Boncyrs am Borgen

Birgitte Nyborg Christensen (Sidse Babett Knudsen)

Oes modd dweud “Hej Hej” heb swnio’n llawen? Mae’n dipyn o her ceisio yngan y ffarwel Llychlynaidd hwnnw heb swnio fel cyflwynydd teledu plant sy newydd lyncu bocs o Smarties glas.

Ceisiwch, os fedrwch chi, ychwanegu dôs o ing a phinsiad o pathos – ynghyd â llygaid llô bach – wrth ddymuno “Hwyl Fawr” bach pruddglwyfus i Borgen (Senedd) – y ddrama wleidyddol o Ddenmarc a fu’n achubiaeth i gynulleidfa sylweddol  o wylwyr BBC Four ganol Gaeaf, ac a orffenodd ei chyfres o ddeg penod nos Sadwrn dwetha’.

Ffarwel felly i Birgitte Nyborg Christensen (Sidse Babett Knudsen), y Prif Weinidog perffaith o amherffaith gyda’i hangel o ŵr a loriodd pawb gyda’i benderfyniad yn y benod ola. “Hwyl” i’r sbinfeistr Machiavelliaidd (oes na deip arall o sbinfeistr?) Kasper Juul (Johan Philip Asbæk), a’i annallu i ddelio â thrallod ei blentyndod. A “Ta-Ra” hefyd i’w gyn-gariad Katrine Fønsmark (Birgitte Hjort Sørensen), y cyflwynydd newyddion brydferth fydde wrth ei bodd yn sicrhau cystal sgŵp ag un Woodward a Bernstein-arwyr y poster All The President’s Men ar wal ei chegin.

Dyma’r gyfres a oedd yn ddigon gwych i’m darbwyllo i ddiodde “buffer-io” niwsanslyd yr iPlayer wrth i mi ddal fyny bob dydd Sul â double-bill y noson cynt (ma’n rhaid i fi sortio’r Di-Wi, asap), ac a greodd genfigen ffordd-o-fyw cwbl afresymol ynof, nes y bu bron i mi wario £250 ar lamplen “Marchysgall” Poul Henningsen, sydd i’w gweld yn goleuo bron pob golygfa.

Lamplen

Yn wir, mae’r “Marchysgall” ar yr un wish-list â’r siwmper o wlanen Ynys Faroe gan Gudrun & Gudrun sydd ar werth am bron i £300 – canpunt yn fwy ers i’r actores Sofie Gråbøl ei ddewis fel iwnifform anffurfiol ei chymeriad eiconig, Ditectif Sarah Lund yn Forbrydelsen (The Killing), y gyfres Ddaneg a ragflaenodd Borgen ar BBC Four – ac a ysbrydolwyd yn rhannol gan y gyfres dditectif Ffrangeg Enrenages (Spiral), sydd hefyd yn darlledu ar BBC Four.
Sut goblyn felly lwyddodd y cyfresi hyn fy hudo i a miloedd tebyg, ac sy di’n gadael ni’n awchu am ragor?
Ar yr arwyneb, roedd Borgen yn sebon slic a safonol gafodd ei chymharu ag un o gyfresi  drama mwyaf llwyddianus yr Unol Daleithiau, The West Wing. Ond mae na gryn dipyn mwy iddi na hynny. Mae Borgen, fel Forbrydelsen, yn un o gynyrchiadau’r cwmni darlledu gwasnaeth cyhoeddus DR sy’n gwario £20 miliwn ar ei chyllid blynyddol o £250 miliwn ar ddrama – swm cymharol fychan sy’n golygu bod rhaid dethol prosiectau’n ofalus. Y mae’r sgriptiau gaiff eu dewis yn allweddol, ac yn llywio gweledigaeth pob cyfres  yn llwyr.

Ymhelaethwyd ar hyn gan erthygl ddiddorol yn y Guardian yn ddiweddar.

The rules are straightforward. Commissioners insist on original drama dealing with issues in contemporary society: no remakes, no adaptations. The main requirement is material for the popular 8pm slot on Sundays. Writers have the final say. [Cynhyrchydd, Camilla] Hammerich said: “We give them a lot of space and time to develop their story. The vision of the writer is the centre of attention, we call it ‘one vision’ – meaning everyone works towards fulfilling this one vision, and very few executives are in a position to make final decisions. I believe this is part of the success.”

Dychmygwch y fath weledigaeth ar gyfer S4C am 8 o’r gloch ar nos Sul! Mae’n wir fod y dramau hyn gryn dipyn mwy herfeiddiol na chyfresi arferol y sianel Gymraeg – yn sicr yn achos Forbrydelsen – ac yn gofyn mwy o ganolbwyntio gan y gwyliwr- ond mae eu  llwyddiant diweddar ar sianel BBC Four (gwyliodd 629,000 o bobol y benod gynta, sef cyfran o 2.6% o’r gynulleidfa a oedd yn gwylio’r teledu rhwng 9-10 y noson honno) yn dangos fod na awch aruthrol am ddrama slic ag iddi gryn dipyn o sylwedd.

Mae hyn oll yn adleisio ffenomenon lenyddol y ddegawd ddiwethaf, sef llwyddiant ysgubol llenyddiaeth Llychlynaidd. Mae blocbysters mawrion Henning Mankell, Jo Nesbø, Stieg Larsson a’u tebyg yn tyrchu – trwy gyfrwg y genre dirgelwch, a’r arwyr Kurt Wallander, Harry Hole, Mikael Blomkvist a Lisbeth Salander – i gyfrinachau tywyll y gwladwriaethau goleuedig hyn sy’n arweinwyr byd mewn cyfoeth, ansawdd bywyd a gwerthoedd rhyddfrydol ac egalitaraidd, gan fynnu atgyfodi hanes amwys y gwledydd hyn adeg – ac yn dilyn – yr Ail Ryfel Byd.

Does ond angen dychwelyd rhai misoedd at drychineb ynys Utøya yn Norwy ar Orffenaf 22 i brofi nad paranoia creadigol fu’n gyfrifol am drioleg byd-enwog Stieg Larsson a gychwynwyd gyda Män Som Hattar Kvinnor (The Girl With The Dragon Tattoo)- cyfres a ysbrydolodd gyfres o ffilmiau yn Sweden, ac adweithiad Americanaidd hynod lwyddianus gan David Fincher yn ddiweddar – ond gyrfa gyfan, tan ei farwolaeth disymwth yn 2004, fel newyddiadurwr ymgyrchol fu’n ymchwilio’n ddi-flino i’r grymoedd tywyll hyn.

Fel nifer yn Norwy, gadawodd y gyflafan honno argraff enfawr ar Jo Nesbø – yr ymchwilydd economaidd a chanwr pync a drodd yn lenor llwyddianus ar ôl dechrau sgwennu am hanes y ditectif alcoholig Harry Hole – ac mae e wedi dweud y caiff y drychineb effaith bendant ar ei sgwennu ef a’i gyd-lenorion yn Norwyam flynyddoedd i ddod.

Y newyddion da i filiynau o’i ddarllenwyr ffyddlon yw fod Nesbø yn benderfynol o barhau gyda chyfres Harry Hole – am gyfnod ta beth, o gofio natur hunan-ddinistriol ei arwr anfarwol. Yn anlwcus i mi, gorffennais The Leopard – y nofel ddiweddara yn ei gyfres ardderchog – er mwyn llenwi’r gwacter yn dilyn diweddglo cyfres ysgubol Forbrydelsen II, gyda’r Harry Hole benwyaidd, Sarah Lund (Sofie Gråbøl) yn y brif ran.

Diolch byth felly am Borgen, am sefyll yn y bwlch – a dychweliad annisgwyl partner Lund, Ulrik Strange, fel Philip Christensen – gwr Birgitte!

Ond be nesa?

I chi, fel fi, sydd yn ysu am ragor, mae 2012 yn gaddo llond trøll o sagas Sgandinafaidd i’n cadw ni fynd ymhell tan y flwyddyn nesa, gan ddechre ymhen rhai wythnosau ar ITV3 gyda drama arall gan DR – Den Som Dræber (Those Who Kill); drama dditectif sy’n archwilio seicoleg llofruddion lluosog yn null Wire In The Blood, gyda phartneriaeth ganolog rhwng Inspector Katrina Ries Jensen (Laura Bach) a Magnus Bisgaard (Lars Mikkelsen – a chwaraeodd yr hottie gwleidyddol, Troels Hartmann yn Forbrydelsen).

Yn dilyn hynny yn y Gwanwyn, bydd BBC Four yn darlledu cyfres a enillodd ganmoliaeth aruthrol yn ei mam-wledydd yn ddiweddar, sef Bron/Broen (Y Bont), cyd-gynhyrchiad rhwng DR â’r cwmni cyfatebol yn Sweden SVT sy’n cychwyn â darganfyddiad erchyll ar bont Orseund sy’n uno’r ddwy wlad – a’r cyntaf o gynllun cyd-gynhyrchu hir-dymor.
Sebastian Bergman, mae’n debyg, fydd y ddrama nesa o Sweden i ddarlledu ar BBC Four, cyn carlamu mlaen at Forbrydelsen III a Borgen II cyn Nadolig 2012.

Methu diodde’r boen o aros tan hynny? Beth am estyn am gatalog diweddara Skandium, penodwch gelficyn eich breuddwydion, a pharatewch Smorgasbord llawn Smørrebrød a Kanelsnegle . Estynwch wahoddiad i griw da o ffrindiau am noson o Hygge – “cwtch” cymdeithasol dros bryd da o fwyd.

A da chi, cofiwch gynnig llwnc destun a “Tak” i’r cyfeillion absennol – y cymeriadau cofiadwy hynny sy’ dros fisoedd llwm y Gaea yn gwmni gwych i ni oll.

Cyfres gyntaf Borgen ar BBC iPlayer

4 sylw ar “Boncyrs am Borgen”

  1. Dim ond un person arall dwi’n ei adnabod sy’n gwylio Borgen a mae o’n hollol ffab dydy! Dwi ddim am ddarllen dy bwt amdano tan ar ôl heno oherwydd mae gen i’r bennod olaf i fynd. Ffantastig.

  2. Un o’r pethau mwyaf pwysig imi yn y dramau hyn yw statws y menywod – menywod o statws (proffesiynol) ydyn nhw. Mewn lleiafrif o hyd ond mewn swyddi pwysig. Gwahaniaeth mawr rhwng Forbrydelsen a Borgen: eu perthnasau personol: Lund yn ceisio codi wal cryf rhwng y gwaith a’r byd tu fâs, Katrine a Nyborg yn methu’n lan â gwneud hynny.

Mae'r sylwadau wedi cau.