Llawenydd gweithgaredd Datblygu – albwm newydd yn y ffatri

Datblygu - Porwr Trallod

Mae blog John Robb wedi cael y première ar ffeithiau am albwm newydd Datblygu – yn Saesneg!

Ta waeth, mae hyn i gyd yn newyddion mawr. Dw i’n edrych ymlaen at weld y band ar gloriau bob cyhoeddiad yng Nghymru o’r Cymro i’r Selar i Golwg i Planet i, err, Barddas.

Porwr Trallod yw enw’r albwm, mae llun clawr gan Ani Saunders ac mae Ankst Musik wedi rhannu ffrwd (a WAV!) o’r clasur instant o gân Llawenydd Diweithdra.

Hi oedd y gân gyntaf yn gig gofiadwy Datblygu yng Ngŵyl CAM yn ôl ym mis Ebrill a dw i wedi cael amser i fyfyrio ychydig amdani hi.

Fel o’n i’n dweud yn y darn ar ôl y gig mae’r band wedi diweddaru’r ffyrdd o gynhyrchu curiadau a sain er bod ‘na cysondeb o ran themâu.

Yn gyffredinol os ydych chi’n cynhyrchu cerddoriaeth electronig mor minimol mae’n rhaid bod hi’n anodd gwybod pryd i stopio a datgan bod y cyfansoddiad wedi gorffen.

Tro yma mae anghyflawnder y trefniant yn rhan bwysig o’r peth – yn enwedig y diffyg cic sydd yn cyfleu ystyr o ddiffyg momentwm y diweithdra i mi yn berffaith, diolch i Pat mae’n debyg.

Gellid dweud ein bod ni’n ail-fyw’r 1980au yn yr oes bresennol neu o leiaf bod ein hoes yn atsain o’r degawd hwnnw o ran yr economi, anghyfartaledd, polisïau o San Steffan ac ati.

Os yw hynny yn wir efallai taw dyna sy’n wneud i ddychweliad Datblygu a’r gân hon deimlo mor addas.

Mae geiriau Dave bron a bod fel cyngor gyrfa amgen i’r ifanc (rhywbeth mae fe wedi cynnig o’r blaen); rant am swyddi di-bwynt, Hall & Oates ac efallai dirfodaeth.

[…] Mae Llawenydd Diweithdra yn well na unrhyw gaethweithdra (?) sy’n cael ei gynnig gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae Llawenydd Diweithdra yn curo bob gwaith mewn swyddfa neu unrhyw swydd ffatri gallai feddwl amdano […]

Llun o lyfr addas gan Bertrand Russell, achos pam ddim

Mewn newyddion hollol annisgwyl mae Stewart Lee. sydd yn curadu gŵyl ATP ym Mhrestatyn ym mis Ebrill 2016, i weld yn ffan o Datblygu… Mae fe wedi dewis y band am gig yn yr ŵyl yn ogystal â Sleaford Mods, The Raincoats, Boredoms ac eraill.

Nid y Fall Cymreig ydyn nhw, pwy ddyfeisiodd y fath twpdra? Maen nhw yn well na’r Fall.