Dyma i chi’r nofel ffuglen wyddonol Y Dydd Olaf gan Owain Owain, ar gael i’w lawrlwytho – am ddim:
(Diweddariad 5 Awst 2016: diolch i Stanno am greu’r ePub.)
Cyhoeddwyd y nofel yn wreiddiol ym mis Rhagfyr 1976 gan gwmni Christopher Davies, Abertawe gyda rhagair gan Pennar Davies.
Yn ôl Miriam Elin Jones ar flog Gwyddonias sydd yn ystyried y nofel fel rhif 1 ar ei siart nofelau ffuglen wyddonol Cymraeg:
Dyma nofel wreiddiol yn y Gymraeg, a nofel fydd yn eich syfrdanu. Gwelwn ddarnau o stori Marc ar ffurf pytiau o lythyron a dyddiaduron, wedi eu hachub o archif ddirgel. Yn nyfodol tywyll Marc, treulia diwrnodau olaf y mileniwm mewn Cartref Machlud yn cael ei gyflyru gan ryw ‘Nhw’ dirgel, gan edrych yn ôl ar ei fywyd cyn ffarwelio am y tro olaf…
Mae’n stori am gariad ac am frad ac am berygl peiriannau a’r bywyd modern. Gwelwn ddylanwad Brave New World a 1984 (wedi eu cyfieithu i ‘Bywyd-Newydd-Braf’ a ‘Mil-Naw-Wyth-Pedwar’) yn eglur iawn, wrth iddynt gael eu trafod fel testunau gwaharddedig. Ar adegau, mae ei harddull pytiog, sy’n neidio mewn amser yn gwneud hi’n anodd dilyn y stori, (Serch hynny, mae’n haws o lawer i’w darllen nag Un Nos Ola Leuad…) fodd bynnag, rhowch ail gyfle i’r nofel hon, clasur Cymraeg, heb os.
Ers 1976 mae’r stori wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r albwm cysyniadol o’r un enw gan Gwenno.
Ond hyd yn hyn mae hi wedi bod yn anodd iawn cael gafael ar gopi o’r llyfr hwn (fel y mae Elidir o Fideo Wyth yn dweud yn ei adolygiad). Dyna’r sefyllfa bresennol o ran sut gymaint o weithiau creadigol eraill yn Gymraeg, yn anffodus.
Dw i’n siŵr y bydd ffyrdd eraill o ddarllen y nofel nes ymlaen, i’r rhai sydd am gael fformatiau eraill (ac o bosib, ieithoedd eraill?).
Ceir ragor o wybodaeth am awdur y nofel – llenor, gwyddonydd, darlithydd, ymgyrchydd, dylunydd logo Tafod y Ddraig, tad, taid, a mwy – ar dudalen Owain Owain ar Wicipedia.
Diolch o galon i Robin Owain a’i deulu am rannu gwaith mor arloesol gan nofelydd mor flaengar ac i’r Llyfgell Genedlaethol am ei sganio.
Diolch anferthol i Robin am ganiatàu hyn!
Carl – falla sa’n werth rhoi “(269MB)” ar ôl y linc i lawrlwytho’r PDF. Ia, dwi’n gwybod fod dropbox yn nodi hynny, ond dal…
Hei Illtud – ie, awgrymiad da.
Fyddai modd gwneud hyn ar gael mewn format e-lyfr megis epub?
Richard – gobeithio. Dyna’r sgwrs ar hyn o bryd!
Wedi lawrlwytho!
Gwych. Darllenais yn ddiweddar. Copi Llyfrgell Dinas Caerdydd. Roedd rhaid imi ei ddychwelyd ar frys oherwydd fod rhywun arall am ei ddarllen. Neb llai na Colin Nosworthy! Mae’n nofel fendigedig. Wedi ei sgwennu oddeutu 1976. Mae’n edrych yn ol i 1948 ac ymlaen i 1984 ac hyd yn oed y ddegawd hon. Codi pwyntiau pwysig am heneiddio, gofal ac ymgyrchu, ymhlith amryw o bynciau eraill. Mwynheais llawn cystal a’r clasur dystopaidd/utopaidd arall Cymraeg sef ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ sydd hefyd yn haeddu fwy o sylw beirniadol.