Biutiful, ffilm ddwys gan Iñárritu

Biutiful yw ffilm drama bythgofiadwy yn Sbaeneg gan Alejandro González Iñárritu (21 Grams / Babel), y cyfarwyddwr o Mecsico, gyda’r actor Javier Bardem (No Country for Old Men). Mae’r ffilm yn wych ac yn newydd i fi, mae hi newydd ddod mas ar DVD – ond hi yw’r math o ffilm ddwys lle mae unwaith yn ddigon.

Os wyt ti wedi ymweld Barcelona byddi di, fel fi, yn sylweddoli rhai o’r lleoliadau yma ond bydd yr olygfa, o safbwynt trigolion tlawd ac anweledig i ryw raddau, yn wahanol iawn. Mae’n anodd dychmygu bod y bwrdd twrist ym Marcelona yn hoff iawn o’r ffilm hon.

Yn y stori mae’r prif gymeriad Uxbal (Bardem) yn wneud bob math o beth i godi arian er mwyn gofalu ar ei dau blentyn. Mae fe’n delio gyda dynion o Senegal, sy’n gwerthu cynyrchiadau fel bagiau llaw. Er bod eu swyddi ar y strydoedd yn anghyfreithlon a pheryglus gyda’r heddlu llawdrwm, mae’r mewnfudwyr tlawd o Tsiena yn cael y swyddi crapaf yn y ffatri ‘tanddaearol’. Maen nhw yn gallu codi mwy am wneud bagiau ffug ym Marcelona nag am wneud y bagiau Gucci go iawn yn Tsiena.

Mae Uxbal yn annibynnol ac yn methu dibynnu ar neb, hyd yn oed ei wraig a’i frawd. Yn y pen draw, er bod y rhan fwyaf y ffilm bach yn depressing o safbwynt arwynebol, mae fe’n cael cyfle neu dau i werthfawrogi’r perthnasau gwahanol yn ei fywyd.

Gyda llaw ‘biutiful’ yw’r ‘biwtifwl’ o Sbaeneg, sef y sillafiad yn Sbaeneg o’r gair Saesneg.

Dw i’n meddwl bod e’n neis dilyn sgwrs am ffilmiau yn Gymraeg, ble bynnag y mae’r ffilmiau wedi dod. Ers Pictiwrs (sydd wedi bod yn cysgu ers 2006) dw i ddim wedi gweld lot ar-lein. Croeso i ti cynnig cofnod blog neu fideo neu rywbeth am ffilm i’r Twll, does dim rhaid iddo fe fod yn ‘adolygiad’ yn ôl unrhyw draddodiad.