Dyma adolygiad gan Bethan Williams o raglen ddogfen Geraint Jarman a ddarlledwyd ar S4C ym mis Mai 2015. Ar hyn o bryd, dydy’r rhaglen ddim ar gael trwy ddulliau trwyddededig.
Dilyn Geraint Jarman a chyfweld ag e wrth iddo berfformio gigs a recordio’i albwm ddiweddara mae’r rhaglen.
Mae’n amlwg taw cyfansoddi a cherddoriaeth yw bywyd Jarman. Mae’n dweud ei fod yn mwynhau recordio a chyfansoddi o hyd, a’i fod yn un o’r pethau yn ei fywyd nad ydy e wedi mynd ‘yn ffed up ohono’.
Dechreodd ysgrifennu fel ‘outlet’ i’w agwedd o wrthod cydymffurfio a mitsio o’r ysgol ac mae’n dal ati achos ‘Be wnawn i heblaw am be ‘sgen i?’.
Mae’n amlwg yn llwyddo i dynnu pobl i’w gerddoriaeth – y fenyw mae’n sôn amdani sy’n gwrando ar ei recordiau bob dydd; y cerddorion rydyn ni ei weld e’n cydweithio â nhw fel ffrindiau; ei ferched, sy’n canu ar yr albwm ddiweddaraf a hyd yn oed diwylliant!
Wrth ganu reggae, diwylliant sy’n sôn am gam-drin a chael eich gwrthod, roedd e’n teimlo fod y diwylliant hwnnw’n uniaethu â’r Gymraeg – drwy gerddoriaeth.
Mewn cyfweliad o’r 70au am ddylanwad reggae mae’n dweud fod neges ei ganeuon wedi’i chlymu gyda’r diwylliant Cymraeg a dyna pam ei fod yn canu reggae yn Gymraeg.
Un o’r pethau mwyaf dwi’n ei gysylltu gyda Jarman yw’r sbecs haul, hyd yn oed mewn lleoliadau tywyll mae’r sbecs tywyll yn aros. Mae’n esbonio ei fod wedi dechrau gwneud am nad oedd e am i’r gynulleidfa i’w weld e, achos nyrfs – ac yn cyfaddef fod y nyrfs yn dal i ddod cyn gigs. Yn ystod y rhaglen mae’r sbecs tywyll yr un mor amlwg.
Wrth fynd nôl i ardal ei fagwraeth a sôn am brofedigaeth a gafodd yn fachgen ifanc er enghaifft mae’n gwisgo’r sbecs; ond wrth drafod cerddoriaeth mae’r sbecs ar goll.
Falle mai fi sy’n darllen gormod i hynny ond roedd e’n fwy parod a chyfforddus wrth siarad am gerddoriaeth. Roedd rhywbeth arall yn digwydd tu ôl i’r sbecs, heb yn wybod i’r gynulleidfa, ond bydd rhaid i chi wylio i weld beth!
Llun oddi ar wefan BBC