Dw i newydd ffeindio’r geiriau cryf isod gan Steffan Cravos ar blog Pethe:
“Does dim syniadau newydd yn dod drosodd yn gerddorol…dyn ni yn 2010, pam does neb yn cynhyrchu dubstep yng Nghymraeg, lle mae’r bandiau cyffrous?”
Yn ddiweddar fe rhyddhaodd Meic Stevens albwm newydd, ‘Sing a Song of Sadness: Meic Stevens, The Love Songs’, ei ail albwm Saesneg (Outlander oedd y cyntaf), ond mae’r caneuon yn lled gyfarwydd. Caneuon Saesneg oedd Gwenllian a Chân Walter, a nifer helaeth o ganeuon enwog eraill, yn wreiddiol. Ond er y newid iaith, yn ôl Steffan Cravos, does dim byd newydd yn yr albwm hon. Meddai, “Mae’n 2010 erbyn hyn a da ni’n gwrando ar ganeuon o 50 mlynedd ‘nol.” Yr un oedd ei farn am ‘Enlli’, EP newydd y band Yucatan, “Dwi ‘di clywed e’ i gyd o’r blaen,” meddai gan ychwanegu, “mae eisiau chwyldroi’r sîn, mae gormod o hen stejars o gwmpas, mae eisiau gwaed newydd, mae eisau syniadau cyffrous newydd, mae eisiau chwyldro!
Unrhyw sylwadau? Wyt ti’n cytuno gyda Cravos neu ddim?
Mae’r Twll yn hapus i gyhoeddi erthyglau da am gerddoriaeth hefyd. Mae gyda fi un arall ar y gweill am fandiau cyfoes.
YCHWANEGOL 4/11/10: Mae Crash.Disco! yn ateb ar Twitter.
YCHWANEGOL 4/11/10: Diolch am y sylwadau, gwych! Maen nhw dal ar agor. Wrth gwrs dyn ni’n gallu sgwennu rhywbeth am unrhyw fandiau cyffrous newydd – dubstep neu unrhyw beth – os mae pobol eisiau dilyn cyngor Gareth Potter…
lle mae’r bandiau cyffrous? Yn y gorffennol :(, ma rhei gora sy dal wrthi heddiw hyd yn oed o’r gorffennol (dwi deud y rhei a dwi meddwl jest Llwybr Llaethog deud y gwir). Dwmbo be di’r broblem, ella man mynd llaw yn llaw efor apathi enbyd heddiw, does neb efo dim i ddwud bellach achos ma gymint ddim yn malio, dyna pam ma pethe i weld mor arwynebol a diflas, neb yn meddwl bod yn aunrhywbeth i newid felly dim ysgog i wneud dim newydd. Ella cyfalafiaeth aeddfad sydd wedi gwneud pobol yn hynanol, pwy a wyr ma raid bod yna reswm, dydw i ddim isho meddwl bod agwedd y mwyafrif fel y mae hi heddiw achos ei fod yn ‘naturiol’ achos rhei fel yna ydyn ni yn y bon.
Prif fanc y sin roc (Gwibdaith) canu bo nw licio tatws a grefi a am moron a trons dy dad. Band go lew yn ffor eu hunain ond dyma PRIF fand cymraeg ydan nhw a ma nhw math o fand basa ti’n rhentu i barti plant bach, hyna braidd yn gas ma nhw yn dda ond does dim i’w ddweud ganndyn nhw, neu ella jest fi sy methu weld o… Ma’r sub genre’s diddorol cymraeg mor anodd i ddod ar draws ma rhei sydd fewn i Trance neu hip hop neu bebynag am fynd ati’n saesneg achos dyma be sy’n normal, ma rhanfwya fobol sy ddim yn dallt fod pethe ma yn bodoli yn amlwg ddim am chwilio amdana nhw mewn siop lyfra cymraeg lle ma nw gal ei gwerthu fel arfer a mewn siopau records ma miwsig cymraeg efoi gilydd dim ocho yn ochor a miwsig y sub genres erill.
Dyna pam hefyd does yna ddim lot o ferched yn yr SRG, achos mae’n ‘normal’ i hogia neud y miwsig felly ma lot o genod am deimlo’n rhyfadd neu gwirion isho mynd fewn i’r fath beth, yr un rheswm ydi pam bo hi ddim yn ‘normal’ gwrando/neud miwsig cymraeg.
Ma twmffat mildly gwleidyddol a efo tiwns da ond dydi swn nw ddim yn adweithio mor ffyrnig a sydd angen at y for ma petha rwan i gorddi rhyw lawer o fobol a dydi’r arddull ddim byd dwi heb glywed oblaen yn gmraeg.
Dechra y 90’au oedd yr amser i fod ogwmpas rhwng Datblygu a Ty Gwydyr a Ll Ll, wedyn odd diwedd y 90’au yn gyffroes efo’r Tystion, ella bod cylchrediad pethe diddorol dod bob 10 mlynedd a ni yn due am un arall yn 2010?? Gobithio wir!!!!!!!!!!
“Gwneud, nid dweud”
ie Crav?
Mae stwff cyfffrous allan yna, stwff Crash Disco
yn un.
Casgliad Electroneg1000 yn enghraifft arall.
Falle fod e’n rhy danddaearol?
Rwy’n ymddiheuro os odd y tweet yna’n swnio’n gas, ond rwy’n anghytuno’n llwyr gyda Mr Crav. Un peth nath o bwysleisio odd doedd yna ddim dubstep cymraeg. Helo? Cyrion? Plyci?
Cytuno yn llwyr hefo Steffan Cravos. Ddim yn unig oes a ddim grwpiau chwyldroadol a diddorol, ond prin mae ‘na grwpiau da. Mae Crash Disgo yn deud bod o’n anghywir? Lle mae’r dystiolaeth? Mae’r bandiau newydd electroneg i gyd yn rhyddhau mp3 ne ddau, ond diom byd newydd, diom yn cymharu hefo be syn digwydd yn llefydd arall y byd. Dydi enwi dau artist, Cyrion a Plyci, ddim yn ateb, ac na, ddim dubstep ydi be mae nhwn neud, mae ‘na elfen o’r arddull, ond mae o fel galw Gwibadaeth yn grŵp gwerin.
Ble mae’r cerddorion a’r cyfansoddwyr di mynd? Ble mae’r gigs i gyd wedi diflannu i? Pam oes a ddim labeli newydd cyffroes? Dwi’n cael trwbl i enwi fwy na deg band Cymraeg syn gigio yn gyson. Dwi’n cael trwbl meddwl am 5 label Cymraeg syn rhyddhau deunydd da yn gyson. Dwi’n cael trwbl meddwl 3 trefnwr syn gwneud gigs fwy nac unwaith y mis. Dwi’n cael anhawster mawr yn meddwl am raglen radio ne teledu syn llwyddo i chwarae cerddoriaeth newydd, da a diddorol.
Be ydi’r ateb? dw’n i im. Mae angen rhywun sefyll lan, a thrio newid pethe. mae angen newid. Ac mae angen o nawr.
Y broblem yw fod tast nifer o’r rhai sy’n condemnio yn gul. Mae be ma nhw’n weld yn gyffrous yn ffitio ongl bendant o’r hyn mae nhw’n hoffi ond sy’n ddiflas iawn i lawer o wir ffans cerddoriaeth hefyd, sydd wedi ei amsugno ond yn dewis ei anwybyddu. Mae dubstep ar y cyfan yn genre eitha gwael a di-fflach i rhan fwyaf o bobl, ond yn cael ei weld gan y condemnwyr fel yr hyn sydd ei angen am ei fod yn ‘wreiddiol’? Am fandiau newydd fyddai’n sicr yn ffitio’r disgrifiad `cyffrous` ydyn nhw wedi gweld A la Fiste neu Y Cyfoes er enghraifft? Ynteu oes raid iddyn nhw fod yn electroneg, yn dal i godi’r fflag dros ‘wreiddioldeb’ er fod y miwsig ‘cyffrous’ a ‘newydd’ yma yn ugain mlynedd oed. Mae’r cyferbyniad yn y dyfyniad ei hun – Sut mae cynhyrchu dubstep yn wreiddiol?
Sdim angen rhagor o fandiau. Mae na ddigonedd mas na. Ond mae angen SER sy’n gallu dod a phobol at eu gilydd er mwyn dathlu’u Cymreictod. Hefyd mae angen sefyllfa. Yn y 60au roedd y brwydr am hawliau i’r iaith yn un angerddol a roddodd genedigaeth i Sain/Edward H/Jarman yn y 70au. Wedyn y frwydr dros ddatganoli a greodd tir ffrwythlon ar gyfer ‘Cwl Cymru’ yn y 90au. Dwi’n meddwl wneiff yr holl fusnes cwtogi S4C ffocysu pethe ac, yn eironig, creu sefyllfa lle bydd pop Cymraeg yn ddefnyddiol, yn heriol ac yn golygu rhywbeth unwaith eto. Ond peidiwch a gwrando arna i, trefnwch gig, ewch ar brotest, sgrifenwch gan deche: GWNEWCH RYWBETH!
Mae cael yr hyder yn anodd, digon hawdd dweud ‘trefnwch noson’ dwi wedi trio trefnu noson electroneg efo rhei cymraeg hefyd dj’s lleol dnb a techno (di iaith ydi lot o’r gnere felly dyi o ddim yn ‘fygythiad’ tuagat y gymraeg) efo hogan sydd yn trefnu y noson Proceed yn bassmant 10 feet tall (cymraes ydi o llanrwst!) ond oedd rhai o’r artisitiad cymraeg ddim ar gael a gan fod dim gormodedd o artistaid cymraeg electroneg (dydy’r rhei pop electro a rhei elctroneg ‘chilled out’ ddim yn ddiddorol i mi yn bersonol felly oedd lot llai o ddewis). Oeddwn wedi ffeindio sut i wneud y trefniadau i gyd yr holl ymchwil sut i fynd amdani wedi ei wnud jest angan ei neud o ond gan odd y grwpia oni eisiau ddim ar gael gaeth o ei ohurio tan bl nesa (gobeithio).
Nath fy ffrind drefnu noson ym Mangor, gwneud pob dim yn iawn gweithio’n hynod o gaeld ond ar y noson oedd yna odd dim ond riw 12 yno hanar nos a 40 yna drwy’r noson, daeth dim un myfyriwr i’r noson felly yn amlwg ma hyn yn dy ddigaloni. Oedd y boi am neud o yn noson reolaidd ond dwnim os neith i rwan, mae yna ddiffyg cefnogaeth enbyd yn fy marn i. Mae’n anodd iawn a dwi meddwl bod hyder yn ffactor mawr i’r rhai sydd eisiau cynnal nosweithiau cymraeg mwy ‘amgen’. Dwewnim sut i newid hyn ond dwi meddwl ddylsa bandiau ddechra trio trefnu mwy o bethe i hyrwyddo ei hunain a mwy o fobol neud ffansins yn saesneg a chymeag yn sbredio’r gair am gerddoriaeth cymraeg. Hefyd rhaid cael miwsig cymraeg ar Piratebay i fobol cael ei ddwyn o’r we, dydi bobol sy fewn i DnB/death metal fel ystrydeb yn anamal iawn mynd i siop lyfra cymrag lle ma rhanfwya albyms cymraeg yn cael eu gwerthu, ma isho nhw ar gael llefydd erill.
Cytuno’n Llwyr a Gareth Potter. Ma be ma Jeronimo yn dweud yn wir. ma isie Mwy o gigs. ond y ffaith yw, does digon o bres i gael fel artist neu gyfansoddwr i gigio digon aml. Allw ni ond alw fe yn hobby ar hyn o bryd. dim digon o ffans yn prynu digon, a’r ffaith yw, does digon o gefnogwyr. Dwi ddim am mynd yn rhy ddwfn mewn i hyn achos byddai jysd yn insultio rhwyun a byddai’n difaru gneud ‘na.
Ac yndi, ma Cyrion yn gwneud Dubstep. Granda ar yr albym newydd (ma na preview ar ei gyfrif soundcloud.com) a ma Plyci yn chware lot o Dubstep yn fyw.
A ma Hefin yn iawn. does dim rhaid i nhw fod yn electroneg. Ma na gymaint o fandiau newydd yn y sin, jysd sneb yn mynd digon dwfn i chwilio amdanyn nhw. Ma nhw jysd yn mynd i Maes B i wylio Bryn Fon ac Elin Fflur (does dim byd yn bod a Bryn Fon ac Elin Fflur, dwi jysd yn enghreifftio ‘Selebs’ y SRG)
Crash, ffans yw un ffynhonnell o arian yn unig. Dylet ti edrych at ffynonellau eraill o arian, e.e. trwyddedu i deledu. Wyt ti wedi anfon dy stwff i gynhyrchwyr ayyb? Gigs tu allan o Gymru hefyd.
S.R.G. R.I.P
Cyd-destun: Wnes i gyfansoddi trac yn 1996 o’r enw ‘S.R.G. R.I.P’. Trac lo-fi 8bit yn defnyddio Mod tracker gyda sampls o Radio Cymru, rhaglenni cerddoriaeth S4C ac ati. Roedd e’n adlewyrchu fy nheimladau am gerddoriaeth Cymraeg yn mynd ar ei ffordd i lawr yn ail hanner y 90au. Roedd sampl arno o Johnny R yn chwerthin a dweud “Be nesa ‘dwch?” yn gofyn y cwestiwn be nesa i gerddoriaeth cyfoes Cymraeg…
Ymlaen i 2004, wnaeth Crav gwyno am y term S.R.G ar maes-e.
Cyd-destun arall: Mae’r sylwadau gwreiddiol yn dod o flog Pethe, a roedd hynny yn dod o sylwadau pryfoclyd Crav ar raglen Pethe lle roedd y panel yn adolygu tri albwm newydd. Os oes yna unrhyw gerddoriaeth newydd cyffrous yng Nghymru, dyw e ddim yn cael ei adlewyrchu ar Pethe na unrhyw raglenni eraill ar S4C.
Mae datblygiad technoleg yn golygu fod hi’n llawer haws cyfansoddi a chyhoeddi cerddoriaeth i’r byd nag oedd e yn y 90au cynnar pan o’n i’n dablo. Ond allwch chi anghofio am gefnogaeth awtomatig gan y cyfryngau Cymraeg.
Ydi’r mae’r hen SRG wedi mynd ond mae e fyny i’r genhedlaeth newydd adeiladu rhywbeth newydd yn ei le, a fe ddylai’r rhai ohonon sy’ ‘ychydig bach’ yn hŷn ei gefnogi a roi cyngor.
Ble mae’r trac S.R.G. R.I.P – am y genhedlaeth newydd?