Rhestr ddu BBC, yr asiant MI5, “a’r goeden Nadolig”

Mae’r ffilm ddogfen fer hon, Blacklisted, yn honni yr oedd y BBC yn derbyn gwybodaeth wrth yr MI5 fel rhan o’r broses cyflogi.

Canolbwynt y ffilm yw’r cyfarwyddwr Paul Turner a geisiodd yn aflwyddiannus am sawl swydd gyda’r BBC am flynyddoedd maith.

Yn ôl y sôn nid oedd y goeden Nadolig yn arwydd dda i bawb yn yr ugeinfed ganrif ac mae’r ffilm yn ymhelaethu am ei arwyddocâd ar ffeiliau mewnol y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig.

Mae cyfrannwyr i’r ffilm yn cynnwys Mike Fentiman (gynt o’r BBC), Arwel Elis Owen, a Paul Turner ei hun.

Dros y blynyddoedd mae adroddiadau tebyg wedi bod mewn papurau megis Telegraph (erthygl lawn), Observer (erthygl lawn), a’r llyfr Blacklist: The Inside Story of Political Vetting, yn enwedig pennod 5, “MI5 and the BBC: Stamping the ‘Christmas Tree’ Files”.

Mae sawl stori yn cynnwys enw Brigadwr Stonham, asiant MI5 a oedd yn gwirio ceiswyr i swyddi BBC yn yr 80au cynnar o ystafell 105, Broadcasting House, Llundain.

Does gen i ddim yr adnoddau i wirio pob ffaith yn y ffilm ddifyr hon i chi. Byddai hi’n braf cael gwylio rhaglen hirach gyda rhagor o fanylion – cyn belled bod cwmni teledu sy’n fodlon cyffwrdd ar y stori, a sianel sy’n fodlon ei ddarlledu.

Ond beth bynnag rydych chi’n credu am y sefyllfa, gallai hanes teledu a ffilm yng Nghymru wedi bod yn wahanol pe tasai’r BBC wedi cyflogi Paul Turner.

Yn y pen draw fe gyd-sefydlodd gwmni cynhyrchu cydweithredol Teliesyn a oedd yn gyfrifol am sawl rhaglen gyda Gwyn Alf Williams.

Ymhlith nifer o wobrau mewn gyrfa ysblennydd fe gafodd enwebiad am Oscar am ei ffilm Hedd Wyn a ysbrydolwyd yn wreiddiol gan un o’i wersi Cymraeg.

Fe gynhyrchwyd y ffilm fer Blacklisted gan Colin Thomas, cyd-bartner Turner yng nghwmni Teliesyn, a myfyrwyr ffilmiau dogfen Prifysgol Aberystwyth.

Alun Gaffey: “Dani mewn sefyllfa cythryblus iawn ar hyn o bryd…”

Mae albwm cyntaf Alun Gaffey (o’r un enw) a ryddhawyd yn gynharach eleni wedi cael ei ddewis i fod ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2016. Bydd Alun Gaffey yn chwarae caneuon oddi ar yr albwn mewn gig yn y Parot Caerfyrddin nos Sadwrn 17 Medi 2016. Fe wnaeth Hedd Gwynfor, un o’r criw sy’n trefnu gigs Cymraeg yng Nghaerfyrddin, gyfweld gyda Alun cyn y gig.

Wyt ti wedi bod mewn bandiau o’r blaen?

Do sawl un.

Tra yn y coleg oni mewn band o’r enw Pwsi Meri Mew efo criw o hogia o Ben Llŷn.

Am flynyddoedd bues i yn y band Radio Luxembourg / Race Horses – rhyddhau EPs, senglau, a dwy albym, a teithio’n gyson o amgylch Prydain, Ewrop, yn ogystal ag ymweliad i’r Unol Daleithiau hefyd.

Yn fwy diweddar hefyd bues i’n chwarae gitâr efo grwpiau fel Gwyllt a Fist of the First Man yng Nghaerdydd.

Amseroedd da.

Beth yw dy ddylanwadau cerddorol?

Eang ac amrywiol. Beatles, Jimi Hendrix, Bob Dylan, James Brown, Sly and the Family Stone, Michael Jackson, Fela Kuti, Rick James, Parliament, Miles Davis, Bob Marley, Scott Walker, Wu Tang Clan, Elvis Presley, Jimmie Rodgers, Meic Stevens, PJ Harvey, Massive Attack, Iggy Pop, Last Poets, Gil Scott-Heron, Maxayn, Isaac Hayes, Neu, Jorge Ben, Jacques Brel, Aphex Twin, Roy Ayers, Orange Juice, Kraftwerk, The Prodigy, Phil Spector, ayyb, ayyb, ayyb.

Beth yw pwysigrwydd cerddoriaeth i ti?

Pwysig iawn. Dwi’n taro’r DAB radio ymlaen peth cynta’n y bore a gwrando ar 6Music. Dwi’n gwrando ar fiwsig ar fy ffôn tra dwi’n y cawod. Gwrando ar CDs yn y car ar y ffordd i gwaith. Clustffonau mlaen trwy dydd yn y gwaith efo Spotify mlaen. Chwarae gitâr ar ôl dod adra pob dydd. Gwrando ar records a CDs ar fy hi-fi yn y nos.

gif-gaffMae gen i obsesiwn efo ffeithiau a trivia am gerddoriaeth, pryd a lle cafwyd albyms eu recordio. Trefniant a dulliau recordio. Y cerddorion oedd yn chwarae arnynt. Y straeon tu ôl i’r caneuon a’r hinsawdd wleidyddol a chymdeithasol oedd yn rhoi genedigaeth i ac yn gyrru sîns cerddorol ar draws y byd yn hanesyddol.

Sut wnes ti ddewis yr aelodau eraill i fod yn y band gyda ti, beth oedd y broses?

Roeddwn i wedi chwarae efo Ifan (dryms) tra oni’n y grŵp Gwyllt. Mae o hefyd yn chwarae dryms ar un o’r traciau ar fy albym. Dwi’n nabod Eifion (gitâr fas) ers blynyddoedd. Roedd Eifion yn chwarae mewn grwpiau fel The Poppies, Avash Avash – ac bellach efo grŵp o’r enw Tigana. Welais i Rhys (gynt mewn bandiau fel Dancers, a Wilma Sands) yn chwarae gitâr efo grŵp o’r enw Yr Yo’s – covers band sy’n gwneud fersiynau gwych o ganeuon gan bobol fel Stevie Wonder, Talking Heads, ayyb, mewn priodasau ac ati.

Mae nhw’i gyd yn gerddorion gwych, ond yn bwysicach oll yn fois iawn hefyd. Doedd ddim un o’r hogia’n nabod eu gilydd cynt chwaith, ond mae pawb bellach yn ffrindiau da felly good vibes aplenty!

Ti wedi cyhoeddi albwm fel artist unigol am y tro cyntaf eleni. Ydy creu yr un sŵn mewn gig byw yn anodd?

Do, wnes i ryddhau fy albym (hunan-deitliedig: Alun Gaffey) tua dechrau’r flwyddyn ar label Sbrigyn Ymborth. Nes i recordio hi dros gyfnod o flwyddyn a hanner mewn stiwdio yn Grangetown, Caerdydd, efo peiriannydd o’r enw Frank Naughton.

Gan bo fi wedi recordio’r rhan helaeth o’r offerynnau fy hun, a gan fod na lawer o haenau i’r gerddoriaeth – roedd trio trefnu’r caneuon i weithio’n dda gyda band 4-aelod yn her. Ond, dwi’n credu fod y band (gyda llaw dwi di bedyddio’r band gyda’r enw ULTRA-DOPE) yn llwyddo i gyfleu dehongliad dda iawn, os nad ychydig yn wahanol, o draciau’r albym. Mae’r ffaith fod y sŵn byw yn wahanol i’r record yn ran o’r hwyl yn fy marn i. Doeddwni ddim yn ‘hung-up’ ar drio ail-greu’r albym nodyn-am-nodyn na chwaith glynu’n dynn at unrhyw ddarnau neu synau penodol. Felly mae na ail-drefnu wedi bod, ond mae hynny’n beth da.

Mae’r albym ar gael ym mhob siop Gymraeg ledled Cymru megis Siop y Pentan, a siopau recordiau annibynnol fel Y Parot.

alun-gaff1-bach

Mae sawl artist neu fand Cymraeg yn cyhoeddi stwff, ond ddim yn gigio rhyw lawer. Ydy gigio yn bwysig i ti?

Dwi’n trio gwneud be gallai. Dwi newydd droi’n 33 a mae fy mywyd i a fy mlaenoriaethau i’n dra gwahanol y dyddiau hyn i be oedden nhw nôl yn fy nyddiau gyda Race Horses. Mae pawb yn y band efo ymrwymiadau tebyg i’w gilydd – swyddi, cariadon/gwragedd, DIY(!), ayyb. Felly dani ddim am fynd ar daith hir na’m byd felly – ond yn hapus i chwarae cyn gymaint o gigs a fedrwni ac yn falch iawn o gael y cyfle i chwarae yn llefydd fel Y Parot (erioed di bod yno o’r blaen felly’n edrych ymlaen yn arw).


Wyt ti wedi gwneud dewis ymwybodol i wneud stwff Cymraeg, neu dyna sy’n dod yn naturiol?

Do a naddo.

Naddo oherwydd – mae’n wir mai dyna sydd yn dod yn naturiol i fi. Dwi wedi ceisio sgwennu’n Saesneg yn y gorffennol ond mae o’n swnio allan o’i le rhywsut. Canu’n Gymraeg ydi’r ffordd orau i mi gyfleu rhywbeth gwir a bod yn driw i fy hun mewn ffordd.

Do oherwydd – roeddwni eisiau gwneud albym Gymraeg. Roeddwni eisiau anelu’r gerddoriaeth yma at gynulleidfa Gymraeg. (Wedi dweud hynny mae cynulleidfaoedd di-Gymraeg yn dderbyngar iawn i sdwff Cymraeg ei iaith y dyddiau yma, fwy nag erioed swni’n deud.)

Dwi’n credu’n gryf fod angen cyn gymaint o gynnyrch diwylliannol safonol trwy gyfrwng y Gymraeg a sy’n bosib. Nid ei fod yn ‘ddyletswydd’ neu’n rhyw fath o waith beichus sydd angen cael ei wneud er mwyn ceisio amddiffyn yr iaith neu beth bynnag. Fysa hynny’n agwedd reit depressing. Dwi eisiau gwneud hyn. Dwi eisiau creu cynnyrch Cymraeg. A dwi mynd i barhau i wneud hynny hefyd. Dwi wedi cychwyn gweithio ar fy ail albwm yn barod ac yn edrych ymlaen i ryddhau hwnnw ymhen rhyw flwyddyn.

Yn y gân Deinasoriaid ti’n dweud “Os ti’n mynnu sôn am fewnlifiad, well ti sbio ‘gosach at adra, y gormes go iawn.” Ydy gwleidyddiaeth yn bwysig i ti felly?

Gweddill y linell honno yw “…y gormes go-iawn, gan y moch dros y clawdd.” Yr union ‘foch’ heini mae Saunders Lewis yn cyfeirio atynhw yn ei gerdd Buchedd Garmon. Nid pobol Dwyrain Ewrop ac Asia sydd wedi newid tirlun Cymru ers cyhyd. Nid nhw yw’r rheswm fod y Gymraeg i’w glywed llai nag erioed yn Sir Gâr yn 2016. Dylanwad ‘moch’ Saunders Lewis ydi’o, a’r effaith llawn yn cael ei deimlo’n waeth heddiw nag erioed – nid yn unig yn ar y niferoedd sy’n siarad Cymraeg, ond hefyd yn cael dylanwad ar agweddau pobol ac ar wleidyddiaeth pobol.

Dani mewn sefyllfa cythryblus iawn ar hyn o bryd, a dio’m yn teimlo fel bo na unrhyw olau ar ddiwedd y twnel. Oni’n arfer darllen trwy gwefannau’r papurau newydd yn drylwyr yn ddyddiol. Yn ddiweddar ma’n fy ngwneud i mor flin dwi di dechrau gwneud ymdrech fwriadol i beidio darllen y newyddion. Cloi fy hun i ffwrdd mewn rhyw fath o swigan ‘escapist’ drwy wrando ar gerddoriaeth, gwylio ffilms, ayyb. Di hynny ddim yn beth da, achos apathi yw hynny.

Fe aeth fy mhleidlais i ar Plaid Cymru yn yr etholiadau lleol a chyffredinol diwethaf (a phob un cyn hynny). Ond, taswni’n byw yn Lloegr mi faswni’n cefnogi Jeremy Corbyn. Mae ei werthoedd o’n ymdebygu fy rhai i yn fwy na mae unrhyw wleidydd wedi gwneud ers i mi gofio. Ei safbwynt ar Israel a Phalesteina, arfau niwclear, gwasanaethau cyhoeddus fel yr NHS, codi treth incwm i bobol cyfoethog. Dwi ddim yn llyncu’r busnes ‘anetholadwy’ ‘ma. Rhethreg sydd wedi cael ei ail-adrodd yn y cyfryngau hyd-syrffed ers iddo rhoi ei het fewn am yr arweinyddiaeth yn y lle cyntaf nôl yn Mehefin y llynedd. Dwi bellach yn clywed pobol ar lawr gwlad yn ‘regurgitatio’ beth mae’r cyfryngau wedi bod yn bwydo iddynhw’n gyson. Ei alw’n rhyw fath o Marxist asgell-chwith eithafol. Y rwtsh ma fod gwrth-semitiaeth yn rhemp yn y Blaid Lafur jysd achos fod na unigolion yn hyd yn oed mentro i feirniadu Israel. Nawn nhw drio unrhywbeth i’w danseilio. Nid yn unig y cyfryngau ond yr holl Blairites o fewn y Blaid Lafur hefyd. Fysa’n well ganddynhw ddinistrio’r blaid yn hytrach na cymryd mantais o’r don enfawr o gefnogaeth mae o’n ddod gyda fo. Mae’r peth tu hwnt i jôc.

Ta waeth, fel oni’n deud dwi wedi stopio sbïo ar y newyddion ers y refferendwm. Dwi’m yn gwbod os di hynny’n beth iach yn y tymor hir, ond mi wneith les i fy iechyd meddwl cael brêc bach ohono!

alun-gaff2-bach

Alun Gaffey: Soundcloud | Twitter / Gigs Cymdeithas: Facebook | Twitter

Dwy bennod o The Dragon Has Two Tongues, gyda Gwyn Alf Williams

Yn ystod y moment hon, gyfeillion, efallai bod y hanesydd radical Gwyn Alf Williams yn gallu cynnig rhywbeth o werth i ni – os nad cysur, yn sicr bach o ddoethineb.

Mae defnyddiwr YouTube o’r enw International School History newydd lanlwytho ddwy bennod o The Dragon Has Two Tongues mewn ansawdd weddol dda.

the-dragon-has-two-tongues-gwyn-alf-williams

Mae pobl wedi rhannu darnau o’r rhaglenni o’r blaen ond y tro yma mae’r ansawdd sain yn cyfleu’r dadleuon yn well, dehongliadau o’r Cymry sydd yn hollol wahanol rhwng Gwyn Alf a’r boi arall.

Darlledwyd y gyfres yn wreiddiol ar Channel 4 yn 1985 pan oedd cymunedau Cymru yn dioddef polisïau llywodraeth Margaret Thatcher yn sgil methiant yr ymgyrch i sefydlu senedd i Gymru yn 1979.

Bu farw Gwyn Alf yn 1995. Doedd i ddim o gwmpas i ymateb i’r oes datganoli ers 1997, na thrychineb 2016. Ond dyw hynny ddim yn ein hatal ni rhag dychmygu beth fyddai fe wedi dweud.

Mae newid yn anodd. Cwestiynu 38 Degrees, Avaaz a Change.org

rali-miliwn-glenn-page

Yn ôl gwefan 38 Degrees, “There’s never been a greater need for people power” ac i’r rhai sy’n cytuno mae hi’n bryd cynnal sgwrs yng Nghymru am y dulliau gorau o ymgyrchu dros gymunedau, heddwch, cyfiawnder, tegwch, hawliau dynol a chynaliadwyedd yn ein hoes ni.

Anelaf y blogiad hwn at unrhyw un sy’n cytuno gyda’r egwyddorion hyn. Mae rhai o fy mhwyntiau a chwestiynau yn seiliedig ar sgwrs ddifyr y ces i gydag ymgyrchydd profiadol yn ddiweddar.

Yn ystod y misoedd diwethaf dw i wedi gweld dolenni i ddeisebau am faterion Cymreig, a materion rhyngwladol eraill o bwys, ar sawl gwefan wahanol o Avaaz i Change.org i SumOfUs i 38Degrees, i enwi dim ond pedwar o’r rhai mwyaf amlwg.

Nid oes prinder o ddulliau o geisio dylanwadu ar wleidyddion, aelodau cynulliad, cynghorwyr a phobl eraill sy’n wneud penderfyniadau pwysig. Plafformau ymgyrchu yw un gategori weddol newydd; mae pob un o’r pedwar enghraifft uchod yn llai na 10 mlwydd oed.

O ystyried hynny mae hi wastad yn fy synnu pa mor gyflym mae fy ffrindiau yn fodlon creu deiseb ar fater sy’n bwysig iddyn nhw ac fel canlyniad, yn rhoi eu ffydd mewn darparwyr rhyw wasanaeth; pobl cwbl estron.

Mae cwestiwn o ran pa mor ddiogel yw ein data fel llofnodwyr deisebau ar-lein fel hyn. Os ydych chi wedi llofnodi deiseb mae eich manylion personol chi yn nwylo perchnogion y platfform, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, sylwadau a daliadau gwleidyddol. Os ydych chi wedi llofnodi sawl deiseb maen nhw wedi creu darlun eithaf manwl o’ch daliadau. Mae’n ddigon posib bod staff y gwefannau wedi copio’ch data sawl gwaith i ddyfeisiau gwahanol erbyn hyn.

Dydy preifatrwydd ddim o reidrwydd yn golygu cyfrinachedd. Elfen bwysig o breifatrwydd yw’r rhyddid i ddewis a chadw rheolaeth dros bethau sy’n digwydd i’ch enw a data personol. Yn y cyd-destun ymgyrchu dros achos mae cyfranogwyr yn dewis mathau gwahanol o gyhoeddusrwydd wrth gwrs, er mwyn rhannu eu daliadau gydag eraill er budd yr ymgyrch. Mae hi’n hanfodol bod y dewis yn hollol bersonol, sydd ddim o reidrwydd yn wir am y platfformau yma.

Mae hi’n amhosib dyfalu union gynlluniau’r platfformau yma ar gyfer yr hir dymor. Dylen ni ofyn mwy o gwestiynau ynglŷn â’r platfform dan ystyriaeth cyn dechrau deiseb arall. Yn ogystal â’i fodolaeth ei hun beth yw dibenion y blatfform dan sylw?

Mae’r platfformau ymgyrchu yn ymddwyn fel unrhyw ddarparwr ar y we, megis Google neu Facebook, sy’n casglu llwythi o ddata ar bobl a’u diddordebau. Mae llofnodi unrhyw ‘BuzzFeed ymgyrchu’ fel hyn yn debyg i weithredoedd fel ‘hoffi’ ar Facebook, ffyrdd o rannu data ar eich diddordebau.

Mae gwerth ariannol sylweddol mewn daliadau gwleidyddol canoedd ar filoedd o bobl. Beth sy’n rhwystro gwefan rhag rhannu eich data gyda grwpiau a sefydliadau eraill? Neu awdurdodau?

O ran mudiad traddodiadol mae pwrpas ac atebolrwydd yn fwy tebygol o fod yn glir. Byddai mudiad o’r fath yn casglu data, ar y cyfan, er mwyn canolbwyntio ar ei achosion – y rheswm mae pobl yn ymwneud ag ymgyrchu yn y lle cyntaf.

Yn ôl fy ffrind, yr ymgyrchydd di-enw, mae cynrychiolwyr 38 Degrees yn dweud yn aml eu bod nhw’n siarad ar ran ‘aelodau’ sef y rhai sydd wedi llofnodi pethau ar eu gwefan. Mae achosion o gynrychiolwyr 38 Degrees yn siarad â gweinidogion llywodraeth fel gwestai ar bwyllgorau dethol yn San Steffan.

Gallai hyn achosi problemau i unrhyw fudiad traddodiadol sydd eisiau lle yn yr un cyfarfod neu drafodaeth synhwyrol gyda’r un gweinidog. Dw i’n sôn am y mudiadau traddodiadol sy’n cynnwys y gîcs profiadol sydd wedi gwneud y gwaith cartref pwysig o ddarllen am eu pynciau a datblygu polisi, y rhai sydd wedi ymateb i ymgynghoriadau di-ri, y rhai sydd wedi gwneud ceisiadau rhyddid gwybodaeth – dros flynyddoedd o ymgyrchu.

Mae eithriadau fel y mudiad GetUp! yn Awstralia sy’n seiliedig ar blatfform ymgyrchu ond sydd wedi penodi arbenigwyr i ganolbwyntio ar bolisi. Ond yn ôl fy nealltwriaeth o’r rhan fwyaf o blatfformau dan sylw yma, does dim arbenigwyr polisi mewnol ac mae’r ddealltwriaeth yn eu swyddfeydd am achosion yn gymharol wan. Er enghraifft mae 38 Degrees wedi prynu cyngor allanol o bryd i’w gilydd ond mae rhai wedi cwestiynu pa mor astud mae’r grŵp yn gwrando.

“Mewn ychydig funudau rwyt ti’n gallu dechrau ymgyrch”, yn ôl 38Degrees. “Dechrau ddeiseb yn nawr”, yn ôl Avaaz.

“Newida unrhyw beth, unrhyw le, mawr neu fach”, yn ôl Change.org.

Dyna elfen arall sy’n nodweddiadol o’r platfformau yma. Maen nhw’n casglu cannoedd o syniadau – unrhyw beth, unrhyw le – ond o ran y syniadau sy’n codi i’r brig faint sydd wir yn herio’r diddordebau sylfaenol sy’n achosi anhegwch yn ein cymdeithas?

Dwy enghraifft o lwyddiannau mawr enwog ar 38Degrees oedd yr ymgyrch achub coedwigoedd yn Lloegr a’r ymgyrch i wahardd defnydd o blaladdwyr ar wenyn. Dw i ddim yn cwestiynu pwysigrwydd yr achosion; mae gwarchod natur, heb os, yn bwysig.

Beth sy’n ddiddorol i mi ydy’r ffaith bod y ddwy ymgyrch yna yn apelio at lwythi o bobl gwahanol o’r sbectrwm wleidyddol, a phobl heb unrhyw farnau gwleidyddol cryf o gwbl. Does dim byd arbennig o ddadleuol na chwyldroadol am geisio gwarchod coedwigoedd a gwenyn. Dim ond ychydig o ymgyrchoedd sy’n ffitio’r categori yna, mae hi’n bell iawn o fod yn fformiwla sy’n sicrhau newidiadau positif i bawb.

Gyda llaw er bod 38 Degrees yn hapus i dderbyn clod roedd sawl cyfranogwr arall yn yr ymgyrchoedd. Mae hi’n anodd dweud beth oedd yr union sbardun i newid polisi llywodraethol. Pa mor ddylanwadol oedd e-byst torfol 38 Degrees o’i gymharu gyda gweithredoedd eraill gan fudiadau?

Cymerwch ein bod ni’n awgrymu syniad am ymgyrch heddiw, chi a fi…

Mae’n anhebyg y bydd ein syniad yn cyrraedd y brig ar unrhyw blatfform ymgyrchu mor gyffredinol ei ffocws. Ond dwedwch ein bod ni’n llwyddo i ennill rhyw fath o statws i’n syniad, creu deiseb ac wedyn cael anfon llwythi o gopïau o’r un neges at wleidydd(ion) drwy’r blatfform. Wel, beth sy’n bosib wedyn? Unwaith mae’r e-byst wedi mynd i ffolder sbam yn Whitehall, San Steffan, Parc Cathays ayyb sut ydyn ni’n darbwyllo ein llofnodwyr i gymryd rhan yn y gweithredoedd eraill sydd eu angen, megis llythyru, cyfarfodydd, trafodaethau, raliau, gorymdeithio, gigs, a dulliau di-drais eraill sy’n tynnu sylw at ddifrifoldeb ein hachos?

Yn anffodus, y wefan yw’r cyfrwng ar y rhan fwyaf o blatfformau ymgyrchu; nid oes mynediad uniongyrchol i fanylion cyswllt ein cefnogwyr. Byddai deiseb ffurflen annibynnol ar Google Forms yn fwy effeithiol yn hynny o beth neu, well byth, meddalwedd rydd ar weinydd sydd o dan reolaeth ein mudiad yn unig. Nid cynnig peidio defnyddio cyfryngau digidol yw fy nadl ond dewis trefn dechnolegol sy’n sicrhau rhyddid, rheolaeth ac i wasanaethu’n hachos yn effeithiol.

Mae hi’n edrych fel ein bod ni wedi is-gontractio rhai o’r pethau mwyaf pwysig am dyfu mudiad heb sôn am y rhyddid i ddatblygu perthnasau gwerthfawr gyda mudiadau eraill.

Mae sgwrs ehangach am wendidau clicktivism a slacktivism yn gyffredinol; byddai rhain yn destun trafod rhywbryd arall.

Am y tro rydyn ni’n gallu bod yn weddol sicr o un peth. Mae achosi newid yn anodd. Dyna pam mae cwmnïau mawrion yn fodlon gwario miloedd o bunnoedd bob mis ar gwmnïau lobio ac ymgynghorwyr materion cyhoeddus ym Mae Caerdydd a San Steffan.

Ac mae achosi newid ar lai o gyllideb yn anoddach fyth fel y gall pobl sydd wedi gwneud y gwaith caled o dyfu mudiadau gwirfoddol go iawn dystio.

Ydy llofnodi deiseb 38 Degrees neu bethau tebyg yn achosi unrhyw niwed, fel y cyfryw? Yn sicr mae sawl ffordd o wastraffu amser gwerthfawr ar blatfformau ymgyrchu fel hyn, ac o godi disgwyliadau annheg a gobeithion di-sail ymhlith yr holl bobl sy’n pryderu am achos teilwng.

Fyddwn i ddim yn mynd mor bell â ddweud nad oes lle o gwbl i’r math yma o wefan. Ond cyn dechrau deiseb mae eisiau i unrhyw arweinydd ymgyrch arfaethedig ystyried y cyfrifoldebau, a’r defnydd mwyaf effeithiol o’r holl amser, gobaith, egni a photensial sydd gan bobl.

Llun o Kizzy Crawford a Rali Miliwn 2016 gan Glenn Page (gyda chaniatâd)