Dinas y digwyddiadau – dinas di enaid

Ychydig dros flwyddyn yn ôl er mwyn ennill ychydig o arian fe fues i yn gweithio i Gyngor Dinas Caerdydd – roedd o yn teimlo fel tawn i’n gwerthu fy enaid – ond dyna fo mae pawb isho byw! Rhwng y paneidiau di bendraw a’r dydd-fyfyrio fe glywais sôn am “unofficial tag-line” roedd y ddinas yn ceisio ei mabwysiadu. “Dinas y digwyddiadau”. Chware teg ‘ro’n i’n credu bod y teitl yma yn un fyddai’n ffitio i’r dim.

Wedi’r cyfan mae’r brifddinas wedi dangos i’r byd ar sawl achlysur ei fod yn lle delfrydol i gynnal digwyddiadau o bob math: Gem derfynol y Cynghrair y Pencampwyr, gemau cwpan Rygbi’r byd, Ras Fôr Volvo, gornestau bocsio, cyngherddau enfawr fel Beyonce heb son am Steddfod i’w chofio. Mae’r ddinas fel llechen gyfleus y mae modd darlunio arni a gosod pa bynnag ddigwyddiad neu firi sydd ei angen – mae’n llwyddo i dicio y bocsus cywir – ddim yn Llundain, cysylltiadau trafnidiaeth gweddol (peidiwch dechra fi ar hwn), dogn o hanes “By the way we have a castle but we’ve built over the rest; if you could just throw in a few Welsh phrases that would be wonderful. The locals love that.” A mae nhw’n gywir, da ni ddinasyddion yn dwli ar gael y digwyddiadau bondigrybwyll ‘ma, achos ei fod yn “rhoi Caerdydd ar y map” ac mae hynny i rai yn hanfodol i’w hunan werth.

Does gen i ddim llawer o wrthwynebiad i roi Caerdydd ar y map a cheisio meddiannu’r teitl “ail ddinas y Deyrnas Unedig” – mae’n braf gweld uchelgais am unwaith, ond, yn anffodus y mae’r uchelgais yma yn dod ar draul dieithrio diwylliant cynhenid. Yn ôl yr hyn dwi’n ei weld mae Caerdydd yn troi yn araf bach yn gragen i granc meudwyol gael cartref dros dro ynddi ac yn lle i ambell gwmni mawr sydd ond yn rhy barod i symud i rywle arall pan fo’r heip yn pylu. Mae’n ddinas sy’n cynnig y stop olaf i fandiau sy’n heneiddio, yn ddinas y meysydd parcio a fflatiau moethus i fyfyrwyr ac yn ddinas sydd a’i bryd ar dyfu heb gyfri’r wir gôst. Tybed a ydi Cyngor Caerdydd yn ceisio rhoi’r drol o flaen y ceffyl ac yn ceisio codi tyrrau ar sylfaeni simsan?

Mae’r cyhoeddiad cyffrous llynedd o droi’r ddinas yn grochan cerdd bellach yn ganiad ansoniarus. Ymddengys yn awr bod ceidwaid tân y crochan hwn wedi penderfynu ei adael i ddiffodd. Nid yn unig gwarchod yw gwaith Cyngor ond cynllunio a rhagweld. Mae Caerdydd fel pob dinas fyrlymus dan warchae y datblygwyr a’r buddsoddwyr. Mae gan y tirfeddiannwr ei hawliau ond mae gan y ddinas ei chymeriad a Chyngor ei chyfrifoldebau ac y mae’n atebol i’w dinasyddion. Dangoswyd bod ewyllys y bobl yn drech nag arglwyddi’r wlad pan achubwyd Stryd Womanby. A fedrir gwireddu’r gwirionedd ‘Trech gwlad nac Arglwydd’ eto. Heb os dylid gweiddi’r cwetiynnau:

A yw dileu llwyfan sy’n feithrinfa i fandiau yn ergyd i ddiwylliant y ddinas? A yw dileu cyrchfan sy’n hwb i’r gymuned Gymraeg ei hiaith yn llesol i enaid Caerdydd? A yw hygrededd y bobl a gyhoeddodd ac a fuddsoddodd arian i geisio meithrin ‘Dinas Cerdd’ yn cael ei chwalu? A’i dyma esiampl arall o’r cyngor yn hau hedyn a peidio ei ddyfrhau? Lles pwy fydd dymchwel Guildford Crescent yn y pen draw? A oes gwir angen fflatiau moethus i fyfyrwyr? A ddylai’r tirfeddiannwr sydd ai fryd ar ymgyfoethogi fwyfwy gael difetha bwrlwm cymdeithasol a cherddorol cymdeithas?

Ymddengys bod yr union bobl a ddangosodd bositifrwydd a dyhead clodwiw dro yn ôl yn awr yn ildio i’r hyn a elwir yn ddatblygiad. Eto ar yr un gwynt mae yna son am nodi’r lle fel ardal Gadwraeth. Yn aml y mae gweld gwerth yn ein hanes diweddar yn anos na gweld pwysigrwydd a gwerth adfeilion yr hen gastell gwag. Onid yw gweld ardal sy’n ein cysylltu â’r hen Gaerdydd ond sydd eto’n cael ei defnyddio’n ddyddiol ac felly’n creu hanes y presennol yn gynhyrfus a chyffrous? Ni fydd creu, na cherdd, cymuned na chymdeithas wrth godi rhagor o dyrrau fflatiau’r preswylwyr dros dro.

Heb os bydd dymchwel y stryd hynafol yn ergyd i’r diwylliant oedd yn ffrwtian. Mae’r tirfeddiannwr unwaith eto yn dymchwel yr aelwyd a’r Gwdihw yn ymddangos fel Ty Unnos! Wrth gwrs, nid awgrymu ydw i mai dyletswydd Cyngor a swyddogion, nac unrhyw gorfforaeth yw cynnal lleoliad oedd wedi ennill ei blwyf ac yn cyfrannu i gymeriad sŵn Caerdydd. Perygl hynny yw bod rheoli yn digwydd. Bod y cyfan yn cael ei ffurfioli a’i saniteiddio. Os yw’r clybiau lle gellir clywed cerddoriaeth fyw yn cau ar y raddfa bresennol, pa hawl fydd gan Caerdydd i’w galw ei hun yn Ddinas Cerdd? Pa mor haeddiannol yw’r teitl os yw un o’r lleoliadau gigio hynaf yn cael ei droi yn far chwaraeon di-enaid? Mae’r sefyllfa’n gymaint mwy na chau clybiau: symptom yw hyn o’r trywydd o homogeneiddio y mae sawl cyngor trefol yn ei dilyn. Ond fe all y symptom yma uno gwrthwynebiad ar draws sbectrwm o ddaliadau gyda’r gobaith o ddeffro mwy i weld y darlun cyflawn. Ar hyn o bryd mae’r ecosystem gerddorol – i ddefnyddio terminoleg y cwmni sydd wedi ei dalu i’w gwarchod – yn ymdebygu i baradwys ar gyfer parasites. Dinas glôn arall ac y mae’r buddsoddiad ariannol sydd wedi ei wario i warchod amrywiaeth hanfodol yr ecosystem yn ymddangos fel gwastraff llwyr.

Rhaid i’r cynor feithrin gweledigaeth a honno wedi ei gwreiddio mewn penderfyniad. Hunan-dwyll ar ran y cyngor yw’r awydd am benawdau bras heb weledigaeth bellgyrhaeddol. Gydag unrhyw ddatblygiad mae angen ystyried yr oblygiadau ar yr iaith, ac yn yr un modd dylai pob cais cynllunio rhoi ystyriaeth fanwl i’r effaith a gaiff ar ddiwylliant yn enwedig os ydi hwnnw yn ddiwylliant sydd wedi ei feithrin yn naturiol ac yn ffynnu. Codwn lais, a byddwn ochelgar o’r mewnforwyr miri, a boed i ni warchod y lleoliadau unigryw sy’n rhoi bwrlwm ac yn cynnal gwir gymeriad ein crochan cerdd.

Mae ymgyrch i achub Gwdihw a Guildford Crescent, a gorymdaith a gig codi arian ar 19 Ionawr 2019.