hefyd ma un cell prifysgol cdydd yn un newydd a un o’r enw Chwiw ar gael yn nosweithia nyth bl dwetha yn cdydd, dwi meddwl bo tudalen amdano ar facebook rwla..

  2. Hysbysiad Cyfeirio: Chwiw | Pethe
  3. Just a point on “gan Siôn Jobbins a chydweithwyr”. Sion Jobbins was co-editor with Ioan Wyn Evans and Owen Llywelyn of Rhifyn 1 and 2 of Seren Tan Gwmwl (1990-1991). Production of the fanzine then ceased. It was resurrected by Owen Llywelyn in 1996 without the “ffansin cymdeithas Iolo Morganwg” stuff. Rhifyn 3-7 that include these cartoons were published from 1996-1999, and the editors were Owen Llywelyn and Daniel Davies. The cartoons were produced by their friends the Tillman brothers of Pontyates, John Tillman and the late Tim Tillman.

Mae'r sylwadau wedi cau.