
Mae taith Make Noise eisoes wedi ymweld â Chaerdydd. Mae hi’n gysyniad eithaf syml – gig electroneg i hybu ailgylchu electroneg.
Mewn geiriau eraill mae mynediad AM DDIM i unrhyw un sy’n dod ag hen offer trydanol i’w ailgylchu, megis hen ffôn, cyfrifiadur sy wedi torri, tostiwr marw, ac ati – unrhyw beth gyda phlwg neu fatri.
Fel aelod achlysurol o griw Nyth DJs byddaf i’n troelli tiwns ar rai o’r dyddiadau ar y daith hon. Dw i hefyd yn helpu ei hyrwyddo. Dyna’r datganiad o ddiddordebau, nawr dyma’r manylion…
- Nos Wener 14 Hydref: Stealing Sheep, R.Seiliog, Mwstard
 Y Parot, Caerfyrddin
 ar Facebook
- Nos Wener 21 Hydref: Stealing Sheep, R.Seiliog, Ani Glass
 Le Pub, Casnewydd
 ar Facebook
- Nos Sadwrn 22 Hydref: Gallops, Braids, Accu, The Contact High
 Gwdihw, Caerdydd (fel rhan o Ŵyl Sŵn)
 ar Facebook
- Nos Sul 23 Hydref: Stealing Sheep, Melt Yourself Down, Tender Prey, Amber Arcades, Jordan Mackampa, Rhain, Joseph J Jones, Tail Feather, Adverse Camber (ie, rhain i gyd)
 O’Neill’s, Caerdydd (fel rhan o Ŵyl Sŵn)
 ar Facebook
- Nos Sadwrn 12 Tachwedd: Stealing Sheep, R.Seiliog
 Rummers, Aberystwyth
 ar Facebook
- Nos Wener 25 Tachwedd: Stealing Sheep, R.Seiliog
 Clwb Y Bont, Pontypridd
 ar Facebook
Mae pob dyddiad hefyd yn cynnwys troellwyr tiwns o griwiau Heavenly Jukebox a Nyth. Dewch os ydych chi’n gyfagos!
