Ar gyrion rhanbarth Sir Abertawe mae pentref Felindre. Fe’i henwyd ar ôl melin ddŵr sydd yn sefyll o hyd ar sgwâr canolog y pentref. Yno hefyd mae’r pethau y disgwylir eu gweld mewn pentref gwledig yng Nghymru – tafarn, capel a’i aelodaeth yn gwywo, ac ysgol. Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Ysgol gymunedol, fach yw hi. Roedd rhyw 30 o blant yn mynychu pan oeddwn i’n blentyn, ac mae’r niferoedd wedi amrywio dros y blynyddoedd, gan godi a gostwng.
Rwy’n meddwl bod mynychu’r ysgol honno wedi cael effaith fawr ar sut rwy’n gweld Cymru. Roedd yn feicrocosm o’r amlddiwylliannedd cynnil sydd yn bodoli oddi fewn i boblogaeth ein gwlad. Dydw i ddim yn sôn am hil na chrefydd – roedden ni i gyd yn blant bach gwyn â thraddodiad Cristnogol yn ein teuluoedd – ond yn hytrach sôn am ein cefndiroedd ydw i. Roedd plant ffermwyr, plant breintiedig doctoriaid Saesneg, plant o gefndiroedd difreintiedig, a phlant dosbarth canol Cymraeg fel minnau i gyd yn cydfodoli o fewn y paradocs o ysgol yma oedd yn wledig a Chymraeg a chymunedol, er mai dim ond 6 milltir o ganolfan ddinesig a gweddol Seisnig Abertawe ydoedd.
Yr hyn sy’n fy mhoeni i, a’r rheswm pam y mae’n bwysig sôn am Felindre ar hyn o bryd, yw nad oes cartref i’r paradocs hwn o fewn naratifau presennol y Mudiad Cenedlaethol. Nid yw’n gorwedd yn gysurus o fewn unrhyw esboniad o ‘Arfor’ rydw i wedi dod ar ei draws, nac ychwaith yn medru cael ei gynnwys yn rhan o’r dadeni diweddar o genedlaetholdeb ymhlith cymoedd ôl-ddiwydiannol Cymru. Rwy’n tybio mai’r rheswm am hyn yw parhad, gan y ddwy garfan, o duedd i weld ei gilydd fel rhywbeth ‘arall’. Mae’r naill a’r llall yn arddel ei gilydd fel ‘dosbarth gweithiol di-Gymraeg y de’ a ‘North Wales Welsh Speakers’. Ond nid ydynt yn cydnabod hunaniaeth dosbarth ac iaith pobl nad ydynt yn cwympo i’r categorïau hyn, fel rhai o fy hen ffrindiau ysgol – dosbarth gweithiol naturiol Gymraeg De Cymru.
Mae Felindre’n cael ei cholli ymysg y diffiniadau deuol hyn o ddiwylliannau Cymru. Nid dim ond Felindre ychwaith, ond cymunedau eraill Cymraeg tebyg, fel Brynaman, Alltwen, Y Tymbl, Y Bynie, Pontsenni, Yr Hendy i enwi ond rhai. Mae’r rhain yn gymunedau sy’n bodoli rhwng hegemoni clir ‘Arfor’ a ‘The Valleys’. Nid yw profiadau’r cymunedau hyn yn medru cael eu categoreiddio’n dwt ac yn deidi. A chyhyd â bod pobl yn parhau â’r ffurfiau gor-syml hyn o ddisgrifio Cymru, bydd cymunedau tebyg yn cael eu gadael ar ôl.
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre nawr o dan fygythiad o gael ei chau. Byddai hyn yn fwy na diwedd ar ysgol, mi fyddai’n ddiwedd ar gymuned Gymraeg, gynhenid na ddylid, yn ôl y ffordd y mae rhai pobl yn meddwl am Gymru, fodoli. A chan mai dyma’r disgwrs sy’n amgylchynu cenedlaetholdeb Gymraeg ar hyn o bryd, nid yw’n bodoli, i bob pwrpas. O fy rhan i, rwyf am sicrhau nad yw sylfaen fy addysg yn Ysgol Felindre yn cael ei anwybyddu na’i anghofio.
Gadewch sylw isod os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r ymgyrch.
Diddorol – yn arbennig gan mai dyma fro fy hynafiaid innau. Ond a oes raid ‘categoreiddio’ mor llym a thrafod bocsus yn hytrach na phobl?
Diolch am eich sylw, Nia.
Roeddwn i eisiau cadw persbectif eithaf cyffredinol o’r pentref wrth ysgrifennu’r darn. Y mae lle, wrth gwrs i adrodd hanesion unigolion sy’n byw yn Felindre, ac awgrymu sut y mae eu bywydau nhw’n tanseilio’r naratifau yr oeddwn yn eu trafod yn y darn. Rhywbeth i wneud yn y dyfodol o bosib.
Diolch iti am dynnu sylw at hyn. Ro’ni mewn cyfarfod gyda swyddogion y sir, ar ran RhAG, bythefnos yn ôl pan drafodwyd sefyllfa’r ysgol. Cawsom wybod mai 15 disgybl sydd yno ac o’r rhain ond 4 sy’n byw yn nalgylch yr ysgol. Daw eraill o ddalgylchoedd Gellionnen, Lôn-las a Bryn-y-môr ac maent wrth gwrs yn byw’n nes at yr ysgolion hynny. Yr hyn y mae angen ei holi, mae’n debyg, yw nid pam mae’r sir am ystyried cau Felindre, ond beth sydd wedi digwydd i Gymreictod y pentre ac i’r ysgol yn sgil hynny. Bydd y sir yn cynnig adeilad newydd i Ysgol Tan-y-lan (gweler Wilia’r mis hwn) gyda lle i 60 o blant bob blwyddyn, a’r ysgol honno ar ystâd y Clas.