Gorfoledd Ani Glass

O, droednodyn! / Dyna i ti ddegawd sydyn
Ani Glass, Y Cerrynt

Mae lot wedi digwydd yn yr hanner-degawd ers i sugar-rush Ffôl a Little Things gyhoeddi Ani Glass fel un o artistiaid pop mwya gwerthfawr ein hamser, a gellir dadlau bod lot wedi digwydd yng Nghaerdydd yn enwedig. Gwelwn adeiladau’n diflannu ac yn codi o ddim bob dydd, yn shapeshiftio mewn i fflatiau gwag a bars drud neu’n gadael dim ond gwacter a phentyrrau o ddwst. Mae cost dynol ac ecolegol ein hoes o gyflymu a hyperddatblygu i’w weld yn fyw, mewn fast-motion cysglyd, bob eiliad ry’n ni’n byw a bod yng Nghaerdydd, ac mae pop a ffotograffiaeth Ani Glass wedi ei diwnio mewn i’r cyflwr yma yn fwy pwerus na gwaith bron i unrhyw artist arall galla i enwi.

Mae Mirores, record hir gyntaf Ani wedi cyfres o senglau ac EPs, yn teimlo fel ystum o garedigrwydd, rhodd, i’r rheiny sy’n mynnu gweld ein dinas lwyd mewn lliw. Mae’n gasgliad o diwniau a soundscapes di-amser sy’n portreadu bywyd dinesig cyfoes trwy kaleidosgop electropop sy’n benthyg yn rhyddfrydol o genres, sampls a dylanwadau. Fel holl waith Ani Glass, mae cymysgfa o ddistryw a gorfoledd yn gyrru’r albym. Dyma gerddoriaeth pop i’n hinsawdd o benbleth a remix, ein hoes o gael ein sugno o gwmpas ein dyddiau gan rymoedd anweledig, holl-bwerus. Hunan-gynhyrchodd Ani’r albym wrth iddi gyflawni gradd ymchwil mewn i ddatblygu trefol, ac mae stamp dealltwriaeth rymus o sut mae bywyd dinas yn cael ei siapio i’w glywed dros yr albym. Mae wedi crybwyll creu rhyw fath o daith fws byddai’n darlunio’r ffaith bod pob trac ar yr albym yn perthyn i leoliad penodol yng Nghaerdydd.

Ar adegau, mae Mirores yn teimlo fel bloedd am fyd mwy teilwng, neu o leiaf un mwy dealladwy, ond mae’n gyfanwaith digon deallus i gysgodi unrhyw bolemic gyda sensibiliti sy’n breintiau naws a delwedd drwy pob cân. Yn y deunydd i’r wasg sy’n dod gyda’r albym, mae Ani’n son am ddylanwad Agnes Martin, darlunydd sy’n adnabyddus am ei pherthynas ag arafrwydd a’r distaw. Wrth wrando ar yr interludes sy’n dotio Mirores dwi’n gwerthfawrogi’r cyfeiriad; mae yma brysurdeb dinas 24/7 ond hefyd ofod sy’n ein gorfodi i gamu ‘nol a myfyrio.

Wedi ei gymryd fel dim ond pop pur, mae Mirores yn gampwaith. Mae’n bosib mae Agnes yw ei chân fwyaf heintus ac annisgwyl hyd yma, ac mae hooks o bron i bob cân wedi bod yn fy stelcio fesul un yn yr wythnosau ers i mi dderbyn yr albym yn fy inbox. Mae’n albym digon cryno i’ch gorfodi i wrando arno fel un cyfanwaith bob tro, ac erbyn i’r caneuon olaf rheiny weu eu ffyrdd o gwmpas eich ymennydd – Beth yw’r gaeaf heb yr haf Beth yw’r gaeaf heb yr haf Beth yw’r gaeaf heb yr haf – mae symffoni dinesig Ani Glass, ei gwir ddatganiad, blynyddoedd ar waith, yn mynnu eich bod yn mynd nol i’r dechrau eto.

Mae Mirores gan Ani Glass ar gael trwy Recordiau Neb nawr, ar Spotify, Bandcamp, a gwasanaethau eraill.