Yng nghanol y tristwch, y dicter a’r edifarhau, mae’n naturiol bod y trafod o amgylch hunanladdiad Carl Sargeant yn cael ei nodweddi gan y dyhead i ddeall beth ddigwyddodd a sicrhau ymateb sy’n gwneud cyfiawnder a’i fywyd – a bod rhyw ddaioni yn dilyn o’r trasiedi. Mae’n naturiol hefyd na fydd y sgyrsiau yma’n rhai hawdd, ac y bydd geiriau dig a safbwyntiau gwrthwynebus yn cael eu hamlygu.
Mewn amgylchiadau o’r fath mae’n bwysig, wrth gwrs, ceisio sicrhau nad yw’r dyheadau yma’n cael eu tanseilio gan natur y trafod, ac yn aml mae hyn yn haws i’r sawl nad sydd yn ei chanol hi. Nid syndod, efallai, mai Leanne Wood sydd wedi cynnig y sylwadau mwyaf adeiladol dros yr wythnos ddiwethaf, nid yn unig oherwydd bod ei chwmpawd moesol gyda’r un mwyaf cywir fel arfer, ond oherwydd ei bod hi’n edrych mewn o’r tu allan i raddau.
Erbyn hyn mae llawer o’r trafod – neu hapdamcaniaethu – yn ymwneud â dyfodol y Prif Weinidog Carwyn Jones. Eto mae hyn yn naturiol o dan yr amgylchiadau ac mae yna gwestiynau i’w hateb.
Un o’r elfennau mwy dyfaliadol sydd ymhlyg yn y trafod yw’r awgrym ei fod rhywsut yn gyfrifol am farwolaeth ei gyfaill; nid yw hyn wedi cael ei ddatgan fel y cyfryw ond mae rhywun yn synhwyro ei fod yn is-destun i’r ffaith ei fod dan y lach. Ac os nad dyna yw’r ensyniad, ‘does yna ddim rhyw lawer o ymdrech wedi bod i egluro hynny.
Gall trafodaeth o’r hyn rydym yn meddwl wrth ‘gyfrifoldeb’ fod o help yn y cyswllt yma. Gallwn nodi o leiaf bedwar math gwahanol o ‘gyfrifoldeb’ all fod yn berthnasol.
Y cyntaf yw cyfrifoldeb ‘canlyniad’. Mae rhywun yn gyfrifol yn yr ystyr hwn, pan fyddwn yn priodoli canlyniadau’r weithred i’r person hwnnw – mewn ffordd sy’n golygu y dylent ysgwyddo rhywfaint o’r baich o leiaf. Efallai y bydd gofyn iddynt wneud yn iawn am y niwed mewn rhyw ffordd, er enghraifft.
Oherwydd y goblygiadau posib o ran cost, rydym yn tueddu priodoli cyfrifoldeb o’r fath yng ngoleuni’r hyn y mae’n rhesymol i’w ddisgwyl gan bobl; felly pe bai angen gallu goruwchnaturiol i osgoi canlyniad o’r fath, nid ydym yn ystyried bod cyfrifoldeb ‘canlyniad’ yn berthnasol.
Fodd bynnag, nid yw cyfrifoldeb o’r fath yn lleihau neu ddiflannu oherwydd gallu cyfyngedig – dyweder bod rhywun yn anghymwys neu’n anghyson yn ei weithredoedd. Ni fyddai’r amgylchiadau yma’n osgoi cyfrifoldeb canlyniad (os ydych chi’n berson lletchwith sy’n tueddi at ddamweiniau, peidiwch â threulio eich diwrnodau mewn siopau tsiena).
Ac eto, yn y pen draw, nid yw cyfrifoldeb canlyniad yn ymwneud ag adnabod bai; yn hytrach mae’n ymwneud â chydnabod pan mae gweithredoedd rhywun wedi dod â chostau uniongyrchol, neu yn anfwriadol, mewn modd y gellid ei resymol rhagweld.
Mae cyfrifoldeb moesol yn fwy llym, gan gynnwys barn foesol ar y person dan sylw -gan osod bai arnynt – ac yn yr ystyr negyddol hwn yn awgrymu bod yna wendid neu ffaeleddau moesol pendant yn perthyn i’r person hwnnw yng nghyswllt ei weithredoedd.
Byddwn hefyd yn siarad weithiau yn nhermau’r hyn a elwir yn gyfrifoldeb ‘adfer’, lle yr ydym am adnabod pwy all fod mewn sefyllfa i unioni neu adfer cam. Weithiau mae modd adnabod y sawl sy’n foesol gyfrifol, neu sydd â chyfrifoldeb canlyniad, ond weithiau bydd y bobl hynny yn analluog i fynd i’r afael â’r mater. Mewn achos o’r fath byddwn yn ceisio adnabod y sawl sydd yn y sefyllfa gorau i weithredu – nhw fydd a chyfrifoldeb adfer.
O un persbectif, efallai y byddai rhai am awgrymu bod gennym enghraifft o gyfrifoldeb canlyniad neu gyfrifoldeb moesol yn yr achos trist yma: gweithredoedd neu gamgymeriadau y mae’n rhaid i’r Prif Weinidog ysgwyddo’r baich amdanynt. Fodd bynnag, wrth hawlio hynny byddai rhaid rhagdybio y gallai ragweld yn rhesymol ganlyniadau posibl ei weithredoedd.
Dyma le mae angen troi at y pedwerydd syniad o gyfrifoldeb sy’n berthnasol i’r amgylchiadau – sef cyfrifoldeb ‘achosol’. Mae cyfrifoldeb o’r math yma yn llawer ‘ehangach’ na chyfrifoldeb ‘canlyniad’ neu ‘foesol’ – oherwydd mae’n gyfrifoldeb sydd yn berthnasol i ganlyniadau sy’n codi mewn ffyrdd anarferol neu anrhagweladwy.
Os ydym yn taflu carreg fechan dros ochr clogwyn sy’n creu tirlithriad, efallai ein bod ni’n rhannol gyfrifol am y canlyniadau mewn ystyr achosol, ond nid ydym yn ‘ganlyniad’ neu’n ‘foesol’ gyfrifol. Nid yw’r canlyniad yn rhagweladwy neu’n awgrymu bai moesol ar ein rhan ni. Yma, efallai y byddwn yn honni bod gweithredoedd rhywun wedi achosi canlyniad penodol yn rhannol, ond ni allwn ddisgwyl iddynt ddwyn unrhyw gostau na chymryd y bai mewn ystyr moesol.
Yn anffodus, yr hyn y gallwn ei ddweud gyda sicrwydd yw bod cyfrifoldeb ‘adferol’ yn amherthnasol yn yr achos sydd ohoni. Ni allwn unioni neu adfer y sefyllfa. Ni ddaw Carl Sargeant yn ôl. Ni fydd dicter, pwyntio bys nac ymddiswyddiadau yn llwyddo yn yr ystyr yma.
Efallai mai’r gorau y gallwn ni ei wneud yw ymddwyn ac ymateb i hyn i gyd mewn ffordd sy’n parchu ei gof, ac yn ceisio sicrhau na fydd unrhyw drasiedïau pellach yn digwydd. Gall hyn cynnwys craffu ar y mesurau presennol sydd gan y Cynulliad a’r pleidiau er mwyn delio gydag achwynion.
Llun adeilad y Senedd gan Rtadams (CC BY)