Roedd lot fawr o gerddi o ansawdd yn y noson cyntaf Bragdy’r Beirdd neithiwr yng Nghaerdydd! Yn hytrach na mewnosod pob fideo yma dw i’n argymell y sianel YouTube Bragdy’r Beirdd lle ti’n gallu clywed cerddi gan Catrin Dafydd, Osian Rhys Jones a geiriau difyr am hanes Caerdydd gan y gwestai gwadd Owen John Thomas.
Dyma un ohonyn nhw, Cywydd Coffa i’r Bidet gan Rhys Iorwerth:
Gwych o beth bod y stwff ‘ma wedi’i recordio a rhannu fel hyn. Ti wnaeth?
Do. Eisiau tripod…
Trybedd.