Arwyddion Ffyrdd Dwyieithog gan Roderic Bowen et al, 1972

Roedd yr awdur JG Ballard yn hoff iawn o ddogfennau o bob math, hyd yn oed gweithiau sydd ddim yn atyniadol iawn i’r mwyafrif o ddarllenwyr. Bathodd Ballard y term ‘llenyddiaeth anweledig’, sef genre posibl sydd yn cynnwys gweithiau fel adroddiadau, dogfennau swyddogol, trawsgrifiadau o recordiadau o’r bocs du mewn awyren, llyfrau ffôn ac ati.

Mae’r categori llenyddiaeth anweledig yn eang iawn ac yn amrywiol. Yng Nghymru mae’r genre wedi cael sawl cyfle i gynyddu yn y ddwy iaith, yn y degawd diwethaf yn enwedig.

Un hen enghraifft o Gymru yw’r adroddiad Arwyddion Ffyrdd Dwyieithog, gan y Pwyllgor dan arweinyddiaeth Roderic Bowen (cyn-AS Rhyddfrydwr) o fis Mehefin 1972. Cafodd yr adroddiad ei chyflwyno i’r Ysgrifennydd Cymru Peter Thomas (Ceidwadwyr) ym mis Awst.

Tra oedd y trafodaeth am statws yr iaith yn digwydd wythnos diwethaf o’n i’n meddwl bod e’n rhywbeth cwl i’w ystyried.

Mae’r cyfrol mewn clawr caled. Y pris gwreiddiol oedd dim ond 90c am 134 tudalen difyr.

Mae hon yn ddogfen ddwyieithog: Saesneg ar y dudalen verso a Chymraeg ar y recto. Prin iawn oedd defnydd o Gymraeg gan y wladwriaeth ar y pryd a doedd dim lot o bresenoldeb cyhoeddus o Gymraeg. Felly roedd y ddogfen yn ddyfodolaidd.

Mae’r lluniau yn yr atodiad i gyd o dde Cymru, efallai oherwydd roedden nhw eisiau enghreifftiau o’r categorïau gwahanol uchod ar yr un arwydd.

Mae hefyd dadansoddiad o arwyddion yn wledydd eraill: Gwerinlywodraeth Iwerddon, ‘Ffinland’ (yr enw yn yr adroddiad), Y Swistir a Gwlad Belg…

.. gyda sylwadau cyffredinol i grynhoi’r ymchwil o wledydd eraill:

i. Rhoir cydnabyddiaeth eang yn y gwledydd hyn i ieithoedd y lleiafrifoedd, a gwneir ymdrechion sylweddol i ddarparu ar eu cyfer.

ii. Derbynnir arwyddion ffyrdd dwyieithog fel un o nodweddion cyffredin bywyd beunyddiol, ac nid ydynt yn creu syndod nac yn tynnu sylw yn ormodol. Mae’n siwr eu bod yn golygu rhywfaint o waith gweinyddu a chostau ychwanegol, ond ar y cyfan nid ydynt yn creu anhawster na dadleuon.

… sydd hefyd yn wir yng Nghymru bellach diolch byth. Mae’r sylw nesaf yn ateb cwestiwn sydd yn dal i gael ei ofyn yn yr Alban heddiw hyd yn oed.

iii. Codwyd y cwestiwn o ddiogelwch ffyrdd mewn perthynas a’r arwyddion dwyieithog sy’n bod eisoes gyda’r bobl oedd yn gyfrifol amdanynt. Yr ymateb pennaf oedd syndod. Cydnabyddwyd nad oedd ganddynt wybodaeth fanwl ond nid oedd ganddynt yr un rheswm dros gredu fod yr arwyddion yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch. […]

Mae rhai o bethau yn y lluniau yn wahanol ar yr arwyddion heddiw, e.e. Y Bont-faen yn lle Pont-faen yn yr enghraifft uchod.

Ond y prif wahaniaeth yw drefn yr ieithoedd.

Mewn rhai o lefydd Cymru, fel fy ardal i, penderfynodd yr awdurdod lleol i beidio dilyn yr argymhelliad ynglŷn a threfn yr ieithodd:

Y cwestiwn nesaf i’w ystyried yw a ddylid gosod y Saesneg neu’r Gymraeg gyntaf, hynny yw, gan ddilyn ein harferiad ni o ddarllen, yn uchaf os rhoir y ddwy iaith y naill uwchben y llall, neu ar y chwith os byddant ochr yn ochr. Dyma’r ffactorau y gwelwyd eu bod yn briodol. Yn gyntaf, oherwydd yr arferiad darllen hwn, mae’n debyg yr amgyffredir yn fwy cyflym y geiriau sydd yn uchaf neu ar y chwith. Bydd y mwyafrif mawr o ddefnyddwyr y ffyrdd yng Nghymru yn edrych am y geiriad Saesneg yn hytrach na’r geiriad Cymraeg wrth ddilyn arwyddion ffyrdd, a darganfu’r Labordy Ymchwil Trafnidiaeth a Ffyrdd yn eu harbrofion gydag arwyddion dwyieithog bod llai o gynnydd yn gyffredinol yn yr amser a gymerir i ddarllen os daw’r geiriad Saesneg gyntaf. Yn ail, mae nifer o’r rhai sydd o blaid cael arwyddion dwyieithog yn rhoi cryn bwysigrwydd ar osod y Gymraeg gyntaf gan mai hi yw iaith frodorol Cymru. Credwn fod i’r farn hon gysylltiadau emosiynol gor-gryf, ond rhaid cydnabod ei bodolaeth. Pan ddefnyddir dwy iaith gyda’i gilydd, a rhoi dilysrwydd cyfartal i’r ddwy, mae’n anochel i un gael ei gosod o flaen y llall, a chytunwn beth bynnag fo’r drefn na ddylid ystyried ei bod yn adlewyrchu unrhyw wahaniaeth yn eu pwysigrwydd neu eu statws. Ystyriwyd yn fanwl y cwestiwn ai’r Gymraeg neu’r Saesneg ddylai ddod gyntaf, ac yr oeddem yn rhanedig, ond y diwedd penderfynwyd gyda mwyafrif sylweddol i argymell y dylid dangos y geiriad Cymraeg yn gyntaf ar bob arwydd dwyieithog […] (fy mhwyslais)

Mae’r paragraff uchod yn awgrymu pa mor gynhwysfawr ydy’r llyfr yma. Os oes galw efallai gwnaf i sganio’r holl beth. Efallai bydd e’n cyfrannu i sgyrsiau yn wledydd eraill fel Yr Alban.

Gyda llaw dyma’r dadleuon o blaid arwyddion dwyieithog (ac yn erbyn!) yn ôl atebion i’r ymchwil.

‘Cyfiawnder naturiol’ ydy’r term sy’n cael ei defnyddio sawl gwaith o blaid Cymraeg.

Heddiw mae’r arwyddion yn rhan o’r cefndir yng Nghymru fel y dylen nhw fod, rydyn ni’n ei chymryd yn ganiataol. Ond ar ôl i mi ddarllen yr adroddiad dw i wedi bod yn eu darllen nhw mewn ffordd wahanol tra bod i’n teithio o gwmpas.

Er cafodd y pwyllgor Bowen ei dylanwad ar ein strydoedd, ymgyrchwyr iaith – Cymdeithas yr Iaith yn bennaf – wnaeth sbarduno’r arwyddion ffyrdd yn y lle cyntaf wrth gwrs dros fwy na saith mlynedd o ymgyrchu. Mae ein byd yn edrych yn wahanol oherwydd nhw – ond wastad yn addasu ei hun i ddilyn y drefn newydd heb werthfawrogi’r ymgyrchwyr arloesol.

Felly mae rhywun fel Vaughan Roderick nawr yn gallu cywiro’r cyflwynydd Wedi 7 – ar Sianel Pedwar Cymru, yn Gymraeg – i ddweud bod y BBC yn ‘nodi’ yn hytrach na ‘dathlu’ hanner can mlynedd ers Tynged yr Iaith.

Gwnawn ni orffen gyda rhywbeth gwahanol – llun gan y ffotograffydd Raymond Daniel sydd yn ddangos aelodau o Gyfeillion yr Iaith a Chymdeithas yr Iaith yn gyflwyno eu argymhelliad nhw. Tynnwyd y llun yn Aberystwyth ym mis Ebrill 1971 pan oedd y cysyniad o Gymraeg ar ein arwyddion yn freuddwyd yn unig.