Dilyniant i R.I.P. SRG

Oeddwn i ‘rioed wedi disgwyl cael y fath ymateb i’r erthygl SRG R.I.P… Ond pwy wnaeth ei lofruddio?

Pan weles i fod sôn amdano fo ar ddalen flaen Y Cymro a’i fod yn cael ei drafod ochr yn ochr a sylwadau aflan bigot penderfynnais bod pethau wedi mynd yn hollol dros ben llestri. Dyma’r rheswm dwi’n sgwennu’r ail erthygl. Teimlais fod pobl wedi camddehongli’r erthygl wreiddiol ac mae nifer o bobl wedi codi pwyntiau ac yma ceisiaf rhoi eglurhad iddyn nhw. Dwi ddim yn disgwyl mynd o’r twll dwi ynddo ond dwi’n gobeithio  na wnai gloddio’n  hun yn ddyfnach!

Teimlaf yn gyntaf fy mod wedi cael fy nghamddehongli, yn Y Cymro lle dywedodd fy mod i yn dweud mai cyfalafiaeth a’r artistiaid sydd ar fai. Erthygl yn ymosod ar CYFALAFIAETH a’r hyn y mae’n ei feithrin yn yr SRG a chymdeithas ysgrifenais i; cyfalafiaeth a chyfalafiaeth yn unig oeddwn i’n ei felltithio. Crux yr erthygl oedd bod y system gyfalafol yn milwrio yn erbyn yr SRG ac yr ateb ydi ymgyrchu dros newid yn y system.

Os nad ych yn deall beth yw y gwrth ddywediadau o fewn chyfalafiaeth sy’n golygu ei bod hi’n anghynaladwy o ran cerddoriaeth iaethoedd leafrifol ac anghenion pobol y byd yn gyfredinol darllenwch Introducing Marxism gan Icon Books, eglurhad graffig o safon ydyw a mi wneith o bosib newid y ffordd y dadansoddwch y byd. Mae llu o wefanau ond dyma un fideo GWYCH yn egluro’r syniad yn fras yng nghyd destun yr argyfwng economaidd diweddaraf (mewn ffordd hwylys a doniol peidiwch a poeni, rhowch siawns iddi!):

Awgrymiad tymor byr yw i ffans, artistiaid a phawb ynglwm a’r sin yn rhoi mwy o’u hamser a’u harian i’w gynnal. Dydi hyn ddim yn datrys y brif broblem ond gan fy mod yn gwybod efallai ni newidith y system am amser eto dyma awgrymiad ymarferol o rywbeth all roi hwb i’r SRG. Dwi heb ddarllen pob sylwad oherwydd pan aethon nhw’n bersonol ac yn gas teimlais nad oedd pwynt eu darllen mwyach. Hyd y gwelaf i does neb arall wedi awgrymu’n ymarferol be allwn ni ei wneud i achub diwylliant ifanc Cymraeg. Digon teg fy marnu os oeddech yn credu bod fy mhwyntiau i yn anghywir a buasai’r pethau dwi’n ei hawgrymu yn neud dim i hybu’r SRG ond dim hynny oedd y broblem gan fwyafrif o’r beirniadaethau. Y prif feirniadaeth o’m erthygl oedd mwy neu lai ‘pam ddylai unrhyw un neud rhywbeth am ddim?’. Dyma fy nadleuon i pam y credaf y byddai’n fuddiol  i’r sin os gwnaiff artistiaid rhoi oleiaf dipyn o’u cynnyrch ar y we. Yn gyntaf mae rhai o artistiaid yn rhoi eu cerddoriaeth am ddim ar y we yn barod yn y byd cerddooriaeth iaith Saesneg a Chymraeg, dyma rhai ohonynt:

Dyma pam dydw i ddim yn gweld fod be ddwedais i yn gwbwl afresymol. Wedi ystyried y peth dwi’n deall y feirniadaethau ynglyn a’r pwynt yma. Taswn i yn fy hen swydd mewn siop prydau parod wedi rhoi kebebs a sglodion am ddim buaswn i wedi colli fy swydd. Yr oeddwn yn cymryd yn ganiataol fod creu cerddoriaeth yn bleser a bod pobol yn ei wneud er mwynhad. Mae fel celf graffiti, mae pobol sy’n creu celf graffiti yn gwario pres ac amser yn ei greu er mwynhad eu hunain a phobol eraill a chyffelybu hyn i gerddoriaeth oeddwn i efallai.

Yn ail credaf mai’r rheswm yr oeddwn ddim yn gweld problem i gerddorion wneud rhai pethau am dim oedd oherwydd o nabod pobol hollol anhunanol fel y sosialwyr, anarchwyr, ymgyrchwyr iaith, ymgyrchwyr ecolegol yng Nghaerdydd a ymgyrchai er lles pobol (am ddim) nid oeddwn yn gweld dim byd syfrdanol mewn pobl yn gwneud pethau am ddim os ydynt yn teimlo’n angerddol am y peth. Mae pobol yn treulio amser hamdden, arian, amynedd a hyd yn oed tori’r gyfraith dros ein hawliau a rhyddid. Edrychwch mor bell yr ym wedi dod yn y canrifoedd diwethaf, mae ffordd bell i fynd  eto i gael gwir tegwch a chyfiawnder edrychwr ar hanes y Suffragettes dyna engrhaifft gwych a ddengys fod ymgyrchu yn gallu newid pethau.

Nesaf byddaf yn trafod fy sylwadau am gerddoriaeth y bandiau ifanc. Mae pobl yn meddwl fod apathi yn gyfystyr a niwtralrwydd gwleidyddol o ond allai addo i chi dydi hynny ddim yn wir. Dyma pam mae apathi yn yr SRG yn mynd ar fy nerfau braidd.  Chwedl y Sais ‘If you’re not part of the solution then you’re part of the problem’. Mae apathi yn safbwynt o dderbyn sefyllfa’r byd fel y mae, bod popeth digon da yn barod ac nac oes angen newid dim. Esgusodwch fi ond os nad ych yn gallu gweld problemau’r byd yr ych yn hollol ddall. Yng nghyd destyn Gwledydd Prydain mae’r argyfwng economaidd diweddaraf wedi ei hachosi gan y bancwyr ond y ni sydd yn gorfod talu. Pam ddim cael y Robin Hood Tax? Pam na all y bancwyr dalu am eu llanast? Pam nad yw pobol yn mynnu hyn?

Un o’r pethau yr wyf yn teimlo dylwn i ei ymddiheuro amdano fo oedd tôn yr erthygl. Wedi ei hysgrifennu’n frysiog oedd o a heb ei editio (fel eich bod wedi gweld o’r camsillafu a’r darnau oedd ddim yn llifo). Yr oeddwn yn difaru defnyddio’r dôn or-feirniadol yn enwedig yn y paragraff olaf. Dydw i ddim yn meddwl oedd be ddwedais i yn hollol anghywir, ond yr oedd y ffordd yr oeddwn yn ei ddweud dim yn ystyried teimladau pobl am y pwnc hynod sensitif hwn. Dwi’n ymddiheuro am frifo teimladau- dim hynny oedd y bwriad o gwbl. Efallai ei fod wedi bod mor ymosodol gan fy mod i ychydig yn ddigalon weithiau fod pobol i weld mor apathetig a di hid am dloti, yr iaith, yr amgylchedd a phopeth.  Dydi o ddim yn esgus dros ddefnyddio tôn mor gas ond trio egluro pam oeddwn i wedi ysgrifennu erthygl oedd yn swnio mor flin ydw i.  Teimlo bod pobol ddim yn malio a rhwystredigaeth oedd be wnaeth i mi swnio mor bigog yn y rant ond mi wn fod beiriadu pobol mor llym a ysgrifennu fel mi wnes i ddim am eu hysgogi i ddechrau ymgyrchu debyg iawn.

Dydw i ddim chwaith yn deall pam fod pobol yn cymryd yn ganiataol mai fi sydd yn cwyno am cost CD’s a gigs oedd y darn lle oeddwn yn sôn am cost pethau. Dwi’n mynd i gigs a hapus i dalu pres i weld nhw, mis yn ôl talais 12 punt dim ond i weld Llwybr Llaethog (ac yn anffodus oedd eu set bron a bod drosodd)! Er fy mod i yn talu am gerddoriaeth cymraeg ac yn talu i fynd i fynd i gigs mae’n amlwg dydi hynny ddim yn wir am y lot o Gymry fy oed i. Does dim osgoi’r ffaith bod y mwyafrif llethol o bobol yng Nghymru ddim efo’r amynedd neu yn malio digon am yr iaith neu’r gelfyddyd i brynu’r cd’s a mynd i’r gigs. Wrth i mi ddisgrifio’r rhesymau dros hyn dydw i ddim yn eu cynnig fel cyfiawnhad oherwydd credaf dylai pobol wneud yr ymdrech dros eu diwylliant cynhenid. Cynnig eglurhad gonest oedd fy amcan i ac o ddeall pam bod pobol yn ymddwyn fel hyn gallwn geisio cael syniadau am  ffyrdd i newid y tueddiadau hyn.

Hoffwn ddatgan nad ydw i yn cynrychioli barn cymdeithas yr iaith o gwbwl er fy mod i’n aelod eithaf gweithgar ohoni; siarad fel unigolyn ydw i rhag ofn i chi fynd i gandlyniadau. Nes i ddim ‘trefnu gigs am 2 mlynedd’ efo cymdeithas yn y gogs fel dywedodd Y Cymro, dwi’n byw yng Nghaerdydd i Dwi wedi helpu allan efo y Disgo Dydd i’r Di-waith wedi trio a methu trefnu gig fy hyn efo help trefnwraig lleol noson electroneg. Dwi wedi trio helpu efo gigs cymdeithas  ond dydw i heb fod yn ‘trefnu ers 2 mlynedd’ o gwbwl. Oedd llawer bwriad blwyddyn diwethaf i gell y brifysgol drefnu un ond ni ddigwyddodd unrhywbeth yn anffodus am amryw resymau. I feddwl bod y dau beth ‘mwyaf’ i’r iaith wedi digwydd y flwyddyn dwethaf; y mesur iaith ac toriadau S4C mae pethau eraill wedi cymryd y sylw.

Be sydd yn fy synnu yw fod ymateb mor chwyrn tuagat rhywyn sydd wedi sgwenu erthygl bach am gerddoriaeth a bod hyn yn cythurddo pobol mwy na’r bygythiadau go iawn sy’n bodoli. Mae’r toriadau arfaethedig a’r potensial i rwygo ein cymunedau’n ddarnau a newid bywyd llawer person. Bydd hyd yn oed llai o swyddi yn y Fro Gymraeg (e.e. Gwynedd sydd eisioes gyda mwy na 60% o’r swyddi yno’n ddibynnol ar y sector gyhoeddus) bydd pobl ifanc yn symyd iffwrdd ac arwhan i’r difrod a wnaiff colli swyddi a gwasanaethau hanfodol,  bydd ffaith bod y pobol ifanc yn gadael yn effeithio ar yr iaith Gymraeg hefyd. Fel y dwedais, ymuno a mudiad gwrth gyfalafol neu sefydlu grwpiau cymunedol i gwffio’r toriadau yw’r peth call i unrhywun wneud rwan. Dim un grwp ond y system gyfalafol oedd dan y lach gennyf felly os gwelwch yn dda peidiwch a cymryd yr erthygl yn rhy bersonol. Gobeithiaf fy mod wedi egluro fy hyn yn well tro hyn, os ddim cawn gytuno i anghytuno a’i gadael hi fanna.

R.I.P. SRG… Ond pwy wnaeth ei lofruddio?

Mae’r SRG yn farw gelain yn ôl bob son. Tydi’r gosodiad yma ddim yn fy synnu i ddweud y gwir. Mae’r rhan fwyaf o’r gerddoriaeth Cymraeg dwi’n ei wrando arno o leiaf degawd oed neu gan artistiaid o’r cyfnod gynt sydd wedi parhau i wneud cerddoriaeth. Mae’r gigs yn brin ac ychydig yn ddiflas i gymharu â nosweithiau Seisnig o genres tebyg neu gigs oedd mlaen riw 5 mlynedd yn ôl. Mae cyhoeddiadau fel y Selar yn dda ond anaml iawn mae llawer o son am y gerddoriaeth dwi’n hoff ohono. Efallai mai adlewyrchiad o ddiffeithwch cerddorol ydi’r gwactod yma? Pam bod pethau fel hyn? Pwysicach fyth sut yr atgyfodwn yr SRG o’u bedd?

I mi cerddoriaeth dda ydi cerddoriaeth sydd efo rhywbeth i’w ddweud drwy gyfrwng gair a sain.  Er bod gan gerddoriaeth canol y ffordd Elin Ffluraidd ei le yn y diwylliant Cymraeg dim dyma be ystyriwn fel cerddoriaeth yr SRG. Gwrth ddiwylliant ifanc a chanu protest Cymreig ydi’r SRG i mi ond mae o wedi mynd ar goll rhywle yn y gachfa gyfalafol.

Llwybr Llaethog, Tystion, Datblygu, Pep le Pew…dyma grwpiau oedd efo rhywbeth i’w ddweud am Gymru a’r byd. Lle mae’r llais herfeiddiol oedd yn eiddo i’r bandiau yma yn ein cenhedlaeth ieuanc heddiw? Mae’r byd yn cael ei rheibio gan argyfwng economaidd felly pam ein bod yr SRG wedi ei llethu gan dawelwch?  Does dim synau newydd herfeiddiol nag agwedd gan unrhyw un o’r bandiau newydd. Indie, pop werin, sblash o ska a synau electroneg ddof ydi’r norm Cymreig ac felly y mae hi’n aros. Dim byd yn bod ar y genres yma ond stale ydynt braidd a ddim y genres y dewisaf wrando arnynt. Mae ambell eithriad fel Cyrion a Dau Cefn, efallai bod grwpiau diddorol yn bodoli ond fy mod i ddim yn eu hadnabod… O’r brif ffrwd sy’n gigio does dim lot sy’n fy nghynhyrfu i ddweud y gwir. Un o apathi ‘plant Thatcher’ ydi byd olwg y bandiau ifanc. Wrth iddynt aros yn eu swigen dosbarth canol nid oes ganddynt unrhyw beth i’w ddweud am y byd (arwhan i efallai rant fach am chavs). Teimlaf fod pob agwedd o’r SRG wedi ei thraflyncu gan hunanoldeb, ond eto mae cymdeithas o gyfalafiaeth a huaninoldeb fel rhan an atod ohoni. Dydw i ddim yn siarad am unigolion nac yn cyffredinoli am bawb ond mae’r hunanoldeb yma’n hollbresenol. Mae amryw bethau wedi rhoi’r argraff yma i mi. I ddechrau efo teimlaf fod rhai perfformwyr yn farus. Ar ôl cael pres mawr o chwarae yn y ‘steddfod ac yna mynnu pes afresymol mewn gigs eraill. Dim pob grwp wrth reswm ond yr wyf wedi clywed am faint fynnai rhai am berfformiad a chael fy syfrdanu.

Mae rhai o’r trefnwyr hyd yn oed i weld yn farus. Wedi dweud hyn gwn fod mwyafrif y trefnwyr yn anhygoel a rhoi gwaith go iawn i drefnu dim ond i’w cael eu siomi gan ddiffyg cefnogaeth. Mae trefnwyr eraill yr wyf yn son amdanynt mewn sefyllfa mwy breintiedig lle gallynt gymeryd risg. Bellach gwneud arian ydi’r brif nod yn hytrach ân hyrwyddo cerddoriaeth cymraeg a mae hyn a effaith negatif ar y sin. Un esiampl yw gigs Clwb. Prin iawn oedd y gigs yn fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Yn ddiweddar mae gigs wedi bod mwy rheolaidd on dipyn o siom ydyn nhw (er bod y llawer o grwpiau reit dda wedi chwarae). Mi es i noson oedd Cyrion yn Clwb a thalais tua pumpunt – i noson a oedd yn gorffen 10 neu 11 yh! Yr oedd pawb sobor sant, neb yn dawnsio. Ychydig iawn o bobol oedd yno. Gig anial er bod y gerddoriaeth yn dda. Does neb am dalu 5 punt am noson sy’n gorffen mor gynnar. Fel arfer dydw i na rhan fwyaf o fy ffrindiau yn mynd allan tan 10/11 o leiaf felly pam rhoi gig i orffen yr adeg yma? Sylwais mai’r rheswm dros hyn oedd gan fod Clwb eisiau gwneud pres o’r nosweithiau prif ffrwd seisnig ar ol y gig yn hytrach na roi amser call i gigs cymraeg. Dim fi yw’r unig cwynwraig, oedd yna erthygl ddifyr ym mhapur y brifysgol Gair Rhydd yn trafod pam fod myfyrwyr Cymreig yn mynd i ‘Beach Club’ am noson allan yn hytrach na Clwb.

A be am hunanoldeb ni, y ffans? Pam bod gigs yn wag? Diogi, bod yn dynn efo pres…. Os nad ych yn hoffi’r grwp sy’n perfformio digon teg ond rhowch siawns i’r grwpiau yma cyn eu diystyru’n llwyr! Rhaid i ni’r ffans dynnu ein sannau fynnu a dechrau cefnogi. Does dim diben cwyno bod diffyg gigs wedyn ddim mynd i un pan fo rhywun wedi trefnu’n lleol.

Felly be laddodd y Sin Roc Gymraeg? Be fygodd llais herfeiddiol bandiau ifanc? Be drodd y trefnwyr breintiedig i roi gigiau ‘mlaen ar amseri gwirion neu rhoi’r fath bwysau ar drefnwyr bach nad oes arian genynnt i gymryd y risg o roi gig mlaen o gwbl? Be drodd y bandiau mawr yn farus? Be achosodd i’r ffans fynd mor dyn a’u harian a bodloni ar ddiwylliant estron Eingl-Americanaidd yn hytrach na chefnogi eu diwylliant cynhenid? Cyfalafiaeth wrthhgwrs.

Mewn byd lle mai pres sy’n penderfynnu be di be sut all sin roc diwylliant lleiafrifol oroesi? Y rheswm bod cerddoriaeth yr SRG mor ymylol yn y lle cyntaf ydi oherwydd bod system gyfalafol yn ennyn tuedd mai’r diwylliant sydd efo’r arian (Eingl-Americanaidd) fydd yr un dominyddol.  Be sy’n gwneud y top 10 yn well na cherddoriaeth yr SRG? Dim, yr arian mawr marchnata sy’n penderfynnu be sy’n boblogaidd yn hytrach nac ansawdd y cerddoriaeth. Busnes ydi pob dim. Atgyfodi’r SRG?

Cyfalafiaeth ydi’r broblem. Yr ateb call felly fyddai disodli’r system anghyfiawn gyfalafol.

Ffeindiwch fudiad gwrth-gyfalafol sydd at eich dant, Cymdeithas yr Iaith, un o’r pleidiau Sosialaidd, South Wales Anarchists, ewch ar eu gwefannau am ‘window shop’! Mynychwch gyfarfod a byddwch yn rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid (Gan gynnwys yr hawl i gael diwylliant cyfoes yn eich hiaith ein hunain! ) Dyma’r unig ffordd i ‘achub’ yr SRG a’r diwylliant Cymraeg yn yr hir dymor. Tan i bethu newid rhaid trio cadw’r SRG yn fyw. Sut allwn wneud hyn? Drwy wrthod yr hunanoldeb y mae cyfalafiaeth yn ei feithrin yn ein cymdeithas a’r SRG!

Trefnwch partion a cherddoriaeth Cymraeg  (Odd hipis Llanberis arfer mynd i’r chwareli, pam lai efo’r ha yn dod?) neu trefnwch disgo dydd i’r di-waith efo perfformwyr o’r SRG fel sydd bob mis yn Glanyrafon, Caerdydd. Ffans dechreuwch neud ffansins cerddorol a lledaenwch y gair dros Gymru, gadwech gopis mewn Llyfrgelloedd, Siopau Kebab.. Caffis…Does dim pwynt rhoi o i’ch ffrindiau cymraeg yn unig neu bydd pethau dal i gylchdroi yn yr un clique cymraeg caeedig. Geekiaid cyfrifiadurol uwchlwythwch yr holl gerddoriaeth cymraeg a fodolai ar y we rhywle i ni gael ei ddwyn o.

O ia, dylsai cerddoriaeth Cymraeg bod am ddim. Shock. Horror. Dydi o ddim yn beth newydd i pobol aberthu amser, amynedd ac arian dros yr iaith. Ystyriwch aberth ymgyrchwyr iaith yn y gorffenol. Mae canoedd o fobol wedi cael ac yn cael a ffeins ac amser yn y carchar dros yr iaith. Does dim lle i hunanoldeb mewn diwylliant lleafrifol neu fydd dim parhad iddi. Dydw i ddim yn erbyn y badiau cael digon o arian i gael offer a talu costau ond credaf fod wir angen pob artist uwchlwytho oleiaf un albym i fod am ddim ar y we fel mae Mr Huw wedi ei wneud. Fydd hyn yn golygu fydd mwy o fobol yn debygol o ddod i gigs yr artist ac yn prynnu eu albymau eraill. Dalltwch fod pobol ifanc eithaf sgint adydyn ni ddim am gymryd y risg o brynu albym a ninau heb ei chlywed hi (albyms Saesneg ar Spotify, cerddoriaeth mewn clybiau nos). Fydd uwchlwytho eich albyms am ddim ar y we yn rhoi hwb i’r sin a cael ffans newydd!

Ydwi’n mwydro a malu cachu? Be ydi’ch ateb chi i broblemau’r SRG?

Mwy o farnau ar sioe Huw Stephens ar BBC Radio Cymru 10PM heno. Croeso i ti anfon erthygl i’r Twll gyda dy farnau dy hun, yn enwedig os ti’n gerddor.