Arddulliau newydd Colorama

Dw i’n hoff iawn o’r gân newydd Colorama;

Hapus…

a’r ailgymysgiad gan Begin…

O safbwynt fy nghlustiau mae’n braf iawn i glywed bod nhw wedi ffeindio seiniau gwahanol. Mae’r gân Wyt Ti’n Hapus? yn yr un ardal a Ulrich Schnauss neu Lemon Jelly cynnar (ond lot mwy diddorol na Lemon Jelly) – ond ddim yn rhy slafaidd i unrhyw traddodiad.

Y peth yw, dw i’n edmygu eu sgiliau fel cyfansoddwyr a chwaraewyr erioed – rhai o’r gorau hyd yn oed – ond doedden nhw ddim at fy dant yn y gorffennol achos o’n i’n methu delio gyda’r cyfeiriadau i’r 60au. O’n i wedi cael llond bol o’r obsesiwn Cymry gyda’r 60au yn gyffredinol. Mae dadl ehangach yna am geidwadaeth pawb o Radio Cymru i S4C i’r cerddorion ac efallai cynulleidfaoedd. Roedd Colorama cynnar yn gormod i fi, yn enwedig y cynhyrchiad Kinksaidd ar ganeuon pastiche braidd fel Candy Street. Ond efallai bydd rhaid i ni ail-dylunio’r Canllaw i’r 60au ar Y Twll bellach achos maen nhw wedi cael y 60au mas o eu systemau.

Gobeithio eu bod nhw wedi ffeindio’r hyder i fwrw ymlaen gyda’r arddulliau newydd ac unigryw iddyn NHW fel artistiaid. Rwyt ti’n gallu dychmygu’r peth mewn clwb – mae groove penodol i’r peth ac mae’r cynhyrchiad yn dwfn ac yn llawn llawenydd ac heulwen. Pob lwc/bendith i Colorama.