Huw Aaron yn dweud:
Dwi’n awyddus iawn i ffindo mwy o bobl sy’n creu straeon stribed/comics yn y Gymraeg. Mae’n hen bryd gael rhyw fath o ‘sîn’ comics yn y Gymraeg, ond wrth chwilio ar Google, yr unig pethe sy’n troi lan yw Dalen (sy’n gwneud gwaith da iawn o gyfieithu comics Ffrengig i’r Gymraeg), a stwff fi! […]
Darllena’r cofnod blog llawn gan Huw yma – gyda’r fersiwn llawn o’r cartwn gyda Osian Rhys Jones.
Mae hwn mor cwl – licio’r manylder a’r mood tywyll – fatha cymeriadau Gorillaz.
Roedd @CestyllChris yn dablo mewn cartwns ‘slawer dydd: http://www.cartwnflog.blogspot.co.uk/
Siwr bod @ifanmj a @simondyda wedi dangos diddordeb mewn cartwns yn y gorffennol ‘fyd (ar unai meas-e neu eu blogiau)
Hefyd, mae yna gartwns reit bachog yn ymddangos yn Barn, Y Cymro a Fanner Newydd o bryd i’w gilydd – dim syniad gan bwy. Debyg mai boi/bois Seren Tan Gwmwl oedd/sydd yn gyfrifol am un Y Faner Newydd. Byddai sganio a chyhoeddi’r rhain (gyda chaniatad) ac unrhyw newydd ganddot (Huw) yn ddechreuad.
Mae traddodiad o gartwns (gwleidyddol ac am hwyl) yn ymddangos yn gryf yn niwylliant iaith Basgeg a Llydaweg
http://www.berria.info/zintak/ paur dyddiol Basgeg
Hefyd Rhodri Owen: http://www.osgograffi.com/page13.htm#90981