Dychmygwch yr erchylldra; ma hi’n Noswyl Nadolig, yr eira’n drwch, chi ‘di llwyddo i lusgo’ch hun i’r dre o’r diwedd i brynu anrhegion Nadolig, ac ma na gyflafan yn eich disgwyl. Ma’r hysteria wedi hen gydio, y Go Go Hamsters wedi’u gwerthu ers tro, a hyd yn oed y Slankets croen llewpart wedi sleifio oddi ar y silffoedd fel slecs. Roedd mentro i’r siop lyfrau yn swnio fel syniad da ryw awr yn ôl, ond lle ddiawl aeth idiot’s guide yr Observer i lenyddiaeth 2010? Pwy enillodd y Costa’s eto? Ydych chi’n mynd am drioleg Stieg Larsson neu hunangofiant y Stig? Roedd Dylan Jones yn canmol Life gan Keith Richards yn GQ ond beth am Barn- gafodd Dewi Prysor farciau uwch na Meic Povey?
Wel cyn i chi golli’ch pwyll a phrynu tri chopi o A Simples Life; The Life and Times of Aleksandr Orlov am bris dau, dyma restr ffantastic o argymhellion llenyddol gan awduron o fath gwahanol- rhai o artistiaid cerddorol Cymru. Does na ddim un ohonynt yn hyrwyddo llyfr (eleni, bethbynnag…), ac felly mae eu dewisiadau amrywiol, annisgwyl, a chwbl di-duedd yn werth eu hystyried os am brynu anrheg i rywun arbennig- hyd yn oed os mai’r person arbennig hwnnw yw chi eich hun.
Gruff Meredith, MC Mabon
Barti Ddu gan T Llew Jones
Byswn i yn argymell Barti Ddu gan T Llew Jones fel presant Dolig neu unryw achlysur arall ag i unrywun o unryw oed. Mae T Llew Jones yn awdur anhygoel sydd yn sgwennu mewn ffordd sydd yn grabio’r darllenydd a tanio’r dychymyg .Mae’r cyfuniad o’r stori wir am forleidr mwyaf llwyddianus y byd , y Cymro Barti Ddu, a sgwennu graenus a naturiol T Llew Jones, yn golygu mai hwn ydi un o’r llyfrau gore erioed yn Gymraeg neu unryw iaith arall.
Alun Battrick
A Week In December gan Sebastian Faulks
Mae’r stori yn dilyn bywydau casgliad o gymeriadau gwahanol sy’n byw yn Llundain dan bwysau cymdeithas gyfoes dros wythnos ym mis Rhagfyr 2007. Y mae’r cymeriadau yn cynrhychioli trawsdoriad o gymdeithas Llundain sy’n pontio dosbarth, cenedl a rhyw. Byddai’n anodd priodoli’r llyfr yma i unrhyw ffurf llenyddol penodol gan ei fod yn cynnwys elfennau cytbwys o arswyd, rhamant a chomedi tywyll ond yn ei hanfod mae’n cynnig darlun o ddynoliaeth yn y cyfnod cyfoes. Mae triniaeth manwl Sebastian Faulks o bynciau llosg fel teledu realaeth, pobl ifanc dadrithiedig a’r camraniadau ddilynodd at argyfwng ariannol 2008, yn dangos yr ymchwil eang bydd y rhai sy’n gyfarwydd efo Birdsong a Charlotte Gray yn disgwyl o’r awdur. Er hyn mae A Week In December yn wahanol i’w nofelau hanesyddol blaenorol oherwydd ei ddefnydd cynnil o eironi a comedi du. Roedd yn bleser i ddysgu fel oedd straeon y gwahanol cymeriadau yn cydblethu efo’i gilydd ac roedd y diweddglo yn ddigon annisgwyl i godi gwen mawr ar fy ngwyneb.
Aled Hughes, Cowbois Rhos Botwnnog
The Border Trilogy sy’n cynnwys All The Pretty Horses, The Crossing a Cities of the Plain gan Cormac McCarthy
Huckleberry Finn gan Mark Twain
Border Trilogy gan Cormac McCarthy ydi’r peth gorau i mi ei ddarllen ers blynyddoedd. Mae’r lleoliad, y disgrifiadau a’r delweddau yn gallu bod mor brydferth a rhamantaidd ar brydiau. ond eto y mae’r stori a’r cymeriadau yn medru bod mor ddiffaith a chreulon. Hollol anhygoel.
Does dim lot mwy fedrai ddeud am Huckleberry Finn na sydd wedi ei ddweud yn barod, felly mi adawai hynny i Ernest Hemingway: “all modern American literature comes from one book by Mark Twain called Huckleberry Finn. American writing comes from that. There was nothing before. There has been nothing as good since.
Gwyneth Glyn
Women Who Run With The Wolves gan Clarissa Pinkola Estes
Dyma fy argymhelliad o lyfr Nadolig: Women Who Run With The Wolves gan Clarissa Pinkola Estes. Dyma’r llyfr dwi’n ei brynu i’n ffrindiau benywaidd i gyd ‘leni (er y bysa fo’r un mor ddifyr i ddynion bori rhwng ei gloriau!) Ma Women Who Run With The Wolves yn glasur oesol sy’n gyfuniad o seicoleg a chwedloniaeth. Ma effaith darllen y llyfr yn rymus gan ei fod o’n taflu goleuni ar gymaint o agweddau o’r psyche benywaidd, ac yn dod a rhywun i gysylltiad agos hefo greddfau a phatrymau cynhenid bywyd. Nid llyfr i’w lyncu mewn penwythnos mohono ond trysorfa i’w mwynhau ac i ail-ymweld a hi am flynyddoedd. Cipiwch gopi a rhedwch hefo’r bleiddiaid!
Geraint Pickard, Clinigol
Coming Back To Me; The Autobiography of Marcus Trescothick
Fi’n caru criced, fi’n caru hunangofianau, a fi’n caru llyfrau sy’n gosod safon newydd o fewn eu genre. Yn gymaint mwy na chofiant cricedwr, mae Coming Back To Me – sy’n cyfleu brwydr Marcus Trescothick gyda’i salwch meddwl yn rhagorol – yn must-read go iawn.
Aled Pickard, Clinigol
Conversations With Myself gan Nelson Mandela
Wedi treulio 6 mis eleni yn gweithio gydag un o bartneriaid Cymorth Cristnogol yn Ne Affrica, mae Nelson Mandela yn dipyn o arwr i fi, yn ogystal â phobl De Affrica, oherwydd y ffordd llwyddodd e drawsffurfio’r wlad a’r maddeuant dangosodd tuag at y rhai garcharodd e am 27 mlynedd. Casgliad yw Conversations With Myself o nodiadau, llythyrau a’i feddyliau dros y blynyddoedd. Mae’r adolygiadau i gyd yn addo siwrnai hynod trwy hanes bywyd un o bobl fwyaf eiconig ein hoes.
Siôn Glyn, Y Niwl
Revenge of the Lawn gan Richard Brautigan
Casgliad o straeon byrion gan Brautigan ydi’r gyfrol yma. Mae pob stori yn dudalen o hyd fel arfer, felly y mae’r llyfr yma yn un hawdd i’w godi ar unrhyw adeg or dydd. Mae hefyd yn cynnwys un o fy hoff straeon gan Brautigan sef The Scarlatti Tilt, “‘It’s very hard to live in a studio apartment in San Jose with a man who’s learning to play the violin.’ That’s what she told the police when she handed them the empty revolver. Dim ond dwy frawddeg ydi, ond ma hi’n cyfleu gymaint.
Huw M
Hen Benillion gan TH Parry-Williams
Llyfr, neu law-lyfr, gafodd ei gyhoeddi gyntaf yn Mehefin 1940 yw Hen Benillion, ac un o’r anrhegion Nadolig gorau i mi erioed dderbyn. Mae’n lyfr sy’n cofnodi cannoedd o hen benillion – yn hwiangerddi, cerddi ysgafn, cerddi difrifol, caneuon chwarae, carolau – sydd wedi eu pasio o un genhedlaeth i’r llall ar hyd y canrifoedd. Dwi’n troi at y llyfr yn aml i helpu cyfansoddi, a dwi wedi cynnwys nifer fawr o’r penillion mewn caneuon. Ond y gwir amdani yw eu bod nhw’n berthnasol i bawb gan eu bod nhw’n cynnwys cyngor, doethinebau, a gwirioneddau sydd cyn wired heddiw ag yr oedden nhw 3 neu 4 canrif yn ôl. Dyma un o fy hoff rai i:
Haws yw codi’r môr â llwy,
A’i roi oll mewn plisgyn wy,
Nag yw troi fy meddwl i,
Anwylyd fach, oddi wrthyt ti.
(EP newydd am ddim: Yn Ddistaw Ddistaw Bach gan Huw M)
Mared Lenny, Swci Boscawen
Dirgelwch yr Ogof gan T Llew Jones
Llyfr am smyglwyr a Cwmtydu – mae’n wych.
Gruff Pritchard, Yr Ods
Revolution in The Head; The Beatles’ Records and The Sixties gan Ian MacDonald
Mae miloedd o lyfrau am y grwp a hwn ydi’r gorau dwi wedi ddarllen – cafodd o’i gyheoddi yn wreiddiol yn 1994 ond mae sawl argraffiad a diweddariad wedi bod ers hynny. Mae’n rhoi’r hanes tu ol pob recordiad a chân – o ba ffath o feicroffon gafodd ei ddefnyddio ar y kick drum i ba liw siwmper oedd Paul yn wysgo. Mae’n lyfr hawdd iawn i syrthio fewn ac allan ohono fo – anrheg perffaith i unrhyw un sydd ag attention span mor fyr a fi!
Barti Ddu gan T.Llew ydy fy ffefryn! (A Barti ydy fy hoff for-leidr hefyd.) Roedd o’n gwybod sut i sgwennu storiau gyfaelgar.