Oeddwn i ‘rioed wedi disgwyl cael y fath ymateb i’r erthygl SRG R.I.P… Ond pwy wnaeth ei lofruddio?
Pan weles i fod sôn amdano fo ar ddalen flaen Y Cymro a’i fod yn cael ei drafod ochr yn ochr a sylwadau aflan bigot penderfynnais bod pethau wedi mynd yn hollol dros ben llestri. Dyma’r rheswm dwi’n sgwennu’r ail erthygl. Teimlais fod pobl wedi camddehongli’r erthygl wreiddiol ac mae nifer o bobl wedi codi pwyntiau ac yma ceisiaf rhoi eglurhad iddyn nhw. Dwi ddim yn disgwyl mynd o’r twll dwi ynddo ond dwi’n gobeithio na wnai gloddio’n hun yn ddyfnach!
Teimlaf yn gyntaf fy mod wedi cael fy nghamddehongli, yn Y Cymro lle dywedodd fy mod i yn dweud mai cyfalafiaeth a’r artistiaid sydd ar fai. Erthygl yn ymosod ar CYFALAFIAETH a’r hyn y mae’n ei feithrin yn yr SRG a chymdeithas ysgrifenais i; cyfalafiaeth a chyfalafiaeth yn unig oeddwn i’n ei felltithio. Crux yr erthygl oedd bod y system gyfalafol yn milwrio yn erbyn yr SRG ac yr ateb ydi ymgyrchu dros newid yn y system.
Os nad ych yn deall beth yw y gwrth ddywediadau o fewn chyfalafiaeth sy’n golygu ei bod hi’n anghynaladwy o ran cerddoriaeth iaethoedd leafrifol ac anghenion pobol y byd yn gyfredinol darllenwch Introducing Marxism gan Icon Books, eglurhad graffig o safon ydyw a mi wneith o bosib newid y ffordd y dadansoddwch y byd. Mae llu o wefanau ond dyma un fideo GWYCH yn egluro’r syniad yn fras yng nghyd destun yr argyfwng economaidd diweddaraf (mewn ffordd hwylys a doniol peidiwch a poeni, rhowch siawns iddi!):
Awgrymiad tymor byr yw i ffans, artistiaid a phawb ynglwm a’r sin yn rhoi mwy o’u hamser a’u harian i’w gynnal. Dydi hyn ddim yn datrys y brif broblem ond gan fy mod yn gwybod efallai ni newidith y system am amser eto dyma awgrymiad ymarferol o rywbeth all roi hwb i’r SRG. Dwi heb ddarllen pob sylwad oherwydd pan aethon nhw’n bersonol ac yn gas teimlais nad oedd pwynt eu darllen mwyach. Hyd y gwelaf i does neb arall wedi awgrymu’n ymarferol be allwn ni ei wneud i achub diwylliant ifanc Cymraeg. Digon teg fy marnu os oeddech yn credu bod fy mhwyntiau i yn anghywir a buasai’r pethau dwi’n ei hawgrymu yn neud dim i hybu’r SRG ond dim hynny oedd y broblem gan fwyafrif o’r beirniadaethau. Y prif feirniadaeth o’m erthygl oedd mwy neu lai ‘pam ddylai unrhyw un neud rhywbeth am ddim?’. Dyma fy nadleuon i pam y credaf y byddai’n fuddiol i’r sin os gwnaiff artistiaid rhoi oleiaf dipyn o’u cynnyrch ar y we. Yn gyntaf mae rhai o artistiaid yn rhoi eu cerddoriaeth am ddim ar y we yn barod yn y byd cerddooriaeth iaith Saesneg a Chymraeg, dyma rhai ohonynt:
Dyma pam dydw i ddim yn gweld fod be ddwedais i yn gwbwl afresymol. Wedi ystyried y peth dwi’n deall y feirniadaethau ynglyn a’r pwynt yma. Taswn i yn fy hen swydd mewn siop prydau parod wedi rhoi kebebs a sglodion am ddim buaswn i wedi colli fy swydd. Yr oeddwn yn cymryd yn ganiataol fod creu cerddoriaeth yn bleser a bod pobol yn ei wneud er mwynhad. Mae fel celf graffiti, mae pobol sy’n creu celf graffiti yn gwario pres ac amser yn ei greu er mwynhad eu hunain a phobol eraill a chyffelybu hyn i gerddoriaeth oeddwn i efallai.
Yn ail credaf mai’r rheswm yr oeddwn ddim yn gweld problem i gerddorion wneud rhai pethau am dim oedd oherwydd o nabod pobol hollol anhunanol fel y sosialwyr, anarchwyr, ymgyrchwyr iaith, ymgyrchwyr ecolegol yng Nghaerdydd a ymgyrchai er lles pobol (am ddim) nid oeddwn yn gweld dim byd syfrdanol mewn pobl yn gwneud pethau am ddim os ydynt yn teimlo’n angerddol am y peth. Mae pobol yn treulio amser hamdden, arian, amynedd a hyd yn oed tori’r gyfraith dros ein hawliau a rhyddid. Edrychwch mor bell yr ym wedi dod yn y canrifoedd diwethaf, mae ffordd bell i fynd eto i gael gwir tegwch a chyfiawnder edrychwr ar hanes y Suffragettes dyna engrhaifft gwych a ddengys fod ymgyrchu yn gallu newid pethau.
Nesaf byddaf yn trafod fy sylwadau am gerddoriaeth y bandiau ifanc. Mae pobl yn meddwl fod apathi yn gyfystyr a niwtralrwydd gwleidyddol o ond allai addo i chi dydi hynny ddim yn wir. Dyma pam mae apathi yn yr SRG yn mynd ar fy nerfau braidd. Chwedl y Sais ‘If you’re not part of the solution then you’re part of the problem’. Mae apathi yn safbwynt o dderbyn sefyllfa’r byd fel y mae, bod popeth digon da yn barod ac nac oes angen newid dim. Esgusodwch fi ond os nad ych yn gallu gweld problemau’r byd yr ych yn hollol ddall. Yng nghyd destyn Gwledydd Prydain mae’r argyfwng economaidd diweddaraf wedi ei hachosi gan y bancwyr ond y ni sydd yn gorfod talu. Pam ddim cael y Robin Hood Tax? Pam na all y bancwyr dalu am eu llanast? Pam nad yw pobol yn mynnu hyn?
Un o’r pethau yr wyf yn teimlo dylwn i ei ymddiheuro amdano fo oedd tôn yr erthygl. Wedi ei hysgrifennu’n frysiog oedd o a heb ei editio (fel eich bod wedi gweld o’r camsillafu a’r darnau oedd ddim yn llifo). Yr oeddwn yn difaru defnyddio’r dôn or-feirniadol yn enwedig yn y paragraff olaf. Dydw i ddim yn meddwl oedd be ddwedais i yn hollol anghywir, ond yr oedd y ffordd yr oeddwn yn ei ddweud dim yn ystyried teimladau pobl am y pwnc hynod sensitif hwn. Dwi’n ymddiheuro am frifo teimladau- dim hynny oedd y bwriad o gwbl. Efallai ei fod wedi bod mor ymosodol gan fy mod i ychydig yn ddigalon weithiau fod pobol i weld mor apathetig a di hid am dloti, yr iaith, yr amgylchedd a phopeth. Dydi o ddim yn esgus dros ddefnyddio tôn mor gas ond trio egluro pam oeddwn i wedi ysgrifennu erthygl oedd yn swnio mor flin ydw i. Teimlo bod pobol ddim yn malio a rhwystredigaeth oedd be wnaeth i mi swnio mor bigog yn y rant ond mi wn fod beiriadu pobol mor llym a ysgrifennu fel mi wnes i ddim am eu hysgogi i ddechrau ymgyrchu debyg iawn.
Dydw i ddim chwaith yn deall pam fod pobol yn cymryd yn ganiataol mai fi sydd yn cwyno am cost CD’s a gigs oedd y darn lle oeddwn yn sôn am cost pethau. Dwi’n mynd i gigs a hapus i dalu pres i weld nhw, mis yn ôl talais 12 punt dim ond i weld Llwybr Llaethog (ac yn anffodus oedd eu set bron a bod drosodd)! Er fy mod i yn talu am gerddoriaeth cymraeg ac yn talu i fynd i fynd i gigs mae’n amlwg dydi hynny ddim yn wir am y lot o Gymry fy oed i. Does dim osgoi’r ffaith bod y mwyafrif llethol o bobol yng Nghymru ddim efo’r amynedd neu yn malio digon am yr iaith neu’r gelfyddyd i brynu’r cd’s a mynd i’r gigs. Wrth i mi ddisgrifio’r rhesymau dros hyn dydw i ddim yn eu cynnig fel cyfiawnhad oherwydd credaf dylai pobol wneud yr ymdrech dros eu diwylliant cynhenid. Cynnig eglurhad gonest oedd fy amcan i ac o ddeall pam bod pobol yn ymddwyn fel hyn gallwn geisio cael syniadau am ffyrdd i newid y tueddiadau hyn.
Hoffwn ddatgan nad ydw i yn cynrychioli barn cymdeithas yr iaith o gwbwl er fy mod i’n aelod eithaf gweithgar ohoni; siarad fel unigolyn ydw i rhag ofn i chi fynd i gandlyniadau. Nes i ddim ‘trefnu gigs am 2 mlynedd’ efo cymdeithas yn y gogs fel dywedodd Y Cymro, dwi’n byw yng Nghaerdydd i Dwi wedi helpu allan efo y Disgo Dydd i’r Di-waith wedi trio a methu trefnu gig fy hyn efo help trefnwraig lleol noson electroneg. Dwi wedi trio helpu efo gigs cymdeithas ond dydw i heb fod yn ‘trefnu ers 2 mlynedd’ o gwbwl. Oedd llawer bwriad blwyddyn diwethaf i gell y brifysgol drefnu un ond ni ddigwyddodd unrhywbeth yn anffodus am amryw resymau. I feddwl bod y dau beth ‘mwyaf’ i’r iaith wedi digwydd y flwyddyn dwethaf; y mesur iaith ac toriadau S4C mae pethau eraill wedi cymryd y sylw.
Be sydd yn fy synnu yw fod ymateb mor chwyrn tuagat rhywyn sydd wedi sgwenu erthygl bach am gerddoriaeth a bod hyn yn cythurddo pobol mwy na’r bygythiadau go iawn sy’n bodoli. Mae’r toriadau arfaethedig a’r potensial i rwygo ein cymunedau’n ddarnau a newid bywyd llawer person. Bydd hyd yn oed llai o swyddi yn y Fro Gymraeg (e.e. Gwynedd sydd eisioes gyda mwy na 60% o’r swyddi yno’n ddibynnol ar y sector gyhoeddus) bydd pobl ifanc yn symyd iffwrdd ac arwhan i’r difrod a wnaiff colli swyddi a gwasanaethau hanfodol, bydd ffaith bod y pobol ifanc yn gadael yn effeithio ar yr iaith Gymraeg hefyd. Fel y dwedais, ymuno a mudiad gwrth gyfalafol neu sefydlu grwpiau cymunedol i gwffio’r toriadau yw’r peth call i unrhywun wneud rwan. Dim un grwp ond y system gyfalafol oedd dan y lach gennyf felly os gwelwch yn dda peidiwch a cymryd yr erthygl yn rhy bersonol. Gobeithiaf fy mod wedi egluro fy hyn yn well tro hyn, os ddim cawn gytuno i anghytuno a’i gadael hi fanna.