Supercuts: dadansoddi cliché Hollywood a mwy trwy fideo

Fy obsesiwn newydd yw Supercuts, fideos doniol sydd yn casglu clipiau ar thema. Maen nhw wedi bodoli am flynyddoedd yn ôl y sôn ond nawr mae rhywun o’r UDA o’r enw Andy Baio wedi casglu pob un o YouTube a Vimeo.

Bydd yr enghreifftiau isod yn egluro’r apêl.

Dyma casgliad o ffilmiau lle mae cymeriad yn dweud ‘You just don’t get it, do you?’.

Dw i’n caru’r casgliad yma o sinau gyda drych mewn ffilmiau arswyd.

Mae’r diweddar Steve Jobs yn dweud ‘Boom’ mewn cyflwyniad sawl gwaith. Joio.

Mae cyfanswm o 295 fideo Supercut ar y wefan supercut.org hyd yn hyn gan gynnwys ffilm, gemau, teledu a bywyd go iawn.

Gweler hefyd: Kevin Kelly, sefydliwr cylchgrawn Wired, yn trafod Supercuts.

6 sylw ar “Supercuts: dadansoddi cliché Hollywood a mwy trwy fideo”

  1. Roedd arddangosfa ddiweddar yr artist Savage, yn Spike Island Bryste, yn cynnwys ffilm supercuts o actorion Hollywood yn gweiddi “WHAT DO YOU WANT FROM ME?!” drosodd a throsodd a throsodd. ar sgrin fawr mae’r effaith yn hypnotig

Mae'r sylwadau wedi cau.