Gŵyl CAM: Datblygu, Ela Orleans, Ann Matthews, Agata Pyzik…

gwyl-cam-2015

Digwyddiad newydd sbon o drafodaethau, ffilm a gigs fydd Gŵyl CAM ac mae’r cyfan yn digwydd yng Nganolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn 25ain o Ebrill 2015 o 12 hanner dydd ymlaen.

Mae CAM yn gyrchfan aml-gyfrwng sy’n cael ei churadu a’i ddatblygu gan Peski. Mae’n cynnig platfform i gerddoriaeth arbrofol a ffilmiau anturus o Gymru, yn ogystal â rhoi sylw i artistiaid o amgylch y byd sydd o’r un brethyn creadigol. Mae CAM yn gweithredu fel rhaglen radio wythnosol, yn guraduron ffilmiau a rhaglenni dogfen blaengar, yn gylchgrawn digidol ac yn gyfres o ddigwyddiadau byw – yn hafan i feddwl amgen.

Mae dim ond 300 o docynnau ac yn ôl y sôn maen nhw yn gwerthu yn dda. Bydd nifer cyfyngedig ar gael wrth y drws. Fel arall mae modd mynychu rhai o’r pethau am ddim heb docyn.

Ond bydd rhaid i chi brynu tocyn i fynychu’r gigs. Mae’n synnu fi nad oedd unrhyw straeon o gwbl yn y cyfryngau prif ffrwd, hyd y gwn i, am ddychweliad Datblygu i’r llwyfan. Dw i’n cyffroi ac hefyd yn teimlo bach yn nerfus am y peth.

Trefnwyr Gŵyl CAM yw’r pobl ysbrydoledig tu ôl i’r sioe radio hudolus Cam o’r Tywyllwch; Gwenno Saunders, Rhys “Jakokoyak” Edwards a Garmon Gruffydd. Mae Rhys a Garmon yn rhyddhau cerddoriaeth o’r radd flaenaf trwy Recordiau Peski ers rhywbeth fel 12 mlynedd hefyd. Diolch o galon iddynt hwy!