Blaidd, Meic Stevens a Sianel62: Beth yw’r nod?

Tua mis yn ôl, ymwelodd y grŵp Blaidd o Aberystwyth â stiwdio Richard Dunn (cyn-allweddellwr Van Morrison, Geraint Jarman ac eraill) yn Llandaf, ger Caerdydd. Y bwriad oedd recordio sengl gyda’r chwedlonol Meic Stevens yn cynhyrchu. Roedd Sianel62 wedi adnabod y digwyddiad fel rhywbeth werth ei ddogfennu – yr hen feistr profiadol yn trosglwyddo ei ddoethineb i’r llanciau newydd ar y sîn. Heb eisiau swnio fel fwltur cyfryngol, roedd y ‘stori’ yn gyfoethocach hefyd gan fod Meic wedi datgelu i Sam (prif leisydd/gitarydd Blaidd) ei fod wedi dechrau ar gwrs o driniaeth am ganser y gwddf. Fel unigolyn poblogaidd a hoffus iawn ymysg y Cymry Cymraeg, roedd hwn siŵr o fod yn newyddion trist i nifer o bobl. Ond, yn ôl Sam, roedd agwedd Meic tuag at ei salwch yn herfeiddiol ac ysbrydoledig.

Wel, dyna yw cefndir y ffilm.

Y syniad gyntaf felly oedd creu ffilm ‘fly on the wall’ – ffilm epig, hanesyddol, rhyw fath o gyfuniad o Metallica: Some Kind of Monster a This is Spinal Tap. Ond roedd trefnu’r cynhyrchiad yn her yn ei hunain. Gan fod Sianel62 yn cael ei gynnal gan wirfoddolwyr, mae adnoddau dynol yn brin ac roedd ffeindio pobl gydag awydd ac amser i fynd lawr i’r stiwdio i ffilmio yn genhadaeth! Yn y diwedd dim ond 2 awr o ffilmio oedd yn bosib ac felly mae’r canlyniad yn llai ‘epig’ ac yn fwy ‘cyfweliad o amgylch bwrdd y gegin’. Er gwaethaf hynny, mae’r ffilm yn llwyddiant – cannoedd o ‘views’ mewn llai nag wythnos, adborth hollol bositif yn y cyfryngau cymdeithasol, a sylw gan Huw Stephens ar Radio Cymru. Pawb yn hapus. Ond…

Mae yna gwestiwn pwysig yn ein hwynebu nawr, sef beth yw pwynt Sianel62? Hynny yw, ble ydy’r sianel yn ffitio mewn i’r cyd-destun darlledu/cynhyrchu ehangach yng Nghymru? Beth ddylai amcanion a chyfrifoldebau’r sianel fod? Rhaid cofio mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sydd tu ôl i’r fenter – eu gweledigaeth nhw i’w sefydlu, eu buddsoddiad nhw, eu harf nhw. Gan fod cyllid y Gymdeithas yn brin, a ddylem canolbwyntio holl adnoddau’r sianel ar hwyluso, cefnogi, hybu eu gwleidyddiaeth nhw? Sefydliad gwleidyddol yw’r Gymdeithas ar ddiwedd y dydd ac, os yw adnoddau’n brin, gallwn ni fforddio eu ‘gwastraffu’ ar ‘adloniant’ fel ffilm Blaidd a Meic Stevens?

2 sylw ar “Blaidd, Meic Stevens a Sianel62: Beth yw’r nod?”

  1. Weithiau, mae fideos anffurfiol gydag elfen amaturaidd ynddynt yn fwy effeithiol ac onest. Mae’r fidio yma’n gret dwi’n meddwl- rhywbeth na fasa s4c yn ei ddarlledu! Nid yw hyn yn wastraff chwaith, mae’n beth da fod grwp gwleidyddol yn medru ehangu i feysydd eraill fel y celfeddydau.

Mae'r sylwadau wedi cau.