Iaith a ffilmiau dogfen

Mae cynhyrchu ffilmiau dogfen yn broses cymhleth o gyfathrebu. Fel unrhyw iaith, mae’n cynnwys unedau morffolegol a chystrawen; mae ganddo amrywiadau rhanbarthol, tafodieithoedd a jargon; mae yna semanteg a semioteg. Mae ieithoedd yn esblygu, yn manteisio ar geirfaoedd a gramadeg newydd tra’n colli termau ac ymadroddion darfodedig  ar yr un pryd. Mae’n hanfodol bod ieithoedd yn adlewyrchu newidiadau cymdeithasol; maent yn goroesi trwy drawsnewidiad ac ymaddasiad, trwy fenthyg oddi wrth eu gilydd, trwy ehangu a changhennu mewn proses parhaol o newid ac adnewyddu.

Yn nhermau Gorllewinol, mae’r ffilm dogfen esboniadol confensiynol yn iaith gyntaf; rydym yn gyfarwydd gyda’r mynegiadau ac ymadroddion llafar sylfaenol. Y testun esboniadol clasurol yw’r tafodiaith drech yn ffilmiau dogfen – cyfweliadau, troslais, delweddau sydd yn egluro’r sylwebaeth. Mae’r nodweddion yma wedi dod i ddynodi ymdriniaeth ddibynadwy o’r thema o dan drafodaeth. Ond fel gwrandawyr yn unig yr ydym yn profi’r ffilm esboniadol, nid fel siaradwyr.

Mae ffilmyddiaeth Werner Herzog yn benodol, ei gynnyrch fficsiwn a dogfen, yn ddirlawn gydag archwiliadau ieithyddol, trwy thema a ffurf. Mae’r archwiliadau yn tueddu i danseilio syniadau confensiynol o wybodaeth a dealltwriaeth. Mae ffilmiau fel Land of Silence and Darkness (1971), Fata Morgana (1971), Lessons of Darkness (1992), Death for Five Voices (1995), The Wild Blue Yonder (2005) and Encounters and the End of the World (2007) yn canolbwyntio ar rwystrau ieithyddol, camddealltwriaeth a dulliau amgen o gyfathrebu. Nid yw ei driniaeth ffurfiol o ddeunydd yn dilyn unrhyw bresgripsiwn penodol ac mae Herzog yn dadlau dros cymryd safbwynt barddonol tuag at ffeithiau a’r gwirionedd (wrth gwrs, mae hwn yn atseinio’r cynhyrchwyr ffilmiau dogfen Ewropeaidd gynnar fel Walter Ruttman, Jean Vigo, Joris Ivens a John Grierson – pobl wnaeth arbrofi gyda chymalau barddonol yn y ffilm dogfen).

Mae ieithoedd yn anfeidrol gymhleth; maent yn llawn ystyron cudd a rhwystrau, ac mae’r potensial am gamddealltwriaeth a cham-gyfathrebu yn hollbresennol. Mae semanteg, semioteg a dehongliadau yn mynnu ni ellir byth fod ystyr ddiffiniol mewn unrhyw weithred cyfathrebu. Felly pam trio? Nid yw’n gwell feddwl am gynhyrchu ffilmiau dogfen fel proses o gyfieithu falle? Hynny yw, cyfieithu iaith y byd i iaith y sgrin? Ac os yw iaith y byd yn newid, ni ddylai iaith y sgrin newid yn unol â hynny?

4 sylw ar “Iaith a ffilmiau dogfen”

  1. Er bod i’n cyfarwydd â’r ffilmiau Herzog gyda Klaus Kinski dw i erioed wedi gwylio’r teitlau yma. Bydd rhaid i mi!

  2. Wna i trio cofio roi copiau i ti.

    I fod yn onest, galla i restri bron unrhyw ffilm gan Herzog. Os ti’n meddwl am cymeriadau Kinski (ee. Aguirre, Fitzcarraldo, Nosferatu, Woyzcek), mae nhw i gyd yn bobl anarferol/annaturiol sydd yn cael trafferth cyfathrebu gyda pobl cyffredin. Mae pobl yn eu cam-ddeall nhw, meant yn byw ar ffiniau eu chymdeithasau, yn meddwl ac yn siarad mewn ffordd gwahanol ac, yn y diwedd, maent yn aflywddianus wrth trio cyfathrebu eu syniadau.

  3. Diolch am y gofnod. Ma Herzog yn wych, er dwi ddim wedi gwylio llawer tu hwnt i’w waith mwya adnabyddus. Erioed wedi meddwl am dafodieithoedd i ddogfen o’r blaen. Ma’n syniad diddorol. Mae nifer o genhedloedd wedi datblygu diwylliant gweledol penodol, y Llyfr Kells yw’r un sy’n dod i feddwl gynta, ond fel mae John Hefin wastad yn dweud rydyn ni’n wlad sy’n rhoi blaenoriaeth a phwyslais ar y gair yn hytrach na’r ddelwedd. Mae ganddon ni draddodiad barddol unigryw, ac enwog, ond mae’n traddodiad gweledol ni’n llai amlwg (er, mae John hefyd yn dweud bod Peter Lord wedi gwneud gwaith gwych i geisio newid hynny drwy ei lyfrau).

    Oes na ffilmiau ‘Cymreig’ ei natur go iawn? Oes na ffordd o dynnu llinyn drwy nifer o ffilmiau dogfen o Gymru a dweud bod ein tafodiaith weledol ni yno? Dwi’n ama’n gry, ond fae’n dda meddwl bod na. Sut ma Sleep Furiously’n ffitio mewn i hyn? Ydi ‘cyfieithiad’ Koppel o Drefeurig yn un sy’n driw i’r ‘iaith’ wreiddiol? Neu ai addasiad ydi o?

  4. Dyle cynhyrchwyr ffilmiau dogfen ddim teimlo’r pwysau i drio fod yn fyddlon i’r iaith gwreiddiol, h.y. iaith y byd. Wedyn falle ni’n son (fel ti’n dweud Rhodri) am addasiad yn hytrach na chyfieithu (dwi’n gweithio ar gofnod arall nawr sydd yn edrych ar ddehongliad Hito Steyerl o ‘gyfieithu’ iaith y byd i iaith y sgrin mewn ffilmiau dogfen).

    Oes yna tafodiaeth weledol (ffilmiau dogfen) Cymreig unigryw? Yn sicr, nid un gyfoethog.

Mae'r sylwadau wedi cau.