Cymru, cenedlaetholdeb ‘cul’ a Carwyn Jones: fy safbwynt i

Mae’r term ‘narrow nationalist’ wedi cael ei ddefnyddio hyd at syrffed yn y gorffennol i ddisgrifio cenedlaetholwyr Cymreig, yn enwedig gan ein cyfeillion goleuedig yn y Blaid Lafur.

Mudiad pwyso ceidwadol ydy Plaid Cymru wedi bod erioed i ‘internationalists’ y Blaid Lafur, ac mae’n amlwg bod y term wedi cael ei adfywio yn ddiweddar gan ein hannwyl Brif Weinidog.

Roedd y Western Mail yn ystyried y datganiad yn ddigon pwysig i’w brintio y diwrnod wedi’r etholiad, ac erbyn diwedd yr wythnos roedd hyd yn oed Andrew RT Davies wedi defnyddio’r term i ddisgrifio Leanne Wood unwaith eto.

carwyn-jones-western-mail-narrow-nationalism

Mae Cymru’n un o wledydd tlotaf Ewrop, gyda’r gorllewin a chymoedd y de ymhlith yr ychydig rhanbarthau yng ngorllewin Ewrop sy’n derbyn cymorthdaliadau Ewropeaidd i ardaloedd tlawd. Mae’n hiaith o dan warchae parhaol gyda rhyw sylwadau ymfflamychol yn dod i olwg y cyhoedd bron bob yn ail wythnos. Bydd yn rhaid brwydro hyd at syrffed i gyrraedd sefyllfa lle y cawn ein parchu i’r un raddau â’r Alban neu hyd yn oed Gogledd Iwerddon.

Mae cymaint o resymau pam rwy’n galw fy hun yn genedlaetholwr, ond y rheswm pennaf yw fy mod am i Gymru gael ein trin fel cenedl normal, lle nad oes rhaid brwydro bob dydd am yr hawl i gael ein cydnabod.

Rwy’n gallu deall bod Carwyn, sydd heb ronyn o uchelgais dros Gymru, ac sy’n elwa’n etholiadol o gadw Cymru’n dlawd, yn gallu difrïo’r term ‘nationalist’ i ddisgrifio pobl sydd am newid radical i’r status quo.

Fodd bynnag, fedra i ddim derbyn cael fy ngalw yn berson ‘cul’ am eisiau’r gorau i ‘nghenedl. Rwy’n siarad chwe iaith, wedi byw mewn tair gwlad wahanol ac mae gen i ffrindiau ar bedwar cyfandir.

Y person cul, yn yr achos hwn, yw’r Prif Weinidog ei hun – yn rhy gul i weld heibio i’w fyd bach cysurus ei hun ar yr argyfwng economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol sy’n taro ein cenedl.