Adolygiad: rhaglen ddogfen Geraint Jarman ar S4C

Geraint Jarman, llun oddi ar wefan BBC

Dyma adolygiad gan Bethan Williams o raglen ddogfen Geraint Jarman a ddarlledwyd ar S4C ym mis Mai 2015. Ar hyn o bryd, dydy’r rhaglen ddim ar gael trwy ddulliau trwyddededig.

Dilyn Geraint Jarman a chyfweld ag e wrth iddo berfformio gigs a recordio’i albwm ddiweddara mae’r rhaglen.

Mae’n amlwg taw cyfansoddi a cherddoriaeth yw bywyd Jarman. Mae’n dweud ei fod yn mwynhau recordio a chyfansoddi o hyd, a’i fod yn un o’r pethau yn ei fywyd nad ydy e wedi mynd ‘yn ffed up ohono’.

Dechreodd ysgrifennu fel ‘outlet’ i’w agwedd o wrthod cydymffurfio a mitsio o’r ysgol ac mae’n dal ati achos ‘Be wnawn i heblaw am be ‘sgen i?’.

Mae’n amlwg yn llwyddo i dynnu pobl i’w gerddoriaeth – y fenyw mae’n sôn amdani sy’n gwrando ar ei recordiau bob dydd; y cerddorion rydyn ni ei weld e’n cydweithio â nhw fel ffrindiau; ei ferched, sy’n canu ar yr albwm ddiweddaraf a hyd yn oed diwylliant!

Wrth ganu reggae, diwylliant sy’n sôn am gam-drin a chael eich gwrthod, roedd e’n teimlo fod y diwylliant hwnnw’n uniaethu â’r Gymraeg – drwy gerddoriaeth.

Mewn cyfweliad o’r 70au am ddylanwad reggae mae’n dweud fod neges ei ganeuon wedi’i chlymu gyda’r diwylliant Cymraeg a dyna pam ei fod yn canu reggae yn Gymraeg.

Un o’r pethau mwyaf dwi’n ei gysylltu gyda Jarman yw’r sbecs haul, hyd yn oed mewn lleoliadau tywyll mae’r sbecs tywyll yn aros. Mae’n esbonio ei fod wedi dechrau gwneud am nad oedd e am i’r gynulleidfa i’w weld e, achos nyrfs – ac yn cyfaddef fod y nyrfs yn dal i ddod cyn gigs. Yn ystod y rhaglen mae’r sbecs tywyll yr un mor amlwg.

Wrth fynd nôl i ardal ei fagwraeth a sôn am brofedigaeth a gafodd yn fachgen ifanc er enghaifft mae’n gwisgo’r sbecs; ond wrth drafod cerddoriaeth mae’r sbecs ar goll.

Falle mai fi sy’n darllen gormod i hynny ond roedd e’n fwy parod a chyfforddus wrth siarad am gerddoriaeth. Roedd rhywbeth arall yn digwydd tu ôl i’r sbecs, heb yn wybod i’r gynulleidfa, ond bydd rhaid i chi wylio i weld beth!

Llun oddi ar wefan BBC

Reggae, ffasiwn ac ymgyrchu: cipolwg ar fywyd Butetown ’84

I’r rhai sydd ddim yn gyfarwydd â Butetown, ysgrifennodd yr awdur John Williams gyflwyniad i hanes yr ardal yn y llyfr Bloody Valentine:

[…] from this point on Butetown was not simply a conventional ghetto or a colourful adjunct to the city’s maritime life, but effectively an island. It was not simply a black island: the area had always had a white Welsh population and continued to do so, there was an Irish presence too as well as Chinese, Arab and European sailors, and refugees from successive European conflicts as well. And as the black or coloured population was initially almost exclusively male, Butetown rapidly became a predominantly mixed-race community, almost unique in Britain, the New Orleans of the Taff delta, home of the creole Celts. But this integration was firmly confined to Tiger Bay: above the Bute bridge you were back in the same hidebound old Britain. […]

Cyfres teledu BBC am fywydau, profiadau a diwylliannau pobl dduon oedd Ebony yn yr 80au cynnar. Yn 1984 aeth criw o BBC Bryste i Gaerdydd i ddarlledu rhaglen ‘arbennig’ yn fyw ac mae defnyddiwr YouTube wedi bod yn ddigon caredig i rannu recordiad yn ddiweddar. Yn ôl ffrind sy’n deillio o Butetown mae PAWB yn ymddangos yn y rhaglen hon.

O’n i’n chwilfrydig am gerddoriaeth yr oes ac mae dwy enghraifft dda o artistiad reggae lleol. Bandiau y dociau oedd ymhlith ysbrydoliaethau a chyd-artistiaid Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr wrth gwrs.

Bissmillah, sy’n agor y rhaglen, yw band llawn gan gynnwys adran bres gyda dau ganwr sy’n atgoffa fi o Michigan & Smiley a’r oes dancehall cyn reggae digidol.

O 12:00 ymlaen yn ystod clipiau o barti blues mewn lleoliad anhysbys ger Stryd Bute, mae Conqueror Sound – artistiaid gyda phroffil uchel tu hwnt i Gaerdydd a Chymru – yn perfformio mewn hetiau Viet Cong: detholwr yn chwarae fersiwn o’r curiad Answer tra bod canwr yn rhannu ei falchder am liw ei groen. Mae dyn arall yna ond dw i ddim yn gallu canfod ei swyddogaeth.

Mae’r perfformiad Bissmillah yn rhan o gig ehangach ac mae’r rhaglen yn cynnwys dawnswyr o ddull Ghanaidd a band disco o’r enw Denym ar y diwedd. Lleoliad y gig oedd yr Ocean Club ar Rover Way, stryd a enwyd ar ôl cwmni Rover pan oedd ffatri ceir yna. Mae archfarchnad anferth ar hen safle’r ffatri bellach, Tesco Rhostir Pen-Gam.

Mae eitemau am ffasiwn ac ymgyrch yn erbyn y darn Grangetown o’r A4232 yn amseru’r rhaglen. Afraid dweud, dyma oedd y cyfnod cyn y morglawdd a datblygiadau ‘Bae Caerdydd’ pan oedd Margaret Thatcher a’r Ceidwadwyr mewn grym yn San Steffan. Yn ogystal â’r glowyr adeg hynny, roedd bywyd yr un mor anodd i’r docwyr yn Tiger Bay a gweithwyr eraill. Dyna sy’n ddiddorol iawn am glywed sylwadau’r dyn o 13:00 ymlaen, geiriau sy’n atseinio gyda rhai gan Gwyn Alf Williams o’r un cyfnod yn union:

[…] Mae pawb eisiau adeiladu ‘amgueddfeydd’ lawr yma ac ailddatblygu fel bod e’n debyg i ryw atyniad i dwristiaid. Bydd pawb yn byw yn y gorffennol fel fath o amgueddfa fyw […]
Trigolyn Butetown, 1984

Adolygiad albwm: Geraint Jarman – Brecwast Astronot

Dyna lle ro’n i’n arnofio am ddyddiau ar gwmwl rhif 9, newydd ddychwelyd o Efrog Newydd ac yn dyheu am fynd nôl, pan laniodd yr albwm Brecwast Astronot drwy’r post. A minnau di bod yn chwarae cyfuniad o High Violet gan The National a’r Treya Quartet yn ddi-dor ers dod nôl – yn dychmygu bo fi dal rhywle rhwng Bedford Ave yn Brooklyn a siop lyfrau Rizzoli ar West 57th – roedd hi’n hen bryd i mi ddychwelyd i’r ddaear, a diolch i Geraint Jarman cês y comedown melysaf erioed i realaeth y Rhath.

Heb fynd dros ben llestri’n llwyr, mae’r albwm hirddisgwyliedig hon yn wych. Dwi di cael wythnos dda o wrando arni’n nosweithiol bellach, ac wedi dod at y casgliad ei bod, nid yn unig yn instant classic, ond yn instant classic sydd hefyd yn treiddio’n dawel i’ch isymwybod nes bod ambell gan yn gwmni gloyw wrth giniawa al desko y diwrnod wedyn.

Y mae’r casgliad hwn yn cynrhychioli cam yn ôl o’r dylanwadau reggae a dub fu’n llywodraethu gwaith Jarman dros y degawd a mwy diwetha gan greu naws cyfarwydd, cynnes a chartrefol diolch i griw o gerddorion sy’n rhan o’i deulu estynedig, ac yn artistiaid y mae gan y dyn ei hun yn amlwg barch anferthol tuag atynt.

Mae hi’n albwm llawn atgofion melys a theyrngedau annwyl i gariadon, arwyr ac eneidiau hoff cytun, sydd yn achos ambell un- y gân gynta Miss Asbri 69 a Syd Ar Gitar, er enghraifft- yn cynrhychioli peiriant amser ‘nôl i’w ieuenctid seicadelig, gydag eraill wedyn yn cyffwrdd â cholled a byrhoedledd bywyd mewn ffordd annisgwyl o gadarnhaol .

Efallai ar y gwrandawiad cyntaf fod rhai’n eich taro fel caneuon tywyll, rhybuddiol, ond ar ôl gwrando arnynt eto, datgelir dirgelion pellach a delweddau cryfion sy’n croesddweud hynny’n llwyr.

Yn wir, dim ond un gân faswn i’n ei disgrifio sy’n ymylu ar felancoli, ac un o’r harddaf yw’r rheiny, sef Nos Sadwrn Bach – cân hyfryd o hudolus am noson random, glawiog mas yng Nghaerdydd y clywais i gynta ddeg mis yn ôl, pan roedd Geraint yn ddigon caredig i ganiatáu i mi ei defnyddio ar ddiwedd seinlun o’r ddinas y cês i’r pleser o’i chynhyrchu ar gyfer BBC Radio Cymru y llynedd.

Roeddwn i wedi edrych mlaen yn arw i glywed yr albwm gyfan fyth ers hynny, gan ddychmygu y byddai pob cân yn debyg i’r hwiangerdd hiraethus honno, ond cês fy siomi ar yr ochr orau wrth sylweddoli bod y casgliad mewn gwirioned yn cynrychioli dathliad bywyd, a’r rhan fwyaf yn ganeuon bywiog, yn byrlymu o egni da a chi.

Heb fynd i sgwennu traethawd am bob cân- rhywbeth y gallwn i wneud yn hawdd, ond nai i’ch sbario chi rhag y boen – dwi wir yn dwlu ar y caneuon tawelach, adlewyrchol, fel Brethyn Cartref a Brecwast Astronot sydd nid yn unig yn cynnwys llais tyner a geiriau gwych gan Geraint ei hun, ond yn arddangos dawn a medr ei gyd-gerddorion, fel Siân James a Siôn Orgon, gan bwysleisio natur gydweithredol yr albwm, sydd gyda llaw wedi’i chynhyrchu’n rhagorol gan Frank Naughton yn Tŷ Drwg, Grangetown.

A minnau di agor y llifddorau wrth ddechrau trafod fy “hoff blant” mae’n rhaid i mi hefyd bwysleisio mor braf , ac annisgwyl, yw clywed dylanwadau gwledig mewn perlau pop perffaith fel Llinyn Arian a Roedd Hwnna’n Arfer Bod yn Ddigon.

Ac os o’n i’n ddigon rhyfygus i feddwl bo fi eisioes wedi dewis fy ffefryn ymhell cyn clywed yr albwm ar ei hyd, wel dwi’n falch iawn i ddweud i mi gael fy llorio’n llwyr gan y gân ola sy’n dilyn Nos Sadwrn bach , sef Baled y Tich a’r Tal. Dwi’n herio unrhywun i gyrraedd diwedd y gân hwyliog hon – ac felly’r albwm- heb ddeigryn yn eich llygaid, na’ch crys yn llawn chwys.

Y mae’r anthem afieithus nid yn unig yn eich gorfodi i ddawnsio fel gwallgofddyn, ond hefyd yn deyrnged i gyd-gerddor a ffrind mawr Geraint, Tich Gwilym, ac yn cynnwys rhai o’r geiriau gorau i mi’u clywed erioed, gan orffen gyda choda distaw a dirdynnol sy’n adleisio yn y côf ymhell ar ôl i’r albwm ddod i ben.

Os oes gen i feirniadaeth o gwbl, hoffwn ofyn i anwyliaid Ankstmusik lle mae geiriau’r caneuon o fewn cloriau’r clawr CD trawiadol? Ydy peth o’r fath yn gwbl anffasiynol nawr ein bod i gyd, mae’n debyg, yn lawrlwytho fel ffyliaid i’n peiriannau mp3? Mae gen i ofn bod cryn amser i fynd nes y gwnaiff Lowri’r Luddite feistroli’r ddawn dechnolegol honno , ac felly yr unig beth sydd ar ôl i wneud yw i daeru ar gwmnïau cyhoeddi ledled Cymru i fachu ar y cyfle i gael sit-down bach da Jarman a chyhoeddi cyfrol gyfan o eiriau caneuon gan y dyn sydd nid yn unig yn gerddor a hanner, ond yn bencerdd Penylan.

Serge Gainsbourg – fy hoff ganeuon

Er mwyn deall a gwerthfawrogi cerddoriaeth Serge Gainsbourg maen bwysig eich bod chi’n astudio ei gefndir a’i fywyd fel cerddor, a dewch chi ddarganfod bod Serge ymhell o flaen ei amser.

Cafodd Serge ei eni ym Mharis ym 1928; roedd ei rieni yn Iddewon ac felly adeg yr Ail Ryfel Byd roedd rhaid i’w deulu ffoi oddi wrth y Natsiaid. Maen debyg bod hyn wedi sbarduno Serge i baentio a chyfansoddi caneuon. Cyn ei fod yn 30 daeth yn enwog am ei ddarluniau ac am chwarae piano; daeth hefyd yn enwog am ei garwriaethau a’i dalent o hudo merched ifanc.

Yn wir, oherwydd ei obsesiwn efo merched cyfansoddodd gerddoriaeth gwahanol, rhwng 1951 ac 1986, roedd Serge wedi priodi 3 gwaith a wedyn cael un carwriaeth a perthynas, cyfanswm o 5 merch gwahanol. Cafoddd Serge cyfanswm o 6 o blant bron bob un gyda Mam gwahanol. Felly roedd yn ddyn ‘lliwgar’ iawn.

Ysgrifennodd y rhan fwyaf o’u ganeuon am ferched a rhyw, ac yng nghanol y 60au creodd dipyn o stwr yn Ffrainc oherwydd iddo ysgrifennu cân am ‘oral sex’, peth hollol anfoesol i’w wneud o ystyried ei gefndir crefyddol ar oes yr roedd wedi cael ei fagu ynddo. Enw’r gân yw ‘Les Succettes” (Lollipop), sef un o fy hoff ganeuon i , oherwydd ei fod yn wahanol ac yn wneud i mi chwerthin oherwydd yr holl helynt greodd y gân yn Ffrainc yn yr 60au ac bod France Gall, bachgen ifanc oedd yn canu’r gân yn meddwl mae cân diniwed am ‘lollipops’ oedd hi!

Ym 1969 creodd rhagor o stwr, wedi iddo rhyddhau cân oedd yn cynnwys synnau rhywiol, Je T’aime… Moi Non Plus. Roedd Serge yn credu bod y gân yn rhamantaidd ac yn dangos ei gariad tuag at Brigitte Bardot, ond gwrthododd hi rhyddhau’r gân gyda merch yr oedd wedi cael ‘affair’ gyda tra roedd o gyda Brigitte sef yr gantores ag actores enwog Jane Birkin. Cafodd y gân ei wahardd mewn sawl gwlad, ac roedd rhaid i’r gân gael ei addasu i beidio a cynnwys synnau mor anweddus yn Ffrainc. Dyma’r gân, sy’n glasur o gân yn fy marn i…

Er bod y ddwy gân uchod yn glasuron, ni allwch son am Serge Gainsbourg heb ei glodfori am yr albym Historie de Melody Nelson, rwyf wedi gwrando ar yr albym sawl gwaith, maen wych! Maen cynnwys offerynnau llinynnol a hyd yn oed Côr ar y diwedd a chymysgedd o gerddoriaeth electroneg,gan ddangos gwir talent Serge fel cyfansoddwr. Maer albym wedi bod yn ysbrydoliaeth i nifer o gerddorion, Air, David Holmes, Jarvis Cocker a mwy…! Maen anodd pigo cân oddi ar albym lle mae pob un cân yn dda, ond er mwyn i chi gael rhagflas ohoni credaf mae hon yw’r gân mwyaf ‘catchy’.

Ym 1978, aeth i Jamaica i wneud fersiwn reggae o anthem cenedlaethol Ffrainc Les Marseillaise gyda Robbie Shakespeare, Sly Dunbar a Rita Marley. Credaf mae dyma yw’r ffordd orau i orffen yr erthygl er cof am Serge ’91.

Black Uhuru, Cymru Ddu a reggae yng Nghaerdydd

Da iawn i Cymru Ddu am hybu cyngherddau reggae ardderchog yn y brifddinas.

Paid anghofio’r gig Mykal Rose o Black Uhuru yn The Globe fory!

Neu digwyddiadau eraill gan Cymru Ddu.

Gyda llaw ro’n i’n gyted i golli’r gig Wailing Souls yng Nghaerdydd mis diwethaf. (Aeth unrhyw un?)