Felindre a’r cwestiwn cenedlaethol

Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre

Ar gyrion rhanbarth Sir Abertawe mae pentref Felindre. Fe’i henwyd ar ôl melin ddŵr sydd yn sefyll o hyd ar sgwâr canolog y pentref. Yno hefyd mae’r pethau y disgwylir eu gweld mewn pentref gwledig yng Nghymru – tafarn, capel a’i aelodaeth yn gwywo, ac ysgol. Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Ysgol gymunedol, fach yw hi. Roedd rhyw 30 o blant yn mynychu pan oeddwn i’n blentyn, ac mae’r niferoedd wedi amrywio dros y blynyddoedd, gan godi a gostwng.

Rwy’n meddwl bod mynychu’r ysgol honno wedi cael effaith fawr ar sut rwy’n gweld Cymru. Roedd yn feicrocosm o’r amlddiwylliannedd cynnil sydd yn bodoli oddi fewn i boblogaeth ein gwlad. Dydw i ddim yn sôn am hil na chrefydd – roedden ni i gyd yn blant bach gwyn â thraddodiad Cristnogol yn ein teuluoedd – ond yn hytrach sôn am ein cefndiroedd ydw i. Roedd plant ffermwyr, plant breintiedig doctoriaid Saesneg, plant o gefndiroedd difreintiedig, a phlant dosbarth canol Cymraeg fel minnau i gyd yn cydfodoli o fewn y paradocs o ysgol yma oedd yn wledig a Chymraeg a chymunedol, er mai dim ond 6 milltir o ganolfan ddinesig a gweddol Seisnig Abertawe ydoedd.

Yr hyn sy’n fy mhoeni i, a’r rheswm pam y mae’n bwysig sôn am Felindre ar hyn o bryd, yw nad oes cartref i’r paradocs hwn o fewn naratifau presennol y Mudiad Cenedlaethol. Nid yw’n gorwedd yn gysurus o fewn unrhyw esboniad o ‘Arfor’ rydw i wedi dod ar ei draws, nac ychwaith yn medru cael ei gynnwys yn rhan o’r dadeni diweddar o genedlaetholdeb ymhlith cymoedd ôl-ddiwydiannol Cymru. Rwy’n tybio mai’r rheswm am hyn yw parhad, gan y ddwy garfan, o duedd i weld ei gilydd fel rhywbeth ‘arall’. Mae’r naill a’r llall yn arddel ei gilydd fel ‘dosbarth gweithiol di-Gymraeg y de’ a ‘North Wales Welsh Speakers’. Ond nid ydynt yn cydnabod hunaniaeth dosbarth ac iaith pobl nad ydynt yn cwympo i’r categorïau hyn, fel rhai o fy hen ffrindiau ysgol – dosbarth gweithiol naturiol Gymraeg De Cymru.

Mae Felindre’n cael ei cholli ymysg y diffiniadau deuol hyn o ddiwylliannau Cymru. Nid dim ond Felindre ychwaith, ond cymunedau eraill Cymraeg tebyg, fel Brynaman, Alltwen, Y Tymbl, Y Bynie, Pontsenni, Yr Hendy i enwi ond rhai. Mae’r rhain yn gymunedau sy’n bodoli rhwng hegemoni clir ‘Arfor’ a ‘The Valleys’. Nid yw profiadau’r cymunedau hyn yn medru cael eu categoreiddio’n dwt ac yn deidi. A chyhyd â bod pobl yn parhau â’r ffurfiau gor-syml hyn o ddisgrifio Cymru, bydd cymunedau tebyg yn cael eu gadael ar ôl.

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre nawr o dan fygythiad o gael ei chau. Byddai hyn yn fwy na diwedd ar ysgol, mi fyddai’n ddiwedd ar gymuned Gymraeg, gynhenid na ddylid, yn ôl y ffordd y mae rhai pobl yn meddwl am Gymru, fodoli. A chan mai dyma’r disgwrs sy’n amgylchynu cenedlaetholdeb Gymraeg ar hyn o bryd, nid yw’n bodoli, i bob pwrpas. O fy rhan i, rwyf am sicrhau nad yw sylfaen fy addysg yn Ysgol Felindre yn cael ei anwybyddu na’i anghofio.

Gadewch sylw isod os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r ymgyrch.